Ysgol Brynhyfryd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Dolenni allanol: cat |
|||
Llinell 62: | Llinell 62: | ||
*[[Ysgol Cyffylliog]] |
*[[Ysgol Cyffylliog]] |
||
*[[Ysgol Pen Barras]] |
*[[Ysgol Pen Barras]] |
||
*[[Ysgol Bro Cinmeirch]] ([[Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch|Llanrhaeadr]]) |
|||
*[[Ysgol Llanrhaeadr Dyffryn Clwyd]] |
|||
*[[Ysgol Maes Hyfryd]] |
*[[Ysgol Maes Hyfryd]] |
||
Fersiwn yn ôl 14:29, 12 Tachwedd 2010
Ysgol Brynhyfryd | |
---|---|
Arwyddair | Cyd-weithio er mwyn rhagori |
Sefydlwyd | 1898 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Mrs Eleri E. Jones |
Lleoliad | Rhuthun, Sir Ddinbych, Cymru |
Disgyblion | 1224 (2008)[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11+ |
Ysgol uwchradd gyfun yn Rhuthun, Sir Ddinbych yw Ysgol Brynhyfryd, ar gyfer plant 11 i 18 oed. Sefydlwyd yr ysgol yn wreiddiol yn 1898 o dan yr enw Ruthin County School for Girls, gyda bechgyn yr ardal yn teithio i Ddinbych i dderbyn eu haddysg. Datganiad o fwriad yr ysgol yw: "Cyd-weithio er mwyn rhagori". Mrs Eleri E. Jones yw pennaeth presenol yr ysgol.
Hanes yr ysgol
Yn 1938, cafodd ei hailenwi yn Brynhyfryd School, fe dderbyniodd yr ysgol fechgyn a merched a daeth plant i'r ysgol o dalgylch ehangach: hyd at chwe milltir i ffwrdd. Adnabyddwyd yr ysgol o dan ei henw Cymraeg ers yr 1970au. Roedd cryn waith adeiladu yn yr ysgol yn yr 1950au a'r 1970au cynnar. Cynyddodd nifer y disgyblion o 700 i 1000 o fewn blwyddyn yn ystod yr 1970au, pan godwyd yr oedran gadael ysgol o 15 i 16. Arwyddair yr ysgol yw Nid dysg heb foes.
Roedd Brynhyfryd yn un o arloeswyr Bagloriaeth Cymru ar ddechrau'r 2000au.
Arolygiadau
Arolygiad 2000
Dywed adroddiad ESTYN 2000, fod tua 1230 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2000, a 240 ohonynt yn y chweched ddosbarth. Daeth 40% o'r dref a 60% o'r ardal wledig. Daeth 35% o’r disgyblion o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith y cartref, ac 1% o gartrefi lle nad oedd y Gymraeg na'r Saesneg yn brif iaith gartref. Gallai 40% siarad Cymraeg i safon iaith gyntaf. Daw tua 1% o’r disgyblion o gefndiroedd ethnig lliw ac yn siarad ieithoedd ar wahân i'r Saesneg neu’r Gymraeg gartref. Yn ôl yr adroddiad, roedd safon yr addysg yn dda.[2]
Arolygiad 2008
Cafwyd arolygiad arall yn Rhagfyr 2008, roedd 1224 o ddisgyblion ar y gofrestr pryd hynnu, a dywedodd yr adroddiad y daw tua 74% o'r disgyblion o gartrefi lle siaredir Saesneg yn brif iaith, a 25% o gartrefi Cymraeg eu hiaith. Mae 33% o ddisgyblion yn siarad Cymraeg i safon iaith gyntaf.[1]
Cyfleusterau
Mae hefyd rhwydwaith o gyfleusterau celf a Theatr John Ambrose, a gafodd ei enwi ar ôl cyn-brifathro o'r 1980au a'r 1990 au, agorwyd y theatr gan yr actor Rhys Ifans, a fagwyd yn Rhuthun ac a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug, - fel llawer o Gymry Cymraeg Rhuthun yr adeg honno - gan fod honno'n ysgol Gymraeg.
Yn 2003, adeiladwyd 20 dosbarth newydd yn yr ysgol i gymryd lle hen ystafelloedd symudol a ffreutur newydd sbon yn 2008. Gwariwyd 1.6 milliwn o bunnoedd ar yr ysgol i'w gwella. Mae adeilad y chweched ddosbarth yn adeilad rhestredig Gradd II gan Cadw.[3] Mae cyfleusterau chwaraeon yr ysgol yn cynnwys pwll nofio, ac yn cael eu defnyddio fel canolfan hamdden y dref hefyd.
Ysgolion cynradd yn nhalgylch yr ysgol
- Ysgol Pentrecelyn
- Ysgol Cerrigydrudion
- Ysgol Rhewl
- Ysgol Cyffylliog
- Ysgol Pen Barras
- Ysgol Bro Cinmeirch (Llanrhaeadr)
- Ysgol Maes Hyfryd
Cyn-athrawon o nôd
Bu'r hanesydd Frank Price Jones yn athro yn yr ysgol ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu awdures 'Lleian Llan Llŷr' sef Rhiannon Davies Jones hefyd ar staff yr ysgol, yn yr adran Gymraeg.
Cyn-ddisgyblion o nôd
- Seren Gibson - model
- Tom Pryce - gyrrwr rasio ceir
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Adroddiad Ysgol Brynhyfryd. Estyn (2008).
- ↑ Adroddiad Ysgol Brynhyfryd. Estyn (18 – 22 Tachwedd 2002).
- ↑ Ceisiadau Am Ganiatad Datblygu. Pwyllgor Cynllunio (4 Hydref 2006).