Cilogram: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Diweddaru'r diffiniad
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:CGKilogram.jpg|307px|bawd|dde|Delwedd o'r ''International Prototype Kilogram'' (“IPK”), sef y cilogram yr oedd pob cilogram drwy'r byd wedi'i sylfaenu arno. Fe welir pren mesur gyda modfeddi wrth ei ochr. Fe'i wnaed o [[platinwm|blatinwm]]-[[iridiwn]] a chaiff ei storio yn folts y [[Bureau International des Poids et Mesures|BIPM]] yn [[Sèvres]], Ffrainc. ]]
[[Delwedd:CGKilogram.jpg|307px|bawd|dde|Delwedd o'r ''International Prototype Kilogram'' (“IPK”), sef y cilogram yr oedd pob cilogram drwy'r byd wedi'i sylfaenu arno. Fe welir pren mesur gyda modfeddi wrth ei ochr. Fe'i wnaed o [[platinwm|blatinwm]]-[[iridiwn]] a chaiff ei storio yn folts y [[Bureau International des Poids et Mesures|BIPM]] yn [[Sèvres]], Ffrainc. ]]

Y '''Cilogram''' (neu '''Kilogram''') yw'r uned sylfaenol o fas yn [[System Rhyngwladol o Unedau|Uned Safonol Ryngwladol o Unedau]] (''International System of Units'', ('''SI''', o'r Ffrangeg, ''Le '''S'''ystème '''I'''nternational d’Unités''). Ers 20 Mai 2019 mae wedi ei ddiffinio yn nhermau cysonion ffisegol sylfaenol. Cyn 20 Mai 2019, roedd wedi ei ddiffinio gan silindr o aloi [[platinwm]], y ''Cilogram Prototeip Rhyngwladol'' (yn anffurfiol ''Le Grand K'' neu IPK) a wnaethpwyd yn 1889, a gadwyd yn ofalus yn [[Saint-Cloud]], maestref o [[Paris|Baris]].
Y '''cilogram''' (neu '''kilogram''') yw'r uned sylfaenol o fas yn [[System Rhyngwladol o Unedau|Uned Safonol Ryngwladol o Unedau]] (''International System of Units'', ('''SI''', o'r Ffrangeg, ''Le '''S'''ystème '''I'''nternational d’Unités''). Ers 20 Mai 2019 mae wedi ei ddiffinio yn nhermau cysonion ffisegol sylfaenol. Cyn 20 Mai 2019, roedd wedi ei ddiffinio gan silindr o aloi [[platinwm]], y ''Cilogram Prototeip Rhyngwladol'' (yn anffurfiol ''Le Grand K'' neu IPK) a wnaethpwyd yn 1889, a gadwyd yn ofalus yn [[Saint-Cloud]], maestref o [[Paris|Baris]].


Yn Gymraeg, defnyddiwn y symbol rhyngwladol '''kg''', gan y byddai gwrthdaro gydag uned arall (y centigram) pe bawn yn defnyddio cg.
Yn Gymraeg, defnyddiwn y symbol rhyngwladol '''kg''', gan y byddai gwrthdaro gydag uned arall (y centigram) pe bawn yn defnyddio cg.

Fersiwn yn ôl 22:45, 28 Medi 2019

Delwedd o'r International Prototype Kilogram (“IPK”), sef y cilogram yr oedd pob cilogram drwy'r byd wedi'i sylfaenu arno. Fe welir pren mesur gyda modfeddi wrth ei ochr. Fe'i wnaed o blatinwm-iridiwn a chaiff ei storio yn folts y BIPM yn Sèvres, Ffrainc.

Y cilogram (neu kilogram) yw'r uned sylfaenol o fas yn Uned Safonol Ryngwladol o Unedau (International System of Units, (SI, o'r Ffrangeg, Le Système International d’Unités). Ers 20 Mai 2019 mae wedi ei ddiffinio yn nhermau cysonion ffisegol sylfaenol. Cyn 20 Mai 2019, roedd wedi ei ddiffinio gan silindr o aloi platinwm, y Cilogram Prototeip Rhyngwladol (yn anffurfiol Le Grand K neu IPK) a wnaethpwyd yn 1889, a gadwyd yn ofalus yn Saint-Cloud, maestref o Baris.

Yn Gymraeg, defnyddiwn y symbol rhyngwladol kg, gan y byddai gwrthdaro gydag uned arall (y centigram) pe bawn yn defnyddio cg.

Mae'r uned hon (sef y cilogram) yn 2.20462262 pwys (yr hen bwysau 'Imperial'). Uned arferol dwysedd yw cilogram pob metr ciwb (cg/m³).

Lle

ρ yw dwysedd y gwrthrych (wedi'i fesur mewn cilogram pob metr ciwb)
m yw màs cyfan y gwrthrych (wedi'i fesur mewn cilogramau)
C yw cyfaint cyfan y gwrthrych (wedi'i fesur mewn metrau ciwb)

Hanes

Ar 26 Mawrth 1791 danfonodd Ffrancwr o'r enw Charles Maurice de Talleyrand-Périgord lythyr at Lywodraeth Ffrainc yn galw am safoni'r grefft o fesur. Pedwar diwrnod ar ôl derbyn y llythyr hwn, sefydlodd y llywodraeth Academi a rhannwyd y gwaith gan greu unedau metrig sy'n parhau i gael eu defnyddio heddiw.

Ar 7 Ebrill 1795 cyhoeddwyd yn Ffrainc fod y gram yn hafal i "bwysau absoliwt cyfaint y dŵr sydd mewn ciwb 1cm wrth 1cm (un centimetr ciwb), a hynny ar dymheredd rhew.[1] Ond roedd diwydiant yn gweiddi am fesurau mwy na'r centimetr a'r gram. Sylweddolwyd hefyd fod pwysau rhew yn amrywiol ac yn ddibynnol ar nifer o ffactorau ac felly aethpwyd ati i greu prototeip mwy ymarferol na dŵr, a fyddai 1000 gwaith yn fwy na'r gram, sef y "kilogram". Yn yr un flwyddyn, aethpwyd ymlaen â'r gwaith o ddiffinio "litr".

Cyfeiriadau