Kailao: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
 
Llinell 8: Llinell 8:

==Sipi Tau==
==Sipi Tau==

[[File:kailao.jpg|thumb|right|400px|Myfyrwyr o Goleg Tonga yn dawnsio kailao ar gyfer pen-blwydd y Brenin yn 70 oed (1988)]]
Y '''Sipi tau''' yw'r enw ar y ddawns a berfformir gan [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Tonga|dîm rygbi'r undeb Tonga]] a thîm [[rygbi'r gynghrair]] cyn pob gêm,<ref>{{Lien web|langue=anglais|titre=Tonga’s spine-tingling Sipi Tau lights up Mt Smart Stadium|sous-titre=IT was the spine-tingling moment that kicked off the historic rugby league clash between Tonga and Australia.|url=https://www.dailytelegraph.com.au/sport/nrl/tongas-spinetingling-sipi-tau-lights-up-mt-smart-stadium/news-story/bdfd9fbef540b2333fe0cef068b77bf2|site=dailytelegraph.com.au|périodique=The Daily Telegraph (quotidien australien)|date=20 octobre 2018|consulté le=18 février 2019|extrait=Tonga captain Sika Manu has previously spoken of the meaning behind the Sipi Tau.

“It means you’ll fight for your country and you’ll die for your country,” says Tongan skipper Sika Manu.}}</ref> ac mae'n fath o kailao. Ysgrifennwyd y gân gan y Brenin Taufa'ahau Tupou IV ym 1994, ond mae ei tharddiad yn hŷn.

Fersiwn yn ôl 11:49, 15 Medi 2019

Tîm Tonga'n perfformio'r fersiwn o'r Kailao, y Sipi Tau

Dawns ryfel Tonga o ynysoedd cyfagos Wallis a Futuna yw'r kailao.[1] Math o kailao yw'r Sipi Tau sef y ddawns ryfel a berfformir cyn gemau Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Tonga. Bydd nifer o bobl yn fwy cyfarwydd gyda'r trefm "Sipi Tau".[2]

Hanes

Mae'r kailao fel arfer yn cael ei berfformio mewn seremonïau cyhoeddus a phreifat. Mae dynion, sy'n gwisgo ffyn steil o'r enw kailao pate, yn dawnsio mewn arddull ffyrnig sy'n efelychu ymladd, ynghyd â drym neu offerynnau taro metal sy'n gosod y tempo. Yn wahanol i ddawnsfeydd Tongaidd eraill, perfformir kailao heb ganu. Arweinydd y ddawns sy'n pennu'r dilyniant o symudiadau i'w perfformio gan y grŵp, sy'n rhoi enw'r dilyniant a phryd i ddechrau. Mae'r ddawns yn dangos disgyblaeth y dawnswyr, yr ufudd-dod a'u medr gyda'u harf.

Yn yr un modd, gelwir dawns debyg o Rotuma, sy'n deillio o ddawns Wallis, yn ka'loa.

Sipi Tau

Y Sipi tau yw'r enw ar y ddawns a berfformir gan dîm rygbi'r undeb Tonga a thîm rygbi'r gynghrair cyn pob gêm,[3] ac mae'n fath o kailao. Ysgrifennwyd y gân gan y Brenin Taufa'ahau Tupou IV ym 1994, ond mae ei tharddiad yn hŷn.

Doedd dawns ryfel ddim yn rhan o draddodiad Tonga cyn 19g. Mewn gwirionedd, ystyriwyd bod siarad yn arwydd o wendid yn ystod brwydr. Fodd bynnag, yn 19g, cyflwynwyd dawns ryfel yn Tonga o ynysoedd cyfagos Wallis a Futuna, a fabwysiadwyd yn gyflym gan Tonga. Perfformiwyd gwahanol fathau o sipi tau gan dimau Tonga ond nid yw'n hysbys pryd y cawsant eu defnyddio am y tro cyntaf wrth chwarae rygbi. Cyfansoddwyd y fersiwn ddiweddaraf er anrhydedd i daith lwyddiannus yn Seland Newydd ym 1994.[4].

Traddodiad y Môr Tawel

Mae'r Cibi yn rhan o draddodiad o ddawnsiau rhyfel sydd wedi eu gwreiddio yn niwylliant gynhenid ynysoedd y Môr Tawel, gyda'r enwocaf i dramorwyr yn ffurf dawns yr haka gan bobl Maori ond bellach hefyd, a fabwysiadir gan holl drigolion Seland Newydd. Fel yrhaka, mae'r cibi wedi dod i amlygrwydd byd-eang oherwydd ei pherfformiad cyn gemau rygbi'r undeb a champau eraill. Ceir dawnsfeydd tebyg gan Samoa (Siva Tau) a'r Cibi o ynysoedd Ffiji.

Geiriau'r Sipi Tau Cyfredol

Dyma'r geiriau i'r Sipi Tau cyfredol, ers 2011.[5]

Sipi Tau a'e 'Ikale Tahi
Teuaki ki he tau! (Arweinydd)
Tonga! (Tîm)
Teu lea pea tala ki mamani katoa
Ko e ʻIkale Tahi kuo halofia.
Ke ʻilo ʻe he sola mo e taka
Ko e ʻaho ni te u tamate tangata,
'A e haafe mo e tautuaʻa
Kuo huʻi hoku anga tangata.
Ei! (Arweinydd)
E!
Ei! (Arweinydd)
E!
Te u peluki e molo mo e foueti taka,
Pea ngungu mo ha loto fitaʻa
Ngungu! (Arweinydd)
ʻIo!
Ngungu! (Arweinydd)
ʻIo!
Ko Tonga pe mate ki he moto (Arweinydd)
Otua mo Tonga ko hoku tofi'a
Ei e! (Arweinydd)
TONGA!

Cyfieithiad Gymraeg

Arweinydd:Paratowch am y frwydr!
Tîm:Tonga!
Siaradaf gyda'r holl fyd
Mae'r Môr-eryrod ar lwgu, ar hedfan
Boed i'r tramorwr a'r ymwelydd ochelu
Heddiw, dinistrwr eneidiau, rwyf bobman
I'r hanneri a'r cefnwyr
Ymaeth aeth fy dynoldeb
Arweinydd:Hei! hei!
Ai!
Arweinydd:Ai!
Ai!
Byddaf yn medi'r sgarmes a'r blaenwr rhyddMaul and loose forwards shall I mow
A malu unrhyw galonnau tanbaid y gwyddochAnd crunch any fierce hearts you know
Arweinydd:Cratsh!
Ie!
Arweinydd:Cratsh!
Ie!
Dyna sut mae Tonga marw i'w arwyddair
Duw a Tonga yw fy etifeddiaeth
Arweinydd:Ai, ai!
Tonga!

Gweler Hefyd

Dolenni

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am rygbi'r undeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.