Brwydr Maes Maen Cymro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Brwydr fawr |
Brwydr fawr oedd '''Brwydr Maes Maen Cymro''' a ymladdwyd yn [[1118]] ger [[Rhewl]], ger [[Rhuthun]], [[Sir Ddinbych]]. Achos y frwydr oedd yr ymgiprys rhwng teyrnasoedd [[Teyrnas Powys|Powys]] a [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] dros reolaeth ar [[Y Berfeddwlad]]. |
||
Roedd Gwynedd yn ceisio ehangu i gyfeiriad y dwyrain trwy gipio [[Rhos]] a [[Rhufoniog]]. Rheolwyd y ddau gantref hynny gan yr Arglwydd Hywel ab Ithel, un o ddeiliaid [[Maredudd ap Bleddyn]], brenin Powys. Yn 1118, gyda llu Maredudd, ymosodd Hywel ar arglwyddi [[Dyffryn Clwyd]]. Enillodd lluoedd Hywel a Maredudd y dydd ond lladdwyd Hywel ei hun ar faes y gad.<ref name="Williams">A. H. Williams, ''An Introduction to the History of Wales'', cyfrol II (Gwasg Prifysgol Cymru, d.d.), tud. 9.</ref> |

Fersiwn yn ôl 20:09, 22 Tachwedd 2010
Brwydr fawr oedd Brwydr Maes Maen Cymro a ymladdwyd yn 1118 ger Rhewl, ger Rhuthun, Sir Ddinbych. Achos y frwydr oedd yr ymgiprys rhwng teyrnasoedd Powys a Gwynedd dros reolaeth ar Y Berfeddwlad.
Roedd Gwynedd yn ceisio ehangu i gyfeiriad y dwyrain trwy gipio Rhos a Rhufoniog. Rheolwyd y ddau gantref hynny gan yr Arglwydd Hywel ab Ithel, un o ddeiliaid Maredudd ap Bleddyn, brenin Powys. Yn 1118, gyda llu Maredudd, ymosodd Hywel ar arglwyddi Dyffryn Clwyd. Enillodd lluoedd Hywel a Maredudd y dydd ond lladdwyd Hywel ei hun ar faes y gad.[1]
Bu farw Hywel heb etifedd i'w olynu. Ymddengys nad oedd Maredudd ap Bleddyn yn ddigon cryf i gymryd meddiant ar arglwyddiaeth Hywel. Felly cipwyd y deyrnas fechan gan feibion Gruffudd ap Cynan a'i gwneud yn rhan o deyrnas Gwynedd. Roedd hynny'n gam pwysig yn hanes Gwynedd am ei fod yn sicrhau terfynau dwyreiniol y deyrnas honno ac yn galluogi'r brenin i ehangu i gyfeiriad y de, unwaith eto ar draul Powys.[1]