Gorseth Kernow: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cefndir: Gwaredu a wybodaeth sydd bellach yn amherthnasol i'r erthygl.
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr
Llinell 145: Llinell 145:


==Ffynonellau==
==Ffynonellau==
* Hanes Gorsedd y Beirdd gan [[Geraint Bowen]] a [[Zonia Bowen]] . Cyhoeddiadau Barddas , Dinbych 1991
* Hanes Gorsedd y Beirdd gan [[Geraint Bowen]] a [[Zonia Bowen]] . Cyhoeddiadau Barddas, Dinbych 1991
* Craig Weatherhill, ''Cornish Place Names & Language'' (Sigma Leisure, 1995) ISBN 1-85058-837-6
* Craig Weatherhill, ''Cornish Place Names & Language'' (Sigma Leisure, 1995) ISBN 1-85058-837-6
* Jon Jenkin, ''Byrth Gorseth Kernow 1928-2007: Bards of the Gorseth of Cornwall'' (Gorseth Kernow, 2007) ISBN 1-903668-01-6
* Jon Jenkin, ''Byrth Gorseth Kernow 1928-2007: Bards of the Gorseth of Cornwall'' (Gorseth Kernow, 2007) ISBN 1-903668-01-6

Fersiwn yn ôl 19:31, 29 Medi 2019

Sefydliad diwylliannol Cernywaidd a sefydlwyd i gynnal ysbryd Celtaidd cenedlaethol Cernyw yw Gorseth Kernow ('Gorsedd Cernyw'). Mae'n cyfateb i Gorsedd y Beirdd yng Nghymru a Goursez Vreizh yn Llydaw ac yn cydweithredu â'r chwaer orseddau hynny.

Cefndir

'Arglwyddes Cernyw' a'i llawforwynion yng Ngorseth 2007 (Penzance)

Sefydlwyd Gorseth Kernow gan Henry Jenner yn 1928 yn Boscawen-un. Un o arweinwyr cynnar i fudiad i ailsefydlu'r Gernyweg oedd Jenner, a chymerodd yr enw barddol 'Gwas Myghal' ("Gwas Mihangel"). Cafodd ef a deuddeg arall eu hurddo gan Archdderwydd Cymru. Cynhalwyd y Gorseth bob blwyddyn ers hynny (ac eithrio yn yr Ail Ryfel Byd. Mae'r rhai a urddwyd yn feirdd yn cynnwys Ken George, R. Morton Nance ("Mordon") a'r ysgolhaig Peter Berresford Ellis.

Amcan swyddogol Gorseth Kernow yw "cynnal ysbryd Celtaidd cenedlaethol Cernyw," ac mae'n cefnogi pob ymdrech i hyrwyddo'r iaith Gernyweg. Yn ogystal, mae'r Gorseth yn hyrwyddo hanes a diwylliant Cernyw. Fe'i cynhelir yn flynyddol mewn gwahanaol ardaloedd ac mae'n rhan bwysig o fywyd Cernyw, fel yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghymru, gyda llawer o bobl yn cystadlu ynddi.

Urddir pobl sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i ddiwylliant Cernyw â'r teitl 'Bardd' (ni cheir 'derwyddon' ac 'ofyddion' fel yng Nghymru). Anrhydedd diwyllianol yw hyn, yn hytrach na chydnabyddiaeth o ragoriaeth fel bardd fel y cyfryw. Rhoddir enwau barddol Cernyweg i'r 'beirdd' hyn gan yr archdderwydd a'u derbyn i Goleg y Beirdd.

Hanes

Cynhaliwyd y seremoni gyntaf yng ngylch cerrig Boscawen-Un yn 1928. John Owen Williams (Pedrog), y bardd ac archdderwydd o Gymro, a agorodd yr orsedd, ar erfyniad Henry Jenner a Robert Morton Nance, ar batrwm Gorsedd y Beirdd yng Nghymru. Henry Jenner fu'r Prifardd cyntaf. Roedd y 'beirdd' eraill yn cynnwys:

Mae Gorseth Kernow yn cydnabod ac yn defnyddio pob fersiwn o'r iaith Gernyweg adfywiedig (gweler Cernyweg).

Beirdd Cernyw a lleoliada'r Orsedd ers 1899

Rhestr o Brifeirdd Gorseth Kernow ers 1928

Ffynonellau

  • Hanes Gorsedd y Beirdd gan Geraint Bowen a Zonia Bowen . Cyhoeddiadau Barddas, Dinbych 1991
  • Craig Weatherhill, Cornish Place Names & Language (Sigma Leisure, 1995) ISBN 1-85058-837-6
  • Jon Jenkin, Byrth Gorseth Kernow 1928-2007: Bards of the Gorseth of Cornwall (Gorseth Kernow, 2007) ISBN 1-903668-01-6

Dolenni allanol