Lombok: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: fy:Lombok (eilân)
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B [r2.6.4] robot yn ychwanegu: bjn:Pulaw Lombok
Llinell 12: Llinell 12:


[[ace:Lombok]]
[[ace:Lombok]]
[[bjn:Pulaw Lombok]]
[[bn:লম্বক (দ্বীপ)]]
[[bn:লম্বক (দ্বীপ)]]
[[ca:Lombok]]
[[ca:Lombok]]

Fersiwn yn ôl 13:56, 25 Tachwedd 2010

Ynys Lombok o'r gofod.

Mae Lombok yn un o ynysoedd Indonesia; un o gadwyn yr Ynysoedd Swnda Lleiaf, gydag ynys Bali i'r gorllewin ag ynys Sumbawa i'r dwyrain. Y brifddinas yw Mataram. Mae Culfor Lombok rhwng Lombok a Bali yn dynodi'r rhaniad rhwng bywyd gwyllt y rhanbarth Indomalaiaidd yn y gorllewin a'r rhanbarth Awstralasaidd yn y dwyrain. Gelwir y llinell rhwng y rhanbarthau hyn yn Linell Wallace ar ôl Alfred Russel Wallace, y cyntaf i nodi'r gwahaniaeth.

Y mynydd uchaf ar yr ynys yw Mynydd Rinjani (Indoneseg:Gunung Rinjani), 3,726 m (12,224 troedfedd) o uchder, y trydydd uchaf yn Indonesia. Mae 85% o boblogaeth yr ynys yn perthyn i grŵp ethnig y Sasak, gyda 10-15% yn ymfudwyr o Bali.

Gunung Rinjani o Gili Air

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol