Brwydr Maes Maen Cymro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
newydd |
ehangu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Brwydr fawr rhwng [[Powys]] a [[Gwynedd]] oedd '''Brwydr Maes Maen Cymro''' a ymladdwyd yn [[1118]] ger [[Rhuthun]], [[Sir Ddinbych]]. |
Brwydr fawr rhwng lluoedd teyrnasoedd [[Teyrnas Powys|Powys]] a [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] oedd '''Brwydr Maes Maen Cymro''' a ymladdwyd yn [[1118]] ger [[Rhewl]], ger [[Rhuthun]], [[Sir Ddinbych]]. Achos y frwydr oedd yr ymgiprys rhwng y ddwy deyrnas dros reolaeth ar [[Y Berfeddwlad]]. |
||
Roedd Gwynedd yn ceisio ehangu i gyfeiriad y dwyrain trwy gipio [[Rhos]] a [[Rhufoniog]]. Rheolwyd y ddau gantref hynny gan yr Arglwydd Hywel ab Ithel, un o ddeiliaid [[Maredudd ap Bleddyn]], brenin Powys. Yn 1118, gyda llu Maredudd, ymosodd Hywel ar arglwyddi [[Dyffryn Clwyd]]. Enillodd lluoedd Hywel a Maredudd y dydd ond lladdwyd Hywel ei hun ar faes y gad.<ref name="Williams">A. H. Williams, ''An Introduction to the History of Wales'', cyfrol II (Gwasg Prifysgol Cymru, d.d.), tud. 9.</ref> |
|||
Bu farw Hywel heb etifedd i'w olynu. Ymddengys nad oedd Maredudd ap Bleddyn yn ddigon cryf i gymryd meddiant ar arglwyddiaeth Hywel. Felly cipwyd y deyrnas fechan gan feibion [[Gruffudd ap Cynan]] a'i gwneud yn rhan o deyrnas Ngwynedd. Roedd hynny'n gam pwysig yn hanes Gwynedd am ei fod yn sicrhau terfynau dwyreiniol y deyrnas ac yn galluogi'r brenin i ehangu i gyfeiriad y de, unwaith eto ar draul Powys.<ref name="Williams"/> |
|||
==Cyfeiriadau== |
|||
{{cyfeiriadau}} |
|||
[[Categori:1118]] |
[[Categori:1118]] |
||
[[Categori:Brwydrau Cymru|Maes Maen Cymro]] |
[[Categori:Brwydrau Cymru|Maes Maen Cymro]] |
||
[[Categori:Hanes |
[[Categori:Hanes Sir Ddinbych]] |
||
[[Categori: |
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]] |
||
[[Categori:Teyrnas Powys]] |
|||
{{eginyn hanes Cymru}} |
Fersiwn yn ôl 19:58, 22 Tachwedd 2010
Brwydr fawr rhwng lluoedd teyrnasoedd Powys a Gwynedd oedd Brwydr Maes Maen Cymro a ymladdwyd yn 1118 ger Rhewl, ger Rhuthun, Sir Ddinbych. Achos y frwydr oedd yr ymgiprys rhwng y ddwy deyrnas dros reolaeth ar Y Berfeddwlad.
Roedd Gwynedd yn ceisio ehangu i gyfeiriad y dwyrain trwy gipio Rhos a Rhufoniog. Rheolwyd y ddau gantref hynny gan yr Arglwydd Hywel ab Ithel, un o ddeiliaid Maredudd ap Bleddyn, brenin Powys. Yn 1118, gyda llu Maredudd, ymosodd Hywel ar arglwyddi Dyffryn Clwyd. Enillodd lluoedd Hywel a Maredudd y dydd ond lladdwyd Hywel ei hun ar faes y gad.[1]
Bu farw Hywel heb etifedd i'w olynu. Ymddengys nad oedd Maredudd ap Bleddyn yn ddigon cryf i gymryd meddiant ar arglwyddiaeth Hywel. Felly cipwyd y deyrnas fechan gan feibion Gruffudd ap Cynan a'i gwneud yn rhan o deyrnas Ngwynedd. Roedd hynny'n gam pwysig yn hanes Gwynedd am ei fod yn sicrhau terfynau dwyreiniol y deyrnas ac yn galluogi'r brenin i ehangu i gyfeiriad y de, unwaith eto ar draul Powys.[1]