Brwydr Maes Maen Cymro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Roedd Gwynedd yn ceisio ehangu i gyfeiriad y dwyrain trwy gipio [[Rhos]] a [[Rhufoniog]]. Rheolwyd y ddau gantref hynny gan yr Arglwydd Hywel ab Ithel, un o ddeiliaid [[Maredudd ap Bleddyn]], brenin Powys. Yn 1118, gyda llu Maredudd, ymosodd Hywel ar arglwyddi [[Dyffryn Clwyd]]. Enillodd lluoedd Hywel a Maredudd y dydd ond lladdwyd Hywel ei hun ar faes y gad.<ref name="Williams">A. H. Williams, ''An Introduction to the History of Wales'', cyfrol II (Gwasg Prifysgol Cymru, d.d.), tud. 9.</ref>
Roedd Gwynedd yn ceisio ehangu i gyfeiriad y dwyrain trwy gipio [[Rhos]] a [[Rhufoniog]]. Rheolwyd y ddau gantref hynny gan yr Arglwydd Hywel ab Ithel, un o ddeiliaid [[Maredudd ap Bleddyn]], brenin Powys. Yn 1118, gyda llu Maredudd, ymosodd Hywel ar arglwyddi [[Dyffryn Clwyd]]. Enillodd lluoedd Hywel a Maredudd y dydd ond lladdwyd Hywel ei hun ar faes y gad.<ref name="Williams">A. H. Williams, ''An Introduction to the History of Wales'', cyfrol II (Gwasg Prifysgol Cymru, d.d.), tud. 9.</ref>


Bu farw Hywel heb etifedd i'w olynu. Ymddengys nad oedd Maredudd ap Bleddyn yn ddigon cryf i gymryd meddiant ar arglwyddiaeth Hywel. Felly cipwyd y deyrnas fechan gan feibion [[Gruffudd ap Cynan]] a'i gwneud yn rhan o deyrnas Ngwynedd. Roedd hynny'n gam pwysig yn hanes Gwynedd am ei fod yn sicrhau terfynau dwyreiniol y deyrnas ac yn galluogi'r brenin i ehangu i gyfeiriad y de, unwaith eto ar draul Powys.<ref name="Williams"/>
Bu farw Hywel heb etifedd i'w olynu. Ymddengys nad oedd Maredudd ap Bleddyn yn ddigon cryf i gymryd meddiant ar arglwyddiaeth Hywel. Felly cipwyd y deyrnas fechan gan feibion [[Gruffudd ap Cynan]] a'i gwneud yn rhan o deyrnas Gwynedd. Roedd hynny'n gam pwysig yn hanes Gwynedd am ei fod yn sicrhau terfynau dwyreiniol y deyrnas honno ac yn galluogi'r brenin i ehangu i gyfeiriad y de, unwaith eto ar draul Powys.<ref name="Williams"/>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 20:02, 22 Tachwedd 2010

Brwydr fawr rhwng lluoedd teyrnasoedd Powys a Gwynedd oedd Brwydr Maes Maen Cymro a ymladdwyd yn 1118 ger Rhewl, ger Rhuthun, Sir Ddinbych. Achos y frwydr oedd yr ymgiprys rhwng y ddwy deyrnas dros reolaeth ar Y Berfeddwlad.

Roedd Gwynedd yn ceisio ehangu i gyfeiriad y dwyrain trwy gipio Rhos a Rhufoniog. Rheolwyd y ddau gantref hynny gan yr Arglwydd Hywel ab Ithel, un o ddeiliaid Maredudd ap Bleddyn, brenin Powys. Yn 1118, gyda llu Maredudd, ymosodd Hywel ar arglwyddi Dyffryn Clwyd. Enillodd lluoedd Hywel a Maredudd y dydd ond lladdwyd Hywel ei hun ar faes y gad.[1]

Bu farw Hywel heb etifedd i'w olynu. Ymddengys nad oedd Maredudd ap Bleddyn yn ddigon cryf i gymryd meddiant ar arglwyddiaeth Hywel. Felly cipwyd y deyrnas fechan gan feibion Gruffudd ap Cynan a'i gwneud yn rhan o deyrnas Gwynedd. Roedd hynny'n gam pwysig yn hanes Gwynedd am ei fod yn sicrhau terfynau dwyreiniol y deyrnas honno ac yn galluogi'r brenin i ehangu i gyfeiriad y de, unwaith eto ar draul Powys.[1]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 A. H. Williams, An Introduction to the History of Wales, cyfrol II (Gwasg Prifysgol Cymru, d.d.), tud. 9.
Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.