Nagaland: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: lv:Nāgālenda
RedBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: fi:Nagamaa
Llinell 43: Llinell 43:
[[eu:Nagaland]]
[[eu:Nagaland]]
[[fa:ناگالند]]
[[fa:ناگالند]]
[[fi:Nagaland]]
[[fi:Nagamaa]]
[[fr:Nagaland]]
[[fr:Nagaland]]
[[gu:નાગાલેંડ]]
[[gu:નાગાલેંડ]]

Fersiwn yn ôl 18:11, 26 Hydref 2010

Lleoliad Nagaland yn India
Merched Naga yn eu gwisg draddodiadol

Mae Nagaland yn dalaith ym mryniau coediog gogledd-ddwyrain eithaf India. Mae'n ffinio â thaleithiau Assam i'r gorllewin, Arunachal Pradesh a rhan o Assam i'r gogledd, gwlad Myanmar i'r dwyrain a thalaith Manipur i'r de. Kohima yw prifddinas Nagaland, a Dimapur yw'r ddinas fwyaf. Gyda phoblogaeth o 1,988,636, (2001) ac arwynebedd tir o 16,579 km² yn unig mae'n un o daleithiau lleiaf India. Cafodd ei sefydlu fel talaith yn 1963.

Mae'r dalaith wedi dioddef o ansefydlogrwydd gwleidyddol ers degawdau ac mae'n anodd cael caniatad i fynd yno. Ers i India ennill eu hannibyniaeth mae galwadau am annibyniaeth i Nagaland wedi dominyddu gwleidyddiaeth y dalaith sydd wedi gweld lefelau uchel o drais ar adegau.

Ar un adeg bu'r Naga yn adnabyddus fel helwyr pennau. Mae'r 16 o lwythau yn cynnwys yr Angamis, Rengmas, Aos, Konyaks, Wanchus, Semas a'r Lothas. Roedd ganddynt grefydd animistaidd cyn i'r cenhadon cyntaf gyrraedd o'r Gorllewin. Erbyn heddiw mae dros 90% o'r Nagas yn Gristnogion a Saesneg yw iaith swyddogol y dalaith, er bod nifer o ieithoedd brodorol yn cael eu siarad yn ogystal.

Daearyddiaeth a hinsawdd

Talaith fynyddig yw Nagaland. Mae Bryniau Naga yn codi o ddyffryn Afon Brahmaputra yn Assam i tua 2,000 troedfedd ac yna'n codi'n graddol uwch i'r de-ddwyrain, hyd at 6,000 troedfedd. Mynydd Saramati, 12,552 troedfedd uwch lefel y môr, yw copa uchaf y dalaith - yma mae Bryniau Naga Hills yn ymdoddi i Gadwyn Patkai dros y ffin yn Myanmar. Mae nifer o afonydd, yn cynnwys afonydd Doyang a Dhiku yn y gogledd, Afon Barak yn y de-orllewin ac Afon Chindwin (sy'n llifo o Fyanmar) yn y de-ddwyrain, yn llifo ar draws y dalaith.

Mae gan Nagaland flora a fauna cyfoethog. Mae tua 15% o Nagaland yn orchuddiedig gan coedwigoedd trofaol ac is-drofaol bytholwyrdd - yn cynnwys palmwydd, bambŵ a rattan ynghyd â fforestydd mahogani. Yn yr ardaloedd coediog ceir high nifer o anifeiliaid fel cŵn gwyllt, pangolins, porciwpeins, eliffantod, llewpardiaid, eirth, mwncïod, sambar, ceirw, ychen a byffalos. Mae'r Hornbill Mawr Indiaid yn un o'r adar mwyaf enwog o'r dalaith.

Hinsawdd monsŵn sydd gan Nagaland, gyda lefel uchel o leithder. Ceir rhwng 70-100 troedfedd o law y flwyddyn, gyda rhan helaeth yn disgyn ym mis Mai. Ceir tymheroedd rhwng 70 i 104 gradd ffahrenheit. Yn y gaeaf ceir rhywfaint o farrug yn yr ucheldiroedd.

Dolenni allanol


Taleithiau a thiriogaethau India
Taleithiau Andhra PradeshArunachal PradeshAssamBiharChhattisgarhGoaGorllewin BengalGujaratHaryanaHimachal PradeshJharkhandKarnatakaKeralaMadhya PradeshMaharashtraManipurMeghalayaMizoramNagalandOrissaPunjabRajasthanSikkimTamil NaduTelanganaTripuraUttarakhandUttar Pradesh
Tiriogaethau Ynysoedd Andaman a NicobarChandigarhDadra a Nagar HaveliDaman a DiuDelhiJammu a KashmirLakshadweepPuducherry