Ann Griffiths: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Llinell 18: Llinell 18:

==Priodas a marwolaeth==
==Priodas a marwolaeth==
[[Delwedd:Llanfihangel-yng-Ngwynfa - geograph.org.uk - 426679.jpg|bawd|chwith|bedd Ann Griffiths]]
Ym 1801 derbyniwyd Thomas Griffiths yn aelod o’r seiat Fethodistaidd yn ei gartref yn y Cefn-du, Cegidfa a chafodd ei ethol yn flaenor yn fuan wedyn. Symudodd Griffiths i fferm y Ceunant, Meifod ym 1804, ac yn ôl ei arfer yn ei hen gartref dechreuodd cynnal cyfarfodydd crefyddol yn ei gartref newydd. Bu Ann yn mynychu'r oedfaon y Ceunant. Priododd Ann a Thomas Griffiths yn Eglwys Llanfihangel-yng-ngwynfa ym mis Hydref 1804. <ref>{{Cite web|url=https://bywgraffiadur.cymru/article/c-GRIF-ANN-1776|title=GRIFFITHS, ANN (1776 - 1805), emynyddes|date=|access-date=25 Awst 2019|website=Y Bywgraffiadur|last=Roberts|first=G. M|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> Ar 13 Gorffennaf 1805 ganwyd Elizabeth, merch Thomas ac Ann ond bu farw cyn pen y mis. Pythefnos ar ôl marwolaeth ei babi bu farw Ann hefyd yn 29 mlwydd oed. Claddwyd Elizabeth ac Ann Griffiths ym mynwent Eglwys Llanfihangel yng Ngwynfa

==Emynau==
==Emynau==
Cyn ei thröedigaeth bu Ann yn cyfansoddi rhigymau byddai'n adrodd i'w hun a'i chyfeillion er mwyn diddanwch. Wedi ei thröedigaeth dechreuodd Ann gyfansoddi cerddi crefyddol y lle'r rhigymau ac eto yn eu hadrodd wrth fynd o amgylch ei ddyletswyddau ar y fferm. Gwnaeth tad Ann cofnod o rai o'i cherddi crefyddol cyn iddo farw ym 1802. Roedd morwyn o'r enw Ruth Evans yn gweithio yn Nolwar Fach ac fe gadwodd hi nifer o gerddi crefyddol Ann ar ei chof, wedi clywed ei feistres yn eu hadrodd. Priododd Ruth Evans pregethwr Methodistaidd o'r enw John Hughes, wedi marwolaeth Ann fe wnaeth John Hughes cofnod o'r cerddi roedd ei wraig yn eu cofio. Ym 1806 cyhoeddwyd y cerddi roedd Hughes a Thad Ann wedi cofnodi mewn cyfrol o'r enw ''Casgliad o Hymnau'' a daeth yn gyfrol boblogaidd iawn. Mae nifer o emynau Ann yn cael eu canu yn gynulleidfaol o hyd gyda 14 ohonynt yn ymddangos yn ''Caneuon Ffydd'', y gyfrol gyd enwadol o emynau a gyhoeddwyd yn 2001. <ref>{{Cite book|title=Cydymaith caneuon ffydd|url=https://www.worldcat.org/oclc/123536494|publisher=Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol|date=2006|location=[Caernarfon]|isbn=9781862250529|oclc=123536494|last=Morgans|first=Delyth G|year=|pages=532}}</ref> Mae'n debyg mae ei emyn enwocaf yw Wele'n Sefyll Rhwng y Myrtwydd, sy'n cael ei ganu'n aml ar y dôn ''Cwm Rhondda.'' <ref>{{Cite book|title=Caneuon ffydd|url=https://www.worldcat.org/oclc/48791307|publisher=Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol|date=2001|location=|isbn=1903754038|oclc=48791307|others=Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol., Cysodwyd y gerddoriaeth gan Curiad), argraffwyd gan Wasg Gomer|last=|first=|year=|pages=}}</ref>

Fersiwn yn ôl 14:52, 27 Awst 2019

Ann Griffiths
GanwydEbrill 1776 Edit this on Wikidata
Llanfihangel-yng-Ngwynfa Edit this on Wikidata
Bu farwAwst 1805 Edit this on Wikidata
o anhwylder ôl-esgorol Edit this on Wikidata
Llanfihangel-yng-Ngwynfa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethemynydd, bardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Llun o Ann ar glawr llyfr.
Llythyr yn llawysgrifen Ann Griffiths.

Ystyrir Ann Griffiths (née Ann Thomas) (Ebrill 1776 – Awst 1805), o ffermdy Dolwar Fach ym mhlwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa, Maldwyn, Powys yn brif emynyddes Cymru ac un o feirdd benywaidd pwysicaf y Gymraeg.[1]

Cefndir

Ganwyd Ann Thomas mewn ffermdy o'r enw Dolwar fach ym mhlwyf Llanfihangel-yng-ngwynfa, Sir Drefaldwyn, y pedwerydd o bum plentyn Siôn Ifan Tomos (1736-1802), ffermwr tenant, a'i wraig, Jane, née Theodore (1744 -1794) Cafodd ei bedyddio yn eglwys blwyf Llanfihangel-yng-ngwynfa ar 21 Ebrill 1776 [2]

Derbyniodd Ann rywfaint o addysg ffurfiol, er ei fod yn brin, mi fydda'i fwy na chafodd y mwyafrif o ferched ei statws yn ei chyfnod. Bu'n cael ei hyfforddi gan wraig o'r enw Mrs Ann Owen yn Llanfihangel cyn symud ymlaen i ysgol a gadwyd gan giwrad y plwyf, Ezeciel Hamer, lle dysgodd i ddarllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg a siarad Saesneg elfennol. [3]

Roedd ei thad yn aelod cefnogol o Eglwys ei blwyf, fe wasanaethodd fel un o'i wardeniaid ar sawl achlysur. Roedd ei chartref yn un diwylliedig a chrefyddol, gyda darnau o'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn cael eu darllen yn ddyddiol. Roedd ei thad hefyd yn dipyn o fardd gwlad a oedd yn ysgrifennu englynion bedydd, priodas ac angladd. [3]

Tröedigaeth

Roedd brodyr hŷn Ann, John ac Edward, [4]eisoes wedi cael tröedigaeth i'r achos Methodistaidd ond roedd Ann yn di hud i ymrwymiad ei thad i hen grefydd Eglwys Loegr ac i grefydd newydd Methodistaidd ei frodyr. Roedd Ann yn mwynhau arferion yr oes, - y nosweithiau llawen, y ddawns, a'r anterliwtiau. Byddai'n arfer gwawdio'r pererinion oedd yn pasio trwy gymdogaeth Dolwar ar eu ffordd i'r Bala, i'r cymanfaoedd a'r gwasanaethau cymun mawr.

Ar 28 Mawrth 1796, dydd mabsant Sant Myllin, roedd Ann ar ei ffordd i ddawns yn Llanfyllin. Ar y ffordd gwelodd merch a fu'n arfer gweithio yn Nolwar fach. Roedd y ferch am fynd i gapel yr Annibynwyr i wrando ar bregeth gan un o bregethwyr enwog y cyfnod, Benjamin Jones, Pwllheli, [5] ac am gael ffrind i fynd yn gwmni iddi. Cytunodd Ann i fynychu'r oedfa efo'r hogan. Cafodd y bregeth effaith mawr arni a bu am fisoedd yn pendroni am neges y bregeth. Ar fore'r Nadolig 1797 aeth Ann i wasanaeth y Plygain yn Eglwys Llanfihangel wedi cyrraedd yn rhy gynnar cyfarfu a chiwrad yr eglwys a chafodd gwahoddiad i'w dŷ i ddisgwyl dechrau'r oedfa. Yn y tŷ fe wnaeth y ciwrad sylwadau anweddus a phenderfynodd Ann ffoi oddi yno. Penderfynodd ymuno a'i brawd yn seiat Pontrobert a chyn bo hir cafodd tröedigaeth i achos y Methodistiaid Calfinaidd. [3]

Priodas a marwolaeth

bedd Ann Griffiths

Ym 1801 derbyniwyd Thomas Griffiths yn aelod o’r seiat Fethodistaidd yn ei gartref yn y Cefn-du, Cegidfa a chafodd ei ethol yn flaenor yn fuan wedyn. Symudodd Griffiths i fferm y Ceunant, Meifod ym 1804, ac yn ôl ei arfer yn ei hen gartref dechreuodd cynnal cyfarfodydd crefyddol yn ei gartref newydd. Bu Ann yn mynychu'r oedfaon y Ceunant. Priododd Ann a Thomas Griffiths yn Eglwys Llanfihangel-yng-ngwynfa ym mis Hydref 1804. [6] Ar 13 Gorffennaf 1805 ganwyd Elizabeth, merch Thomas ac Ann ond bu farw cyn pen y mis. Pythefnos ar ôl marwolaeth ei babi bu farw Ann hefyd yn 29 mlwydd oed. Claddwyd Elizabeth ac Ann Griffiths ym mynwent Eglwys Llanfihangel yng Ngwynfa

Emynau

Cyn ei thröedigaeth bu Ann yn cyfansoddi rhigymau byddai'n adrodd i'w hun a'i chyfeillion er mwyn diddanwch. Wedi ei thröedigaeth dechreuodd Ann gyfansoddi cerddi crefyddol y lle'r rhigymau ac eto yn eu hadrodd wrth fynd o amgylch ei ddyletswyddau ar y fferm. Gwnaeth tad Ann cofnod o rai o'i cherddi crefyddol cyn iddo farw ym 1802. Roedd morwyn o'r enw Ruth Evans yn gweithio yn Nolwar Fach ac fe gadwodd hi nifer o gerddi crefyddol Ann ar ei chof, wedi clywed ei feistres yn eu hadrodd. Priododd Ruth Evans pregethwr Methodistaidd o'r enw John Hughes, wedi marwolaeth Ann fe wnaeth John Hughes cofnod o'r cerddi roedd ei wraig yn eu cofio. Ym 1806 cyhoeddwyd y cerddi roedd Hughes a Thad Ann wedi cofnodi mewn cyfrol o'r enw Casgliad o Hymnau a daeth yn gyfrol boblogaidd iawn. Mae nifer o emynau Ann yn cael eu canu yn gynulleidfaol o hyd gyda 14 ohonynt yn ymddangos yn Caneuon Ffydd, y gyfrol gyd enwadol o emynau a gyhoeddwyd yn 2001. [7] Mae'n debyg mae ei emyn enwocaf yw Wele'n Sefyll Rhwng y Myrtwydd, sy'n cael ei ganu'n aml ar y dôn Cwm Rhondda. [8]

Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd
Wrthrych teilwng o'm holl fryd;
Er mai o ran, yr wy'n adnabod
Ei fod uwchlaw gwrthrychau'r byd:
Henffych fore
Y caf ei weled fel y mae.

Rhosyn Saron yw ei enw,
Gwyn a gwridog, teg o bryd;
Ar ddeng mil y mae'n rhagori
O wrthrychau penna'r byd:
Ffrind pechadur,
Dyma ei beilot ar y môr.

Beth sy imi mwy a wnelwyf
Ag eilunod gwael y llawr?
Tystio'r wyf nad yw eu cwmni
I'w gystadlu â'm Iesu mawr:
--O am aros
Yn ei gariad ddyddiau f'oes.

Llyfryddiaeth ddethol

  • E. Wyn James (gol.), Rhyfeddaf fyth ... (Gwasg Gregynog, 1998). Y golygiad diweddaraf a llawnaf o'i hemynau a'i llythyrau.
  • Dyfnallt Morgan (gol.), Y Ferch o Ddolwar Fach (1977)
  • R. Geraint Gruffydd, Y Gair a'r Ysbryd: Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth, gol. E. Wyn James (2019)

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
  2. "Hanes Ann Griffiths - Trafod Manylion Bywgraffiadol" (PDF). Y Banc Hyfedredd. Cyrchwyd 27 Awst 2019.
  3. 3.0 3.1 3.2 Cymru (1906). "Ann Griffiths". Cylchgronau Cymru LlGC. Cyrchwyd 25 Awst 2019.
  4. "Griffiths [née Thomas], Ann (bap. 1776, d. 1805), hymn writer in Welsh | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-11614. Cyrchwyd 2019-08-27.
  5. "JONES, BENJAMIN (1756 - 1823), gweinidog gyda'r Annibynwyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-08-27.
  6. Roberts, G. M. "GRIFFITHS, ANN (1776 - 1805), emynyddes". Y Bywgraffiadur. Cyrchwyd 25 Awst 2019.
  7. Morgans, Delyth G (2006). Cydymaith caneuon ffydd. [Caernarfon]: Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol. t. 532. ISBN 9781862250529. OCLC 123536494.
  8. Caneuon ffydd. Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol., Cysodwyd y gerddoriaeth gan Curiad), argraffwyd gan Wasg Gomer. Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol. 2001. ISBN 1903754038. OCLC 48791307.CS1 maint: others (link)

Dolenni allanol

Dolwar Fach yn 1885
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.