Crug crwn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
arall |
maes maelor - whapar! |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
==Rhai crugiau crynion dethol== |
==Rhai crugiau crynion dethol== |
||
* [[Maes Mochnant Isaf]] |
* [[Maes Mochnant Isaf]]: Powys: 40 metr mewn diamedr. |
||
* [[Crug Maes Maelor]], Llandegla: 4.5m<ref>[http://www.coflein.gov.uk/en/site/307096/details/MAES+MAELOR%2C+MOUND/ Gwefan Coflein]</ref> |
|||
* [[Crug Ysgwennant]], Powys; 2.4 metr o uchder, ar fryncyn naturiol. |
|||
* [[Crug Llanharan]] |
* [[Crug Llanharan]]: 3.4m o uchder. |
||
* [[Casgan Ditw]]: 3.0m o uchder. |
|||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
Fersiwn yn ôl 07:51, 6 Tachwedd 2010
- Gweler hefyd: rhestr o grugiau crynion yng Nghymru
Pentwr o bridd wedi'i osod gan bobl Oes yr Efydd fel rhan o'u seremoniau neu i gladdu'r meirw ydy crug crwn (enw gwrywaidd; Saesneg: round barrow). "Bryncyn" neu "bentwr" ydy prif ystyron y gair Cymraeg 'crug', sy'n elfen bur gyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru. Cruc ydy'r gair yn yr Hen Gernyweg a'r Hen Lydaweg a cruach yn yr Hen Wyddeleg. Mae'r gair i'w gael o fewn rhai ffurfiau Lladin ar hen enwau lleoedd Brythoneg megis Pennocrucium, sef Penkridge heddiw ac fe'i benthycir yn y Saesneg fel "crick" fel yn y gair "Crick-howell". Y lluosog ydy: crugiau crwn neu crugiau crynion.
Pan fo siambr neu gell o fewn y crug i ddal y corff yna gelwir y crug yn siambr gladdu. Pan fo'r glaw a'r gwynt wedi'i herydu yna caiff ei disgrifio fel carnedd. Yng Nghainc Gyntaf y Mabinogi (testun Llyfr Gwyn Rhydderch, 14eg ganrif) ceir hanes Pwyll yn gweld Rhiannon: "Ac yna... yn eistedd ar ben crug, y wreic teccaf or a welsei eiroet." [1]
Fe gychwynwyd eu codi tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.). Codwyd y rhan fwyaf, fodd bynnag yn y cyfnod 2400 - 1500 C.C.[2]
Rhai crugiau crynion dethol
- Maes Mochnant Isaf: Powys: 40 metr mewn diamedr.
- Crug Maes Maelor, Llandegla: 4.5m[3]
- Crug Llanharan: 3.4m o uchder.
- Casgan Ditw: 3.0m o uchder.
Gweler hefyd
Mathau gwahanol o olion claddu:
Cyfeiriadau
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, Cyfrol 1, tudalen 613.
- ↑ English Heritage
- ↑ Gwefan Coflein
Dolennau allanol
- Crug crwn Fan Foel, Gwefan Cyngor Archaeoleg Brydeinig (Cymru)