Crug y Bryncws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 05:38, 10 Tachwedd 2010

Crug crwn enfawr a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crug y Bryncws (Saesneg: Foxhill Round Barrow), yng nghymuned St Dogfael , Sir Benfro; cyfeiriad grid SN151453. Mae'n mesur 50 metr mewn diamedr ac yn 3.4 metr o ran uchder, sy'n ei gwneud yn un o'r crugiau mwyaf yng Nghymru. Oherwydd ei faint, cred rhai archaeolegwyr mai bryncyn naturiol ydyw, er nad oes cloddfa wedi bod yma.

Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: PE326.[1]

Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb. Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[2]

Gweler hefyd

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Dolen allanol

Cyfeiriadau