John Jones, Gellilyfdy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Gwybedyn (sgwrs | cyfraniadau)
B twtio
Llinell 1: Llinell 1:
Copïydd [[Llawysgrifau Cymreig|llawysgrifau]] a hynafiaethydd Cymreig oedd '''John Jones, Gellilyfdy''' (tua 1585 — 1657/58).
Copïydd [[Llawysgrifau Cymreig|llawysgrifau]] a hynafiaethydd Cymreig oedd '''John Jones, Gellilyfdy''' (tua 1585 — 1657/58).


Roedd yn enedigol o blas Gellilyfdy, plwyf [[Ysgeifiog]] yn [[Sir y Fflint]]. Canodd y beirdd [[Wiliam Llŷn]] a [[Wiliam Cynwal]] farwnadau ar ôl ei daid, Siôn ap Wiliam, oedd yn berchen casgliad o lawysgrifau gyda llawer ohonynt yn ymwneud ag ardal [[Dyffryn Clwyd]]. Etifeddwyd y casgliad gan ei fab, William Jones. Daeth ei fab yntau, John Jones, yn gyfarwydd â'r llawysgrifau hyn yn gynnar yn ei oes.
Roedd yn enedigol o blas Gellilyfdy, plwyf [[Ysgeifiog]] yn [[Sir y Fflint]]. Canodd y beirdd [[Wiliam Llŷn]] a [[Wiliam Cynwal]] farwnadau ar ôl ei daid, Siôn ap Wiliam, a feddai ar gasgliad o lawysgrifau yr oedd llawer ohonynt yn ymwneud ag ardal [[Dyffryn Clwyd]]. Etifeddwyd y casgliad gan ei fab, William Jones. Daeth ei fab yntau, John Jones, yn gyfarwydd â'r llawysgrifau hyn yn gynnar yn ei oes.


Roedd John Jones mewn anhawsterau ariannol parhaus, a charcharwyd ef am ddyled nifer o weithiau, o leiaf dair gwaith yng [[Carchar y Fflyd|Ngharchar y Fflyd]] yn [[Llundain]].
Roedd John Jones mewn anawsterau ariannol parhaus, ac fe'i carcharwyd am ddyled nifer o weithiau, o leiaf deirgwaith yng [[Carchar y Fflyd|Ngharchar y Fflyd]] yn [[Llundain]].


Yn ystod ei dymhorau yn y carchar y gwnaeth lawer o'i waith copio llawysgrifau, ond gweithiai hefyd yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] (1612) ac ym mhlasdai uchelwyr mewn sawl rhan o Gymru. Mae dros 100 o'i lawysgrifau ar gadw yn [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]], ac eraill yn [[Llyfrgell Dinas Caerdydd]] a'r [[Amgueddfa Brydeinig]]. Nodweddir y llawysgrifau hyn gan arddull unigryw a chain John Jones ac addurnir y testun yn aml â lluniau bychain ac addurniadau eraill. Roedd ganddo gysylltiad agos a'r hynafiaethydd [[Robert Vaughan]], ysgwier [[Hengwrt]], ac o'r herwydd cadwyd llawer o'i lawysgrifau yng nghasgliad Hengwrt (Llawysgrifau [[Peniarth]] yn ddiweddarach).
Yn ystod ei dymhorau yn y carchar y gwnaeth lawer o'i waith copïo llawysgrifau, ond gweithiai hefyd yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] (1612) ac ym mhlasdai uchelwyr mewn sawl rhan o Gymru. Mae dros gant o'i lawysgrifau ar gadw yn [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]], ac eraill yn [[Llyfrgell Dinas Caerdydd]] a'r [[Amgueddfa Brydeinig]]. Nodweddir y llawysgrifau hyn gan ei arddull unigryw a chain, ac addurnir y testun yn aml â lluniau bychain ac addurniadau eraill. Roedd ganddo gysylltiad agos â'r hynafiaethydd [[Robert Vaughan]], ysgwïer [[Hengwrt]], ac o'r herwydd cadwyd llawer o'i lawysgrifau yng nghasgliad Hengwrt (Llawysgrifau [[Peniarth]] yn ddiweddarach).


Yn llaw John Jones ceir yr unig destun o'r chwedl ''[[Ystoria Ysgan ab Asgo]]'' sydd ar glawr, a ysgrifenwyd ganddo ar 23 Rhagfyr 1608.<ref>T. H. Parry-Williams (gol.), ''Rhyddiaith Gymraeg: Detholiad o Lawysgrifau 1488-1609'' (Caerdydd, 1954), tt. 144-6.</ref>
Yn llaw John Jones ceir yr unig destun o'r chwedl ''[[Ystoria Ysgan ab Asgo]]'' sydd ar glawr, a ysgrifenwyd ganddo ar 23 Rhagfyr 1608.<ref>T. H. Parry-Williams (gol.), ''Rhyddiaith Gymraeg: Detholiad o Lawysgrifau 1488-1609'' (Caerdydd, 1954), tt. 144-6.</ref>

Fersiwn yn ôl 19:43, 1 Tachwedd 2010

Copïydd llawysgrifau a hynafiaethydd Cymreig oedd John Jones, Gellilyfdy (tua 1585 — 1657/58).

Roedd yn enedigol o blas Gellilyfdy, plwyf Ysgeifiog yn Sir y Fflint. Canodd y beirdd Wiliam Llŷn a Wiliam Cynwal farwnadau ar ôl ei daid, Siôn ap Wiliam, a feddai ar gasgliad o lawysgrifau yr oedd llawer ohonynt yn ymwneud ag ardal Dyffryn Clwyd. Etifeddwyd y casgliad gan ei fab, William Jones. Daeth ei fab yntau, John Jones, yn gyfarwydd â'r llawysgrifau hyn yn gynnar yn ei oes.

Roedd John Jones mewn anawsterau ariannol parhaus, ac fe'i carcharwyd am ddyled nifer o weithiau, o leiaf deirgwaith yng Ngharchar y Fflyd yn Llundain.

Yn ystod ei dymhorau yn y carchar y gwnaeth lawer o'i waith copïo llawysgrifau, ond gweithiai hefyd yng Nghaerdydd (1612) ac ym mhlasdai uchelwyr mewn sawl rhan o Gymru. Mae dros gant o'i lawysgrifau ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac eraill yn Llyfrgell Dinas Caerdydd a'r Amgueddfa Brydeinig. Nodweddir y llawysgrifau hyn gan ei arddull unigryw a chain, ac addurnir y testun yn aml â lluniau bychain ac addurniadau eraill. Roedd ganddo gysylltiad agos â'r hynafiaethydd Robert Vaughan, ysgwïer Hengwrt, ac o'r herwydd cadwyd llawer o'i lawysgrifau yng nghasgliad Hengwrt (Llawysgrifau Peniarth yn ddiweddarach).

Yn llaw John Jones ceir yr unig destun o'r chwedl Ystoria Ysgan ab Asgo sydd ar glawr, a ysgrifenwyd ganddo ar 23 Rhagfyr 1608.[1]

Cyfeiriadau

  1. T. H. Parry-Williams (gol.), Rhyddiaith Gymraeg: Detholiad o Lawysgrifau 1488-1609 (Caerdydd, 1954), tt. 144-6.