Crug crwn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
delwedd - oes gwell?
Llinell 1: Llinell 1:
:''Gweler hefyd: [[rhestr o grugiau crynion yng Nghymru]]''</br>
:''Gweler hefyd: [[rhestr o grugiau crynion yng Nghymru]]''</br>
[[Delwedd:The 'Cairn' at Gop Hill - geograph.org.uk - 237197.jpg|300px|bawd|Crug crwn ar gopa'r [[Y Gop|Gop]], [[Sir y Fflint]].]]
Pentwr o bridd wedi'i osod gan bobl [[Oes Newydd y Cerrig]] fel rhan o'u seremoniau neu i gladdu'r meirw ydy '''crug crwn''' (enw gwrywaidd; Saesneg: ''round barrow''). "Bryncyn" neu "bentwr" ydy prif ystyron y gair [[Cymraeg]] 'crug', sy'n elfen bur gyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru. ''Cruc'' ydy'r gair yn yr [[Cernyweg|Hen Gernyweg]] a'r [[Llydaweg|Hen Lydaweg]] a ''cruach'' yn yr [[Hen Wyddeleg]]. Mae'r gair i'w gael o fewn rhai ffurfiau [[Lladin]] ar hen enwau lleoedd [[Brythoneg]] megis ''Pennocrucium'', sef Penkridge heddiw ac fe'i benthycir yn y Saesneg fel "''crick''" fel yn y gair "''Crick''-howell". Y lluosog ydy: '''crugiau crwn''' neu '''crugiau crynion'''.

Fersiwn yn ôl 10:17, 3 Tachwedd 2010

Gweler hefyd: rhestr o grugiau crynion yng Nghymru
Crug crwn ar gopa'r Gop, Sir y Fflint.

Pentwr o bridd wedi'i osod gan bobl Oes Newydd y Cerrig fel rhan o'u seremoniau neu i gladdu'r meirw ydy crug crwn (enw gwrywaidd; Saesneg: round barrow). "Bryncyn" neu "bentwr" ydy prif ystyron y gair Cymraeg 'crug', sy'n elfen bur gyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru. Cruc ydy'r gair yn yr Hen Gernyweg a'r Hen Lydaweg a cruach yn yr Hen Wyddeleg. Mae'r gair i'w gael o fewn rhai ffurfiau Lladin ar hen enwau lleoedd Brythoneg megis Pennocrucium, sef Penkridge heddiw ac fe'i benthycir yn y Saesneg fel "crick" fel yn y gair "Crick-howell". Y lluosog ydy: crugiau crwn neu crugiau crynion.

Pan fo siambr neu gell o fewn y crug i ddal y corff yna gelwir y crug yn siambr gladdu. Pan fo'r glaw a'r gwynt wedi'i herydu yna caiff ei disgrifio fel carnedd. Yng Nghainc Gyntaf y Mabinogi (testun Llyfr Gwyn Rhydderch, 14eg ganrif) ceir hanes Pwyll yn gweld Rhiannon: "Ac yna... yn eistedd ar ben crug, y wreic teccaf or a welsei eiroet." [1]

Fe gychwynwyd eu codi tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.). Codwyd y rhan fwyaf, fodd bynnag yn y cyfnod 2400 - 1500 C.C.[2]

Gweler hefyd

Mathau gwahanol o olion claddu:

Cyfeiriadau

Dolennau allanol