Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Brwydr Hexham"

Jump to navigation Jump to search
Lleihawyd o 6 beit ,  2 flynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
 
== Y frwydr ==
Symudodd y fyddin Gymreig i ogledd [[Swydd Efrog|Efrog]]. Angorodd Oswallt ei filwyr ger [[Mur Hadrian|Fur Hadrian]] tua phedair milltir i'r gogledd o [[Hexham]]. Yn ystod y nos (yn ôl y chwedl) ymddangosodd Sant [[Columba]] o flaen Oswallt, mewn breuddwyd, gan broffwydo iddo fuddugoliaeth. Trodd Oswallt ei filwyr i wynebu'r dwyrain, gydag ochrau'r fyddin yn cael eu hamddiffyn gan Brady's Crag yn y gogledd a Mur Hadrian i'r de. Yn ôl Beda, cododd groes a dechreuodd weddio.
 
Ymosododd y Cymry, gan fethu ymosod ar ochrau'r fyddin Sacsonaidd, a dechreuant adael faes y gad i gyfeiriad y de a daliwyd a lladdwyd Cadwallon mewn lle o'r enw 'Nant Denis' (Saesneg: ‘Brook of Denis’), a adnabyddir heddiw fel 'Rowley Burn'. Roedd hon yn fuddugoliaeth bwysig i Oswallt a chredir fod llawer iawn o Gymry wedi'u lladd. Yn ddiweddarach, daethpwyd i alw'r safle yn "Heavenfield" ("Hefenfelth").

Llywio