Mynydd Chomolungma: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Symudodd Oergell y dudalen Mynydd Everest i Mynydd Chomolungma
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
{{Gwybodlen lle}}
{{mynydd

| enw =Mynydd Everest
| mynyddoedd =Himalaya
| darlun =Everest_kalapatthar_crop.jpg
| maint_darlun =200px
| caption ='''Mynydd Everest''' neu '''Qomolangma'''
| uchder =8,848m
| lleoliad =Nepal
| gwlad =Tibet / Nepal
}}
'''Mynydd Everest''' neu '''Qomolangma''' (hefyd '''Chomolungma''', [[Nepaleg]]: '''Sagarmatha''', [[Saesneg]]: ''Mount Everest'') yw'r mynydd uchaf yn y byd. Fe'i lleolir ar y ffîn rhwng [[Tibet]] a [[Nepal]] yn yr [[Himalaya]], ac mae ganddo uchder o 8,848 [[medr]] (29,028 troedfedd) uwch lefel y môr.
'''Mynydd Everest''' neu '''Qomolangma''' (hefyd '''Chomolungma''', [[Nepaleg]]: '''Sagarmatha''', [[Saesneg]]: ''Mount Everest'') yw'r mynydd uchaf yn y byd. Fe'i lleolir ar y ffîn rhwng [[Tibet]] a [[Nepal]] yn yr [[Himalaya]], ac mae ganddo uchder o 8,848 [[medr]] (29,028 troedfedd) uwch lefel y môr.


Llinell 42: Llinell 34:
{{Bathu termau|termau_bathedig = Uwch-Arolygydd India|termau_gwreiddiol = Surveyor-General of India|iaith = [[Saesneg]]}}
{{Bathu termau|termau_bathedig = Uwch-Arolygydd India|termau_gwreiddiol = Surveyor-General of India|iaith = [[Saesneg]]}}


[[Categori:Copaon 8,000 metr]]
[[Categori:Himalaya]]
[[Categori:Himalaya]]
[[Categori:Mynyddoedd Nepal|Everest]]
[[Categori:Mynyddoedd Nepal|Everest]]
[[Categori:Mynyddoedd sanctaidd|Everest]]
[[Categori:Mynyddoedd sanctaidd|Everest]]
[[Categori:Mynyddoedd Tibet|Everest]]
[[Categori:Mynyddoedd Tibet|Everest]]
[[Categori:Copaon 8,000 metr]]

Fersiwn yn ôl 21:44, 22 Awst 2019

Mynydd Chomolungma
Mathmynydd, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGeorge Everest Edit this on Wikidata
LL-Q33965 (sat)-Rocky 734-ᱢᱟᱶᱴ ᱮᱵᱷᱚᱨᱮᱥᱴ.wav Edit this on Wikidata
Cylchfa amserAmser Safonol Nepal, Cylchfa Amser Safonol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolSagarmatha National Park Edit this on Wikidata
Rhan o'r canlynolHimalaya, Y Saith Pegwn, Copaon dros 8, ultra-prominent peak Edit this on Wikidata
LleoliadHimalaya Edit this on Wikidata
SirSolukhumbu District, Rhanbarth Ymreolaethol Tibet Edit this on Wikidata
GwladNepal, Gweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Uwch y môr8,848.86 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau27.988236°N 86.925018°E Edit this on Wikidata
Amlygrwydd8,848.86 metr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddMahalangur Himal Edit this on Wikidata
Map
Deunyddcraig,  Edit this on Wikidata

Mynydd Everest neu Qomolangma (hefyd Chomolungma, Nepaleg: Sagarmatha, Saesneg: Mount Everest) yw'r mynydd uchaf yn y byd. Fe'i lleolir ar y ffîn rhwng Tibet a Nepal yn yr Himalaya, ac mae ganddo uchder o 8,848 medr (29,028 troedfedd) uwch lefel y môr.

Enwi

Enwau hynafol y mynydd yn y Sansgrit yw Devgiri ("Mynydd Sanctaidd") a Devadurga. Chomolungma neu Qomolangma ("Mam y Bydysawd") yw'r enw Tibeteg, a Zhūmùlǎngmǎ Fēng (珠穆朗玛峰 neu 珠穆朗瑪峰) neu Shèngmǔ Fēng (圣母峰 neu 聖母峰) yw'r enw Tsieineeg perthynol. Yn y Nepaleg fe'i gelwir yn Sagarmatha (सगरमाथा), "Pen yr Awyr".

Ym 1865, rhoddwyd yr enw Saesneg Everest ar y mynydd gan Andrew Waugh, Uwch-Arolygydd India ar y pryd. Yn eironig, roedd Syr George Everest, a enwyd y mynydd ar ei ôl, wedi dysgu Waugh i roi enwau cynhenid neu frodorol i bob endid daearyddol, ond doedd ddim modd i estronwyr teithio i Nepal nac i Tibet ar y pryd. Dyma dywedodd Waugh:

I was taught by my respected chief and predecessor, Colonel Sir George Everest to assign to every geographical object its true local or native appellation. But here is a mountain, most probably the highest in the world, without any local name that we can discover, whose native appellation, if it has any, will not very likely be ascertained before we are allowed to penetrate into Nepal. In the meantime the privilege as well as the duty devolves on me to assign…a name whereby it may be known among citizens and geographers and become a household word among civilized nations.

Yn y 1960au cynar, sylweddolodd llywodraeth Nepal nad oedd enw Nepaleg gan y mynydd. Y rheswm am hyn yw nad oedd pobl yr ardaloedd draddodiadol Nepaleg (hynny yw, Dyffryn Kathmandu a'r ardaloedd cyfagos) yn gyfarwydd â'r mynydd. Ceisiodd y llywodraeth ddarganfod enw i'r mynydd (doedd yr enw Sherpa/Tibeteg Chomolangma ddim yn dderbyniol iddynt, gan eu bod yn ceisio uno a "Nepaleiddio'r" wlad) . Dyfeiswyd yr enw Sagarmatha (सगरमाथा) gan Baburam Acharya.

Yn 2002, cyhoeddodd y papur newydd Tseinëeg Rénmín Rìbào erthygl yn dadlau na ddylid defnyddio'r enw Saesneg yn y byd Gorllewinol mwyach, ac y dylid defnyddio'r enw Tibeteg. Dadlent fod yr enw hwnnw'n hŷn na'r un Saesneg, gan i Qomolangma gael ei nodi ar fap Tseinëig mwy na 280 mlynedd yn ôl.[1]

Dringo'r mynydd

Bu nifer o ymdrechion i gyrraedd y copa cyn yr Ail Ryfel Byd, y cyfan ond un ohonynt gan dimau Prydeinig, gan nad oedd caniatâd i ddringo'r mynydd o ochr Tibet a bod Nepal yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig. Yn ystod un o'r rhain, yn 1924, diflannodd George Mallory ac Andrew Irvine wrth geisio cyrraedd y copa, a bu awgrymiadau eu bod efallai wedi cyrraedd y copa ond wedi marw ar y ffordd i lawr. Y farn gyffredinol, fodd bynnag, yw na allent fod wedi cyrraedd y copa. Yn 1999 cafwyd hyd i gorff Mallory ar y mynydd.

Y cyntaf i gyrraedd y copa oedd Edmund Hillary a Tenzing Norgay ar 29 Mai, 1953. Ers hynny mae cryn nifer o ddringwyr wedi cyrraedd y copa; mae'r mynydd yn haws yn dechnegol na rhai o'r copaon 8,000 medr eraill megis K2 a Nanga Parbat. Er hynny, mae uchder y mynydd yn creu problemau mawr, ac am flynyddoedd ystyrid fod yn rhaid cael ocsigen ychwanegol i'w ddringo. Fodd bynnag yn 1978 dringodd Reinhold Messner a Peter Habeler y mynydd heb ddefnyddio ocsigen ychwanegol.

Ar 25 Mai 2008 cyrhaeddodd Bahadur Sherchan, 76 oed o Nepal, y copa gan osod record newydd am y person hynaf i ddringo'r mynydd.

Cyfeiriadau

Gweler hefyd

Y 14 copa dros 8,000 medr
Annapurna · Broad Peak · Cho Oyu · Dhaulagiri · Everest · Gasherbrum I · Gasherbrum II
K2 · Kangchenjunga · Lhotse · Makalu · Manaslu · Nanga Parbat · Shishapangma


Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Uwch-Arolygydd India o'r Saesneg "Surveyor-General of India". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.