Plancton: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Robot yn ychwanegu: be:Планктон; cosmetic changes
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: be-x-old:Плянктон
Llinell 15: Llinell 15:
[[az:Plankton]]
[[az:Plankton]]
[[be:Планктон]]
[[be:Планктон]]
[[be-x-old:Плянктон]]
[[bg:Планктон]]
[[bg:Планктон]]
[[ca:Plàncton]]
[[ca:Plàncton]]

Fersiwn yn ôl 23:38, 15 Tachwedd 2010

Tomopteris, un esiampl o'r anifeiliaid yn y plancton

Organebau bychain o wahanol fathau sy'n byw yn rhydd yn y dŵr yw plancton. Mae'r rhain yn ffurfio rhan hanfodol a sylfaenol o'r gadwyn fwyd yn y môr. Gall y plancton fod yn facteria, yn blanhigion neu'n anifeiliaid bychan. Daw'r enw o'r Groeg πλανκτος ("planktos"), sy'n golygu "crwydryn".

Fel rheol nid yw'r organebau placton yn symud llawer o le i le trwy nofio, yn hytrach yn cael eu symud yma ac acw gan gerrynt. Fodd bynnag, maent yn aml yn symud i fyny ac i lawr yn y dŵr, gan godi i'r wyneb yn y nos a mynd yn ddyfnach yn ystod y dydd. Gall rhai mathau nofio o gwmpas i raddau helaeth.

Mae plancton yn fwyd i lawer o anifeiliaid eraill yn y môr, o folwsgiaid megis cocos hyd at forfilod.