Francesco Petrarca: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: lv:Frančesko Petrarka
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: sq:Françesko Petarka
Llinell 73: Llinell 73:
[[sk:Francesco Petrarca]]
[[sk:Francesco Petrarca]]
[[sl:Francesco Petrarca]]
[[sl:Francesco Petrarca]]
[[sq:Françesko Petarka]]
[[sr:Франческо Петрарка]]
[[sr:Франческо Петрарка]]
[[sv:Francesco Petrarca]]
[[sv:Francesco Petrarca]]

Fersiwn yn ôl 14:41, 10 Tachwedd 2010

Petrarca
Petrarca

Bardd, awdur ac ysgolhaig Eidalaidd oedd Francesco Petrarca, hefyd Pertrarch (20 Gorffennaf 1304 - 19 Gorffennaf 1374). Ystyrir ef yn un o ffigyrau amlycaf y Dadeni Dysg yn yr Eidal a sylfaenydd Dyneiddiaeth.

Cafodd ei eni yn Arezzo. Roedd ei dad wedi ei alltudio o Fflorens gyda Dante fel un o arweinwyr y Welfiaid, a threuliodd Petrarca ei ieuenctod yn Avignon. Astudiodd ym Montpellier (1319-1323) cyn astudio'r gyfraith yn Bologna o 1323 hyd 1325. Daeth yn gyfeillgar a Giovanni Boccaccio. Yn 1326, wedi marwolaeth ei dad, dychwelodd i Avignon, lle parhaodd i astudio'r clasuron Lladin.

Er ei fod ef ei hun yn ystyried mai ei weithiau athronyddol mewn Lladin oedd ei weithiau pwysicaf, daeth yn enwog am ei gerddi mewn Eidaleg, y Canzoniere, yn enwedig ei gerddi serch i "Laura". Galwyd y soned Betrarchaidd ar ei ôl.

Gweithiau

  • Africa (arwrgerdd am Scipio Africanus)
  • De viris illustribus
  • Rerum memorandarum libri
  • Canzoniere