Gwrthfilitariaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
B tr
 
Llinell 5: Llinell 5:
Yn ôl meddylwyr gwrthfilitaraidd yn Lloegr ac yn Unol Daleithiau America, y prif bryder ydy'r bygythiadau posib gan y lluoedd arfog ar y llywodraeth sifil. Buont yn dadlau felly dros berthynas rhwng y cadfridogion a'r gwleidyddion sy'n ffafrio'r awdurdodau sifil. Credid bod cyfyngiadau gwleidyddol ar rymoedd y lluoedd milwrol, fel y'i cynhwysir ym [[Mesur Hawliau 1689]] ac yng [[Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau|Nghyfansoddiad yr Unol Daleithiau]], yn cadw'r ffrwyn ar filitariaeth yn y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau. Yn yr 20g, mae pryderon am y [[cydberthynas filwrol-ddiwydiannol|gydberthynas filwrol-ddiwydiannol]] ac effeithiau'r [[cyfalafiaeth|gyfundrefn gyfalafol]] ar ryfela yn peri goblygiadau newydd i'r hen ddadl.<ref name=Vandervort/>
Yn ôl meddylwyr gwrthfilitaraidd yn Lloegr ac yn Unol Daleithiau America, y prif bryder ydy'r bygythiadau posib gan y lluoedd arfog ar y llywodraeth sifil. Buont yn dadlau felly dros berthynas rhwng y cadfridogion a'r gwleidyddion sy'n ffafrio'r awdurdodau sifil. Credid bod cyfyngiadau gwleidyddol ar rymoedd y lluoedd milwrol, fel y'i cynhwysir ym [[Mesur Hawliau 1689]] ac yng [[Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau|Nghyfansoddiad yr Unol Daleithiau]], yn cadw'r ffrwyn ar filitariaeth yn y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau. Yn yr 20g, mae pryderon am y [[cydberthynas filwrol-ddiwydiannol|gydberthynas filwrol-ddiwydiannol]] ac effeithiau'r [[cyfalafiaeth|gyfundrefn gyfalafol]] ar ryfela yn peri goblygiadau newydd i'r hen ddadl.<ref name=Vandervort/>


Nid yw gwrthfilitariaeth yn gyfystyr â [[heddychaeth]], er bod y ddau fudiad yn drwgdybus o ddylanwad y lluoedd arfog ar gymdeithas. Mae heddychwyr yn ymgyrchu dros ddiarfogi'r holl fyd, tra bo gwrthfilitarwyr yn cydnabod yr angen am [[monopoli ar ddefnydd grym|rym cyfreithlon]] i gadw'r heddwch. Nid yw ychwaith yn gyfystyr â gwrth-[[cenedlaetholdeb|genedlaetholdeb]] neu wrth-[[gwladgarwch|wladgarwch]], er bod rhywfaint o orgyffwrdd rhwng y ddau feddylfryd, megis syniadaeth [[Karl Liebknecht]] a [[Rosa Luxemburg]]. Bu rhai gwrthfilitarwyr blaenllaw, er enghraifft y sosialydd Ffrengig [[Jean Jaurès]], yn wladgarwyr hefyd. Dadleuodd Jaurès dros ddisodli [[Byddin Ffrainc]] gyda milisia yn debyg i'r drefn yn [[y Swistir]] i liniaru [[jingoaeth]].<ref name=Vandervort>Bruce Vandervort, "Antimilitarism" yn ''Encyclopedia of Social History'', golygwyd gan Peter N. Stearns (Efrog Newydd: Garland Publishing, 1994), tt. 54–55.</ref>
Nid yw gwrthfilitariaeth yn gyfystyr â [[heddychaeth]], er bod y ddau fudiad yn ddrwgdybus o ddylanwad y lluoedd arfog ar gymdeithas. Mae heddychwyr yn ymgyrchu dros ddiarfogi'r holl fyd, tra bo gwrthfilitarwyr yn cydnabod yr angen am [[monopoli ar ddefnydd grym|rym cyfreithlon]] i gadw'r heddwch. Nid yw ychwaith yn gyfystyr â gwrth-[[cenedlaetholdeb|genedlaetholdeb]] neu wrth-[[gwladgarwch|wladgarwch]], er bod rhywfaint o orgyffwrdd rhwng y ddau feddylfryd, megis syniadaeth [[Karl Liebknecht]] a [[Rosa Luxemburg]]. Bu rhai gwrthfilitarwyr blaenllaw, er enghraifft y sosialydd Ffrengig [[Jean Jaurès]], yn wladgarwyr hefyd. Dadleuodd Jaurès dros ddisodli [[Byddin Ffrainc]] gyda milisia yn debyg i'r drefn yn [[y Swistir]] i liniaru [[jingoaeth]].<ref name=Vandervort>Bruce Vandervort, "Antimilitarism" yn ''Encyclopedia of Social History'', golygwyd gan Peter N. Stearns (Efrog Newydd: Garland Publishing, 1994), tt. 54–55.</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:10, 8 Medi 2019

Athrawiaeth sy'n dadlau'n erbyn gor-bresenoldeb neu dra-awdurdod y lluoedd arfog, ac felly'n groes i filitariaeth, yw gwrthfilitariaeth.

Datblygodd y mudiad gwrthfilitaraidd cyntaf ymysg gweriniaethwyr a sosialwyr yn Ail Ymerodraeth Ffrainc (1852–70). Cyrhaeddodd ei anterth yn Ewrop yn ystod yr ugain mlynedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–18). Ymgyrchodd rhyddfrydwyr yr adain chwith, democratiaid cymdeithasol, syndicalwyr, ac anarchwyr yn erbyn dylanwad y lluoedd arfog ar wleidyddiaeth genedlaethol, gorfodaeth filwrol, a rasys arfau.[1]

Yn ôl meddylwyr gwrthfilitaraidd yn Lloegr ac yn Unol Daleithiau America, y prif bryder ydy'r bygythiadau posib gan y lluoedd arfog ar y llywodraeth sifil. Buont yn dadlau felly dros berthynas rhwng y cadfridogion a'r gwleidyddion sy'n ffafrio'r awdurdodau sifil. Credid bod cyfyngiadau gwleidyddol ar rymoedd y lluoedd milwrol, fel y'i cynhwysir ym Mesur Hawliau 1689 ac yng Nghyfansoddiad yr Unol Daleithiau, yn cadw'r ffrwyn ar filitariaeth yn y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau. Yn yr 20g, mae pryderon am y gydberthynas filwrol-ddiwydiannol ac effeithiau'r gyfundrefn gyfalafol ar ryfela yn peri goblygiadau newydd i'r hen ddadl.[1]

Nid yw gwrthfilitariaeth yn gyfystyr â heddychaeth, er bod y ddau fudiad yn ddrwgdybus o ddylanwad y lluoedd arfog ar gymdeithas. Mae heddychwyr yn ymgyrchu dros ddiarfogi'r holl fyd, tra bo gwrthfilitarwyr yn cydnabod yr angen am rym cyfreithlon i gadw'r heddwch. Nid yw ychwaith yn gyfystyr â gwrth-genedlaetholdeb neu wrth-wladgarwch, er bod rhywfaint o orgyffwrdd rhwng y ddau feddylfryd, megis syniadaeth Karl Liebknecht a Rosa Luxemburg. Bu rhai gwrthfilitarwyr blaenllaw, er enghraifft y sosialydd Ffrengig Jean Jaurès, yn wladgarwyr hefyd. Dadleuodd Jaurès dros ddisodli Byddin Ffrainc gyda milisia yn debyg i'r drefn yn y Swistir i liniaru jingoaeth.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Bruce Vandervort, "Antimilitarism" yn Encyclopedia of Social History, golygwyd gan Peter N. Stearns (Efrog Newydd: Garland Publishing, 1994), tt. 54–55.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Paul B. Miller, From Revolutionaries to Citizens: Antimilitarism in France, 1870–1914 (Durham, Gogledd Carolina: Duke University Press, 2002).