Turtur dorchog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: fo:Turkadúgva |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: pnb:کالر آلا کبوتر |
||
Llinell 51: | Llinell 51: | ||
[[pl:Sierpówka]] |
[[pl:Sierpówka]] |
||
[[pms:Streptopelia decaocto]] |
[[pms:Streptopelia decaocto]] |
||
[[pnb:کالر آلا کبوتر]] |
|||
[[pt:Rola-turca]] |
[[pt:Rola-turca]] |
||
[[ro:Guguștiuc]] |
[[ro:Guguștiuc]] |
Fersiwn yn ôl 14:05, 24 Hydref 2010
Turtur Dorchog | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Columbiformes |
Teulu: | Columbidae |
Genws: | Streptopelia |
Rhywogaeth: | S. decaocto |
Enw deuenwol | |
Streptopelia decaocto (Frivaldszky, 1838) |
Mae'r Durtur Dorchog (Streptopelia decaocto) yn aderyn sydd a hanes diddorol iawn. Yn wreiddiol yr oedd i'w gael yn y gwledydd rhwng de-ddwyrain Ewrop a Japan, ond tua dechrau'r ugeinfed ganrif dechreuodd wladychu ardaloedd newydd. erbyn diwedd y 1950au yr oedd wedi cyrraedd Prydain, ac yn fuan wedyn Iwerddon. Yn Sgandinafia mae'n nythu ymhell i'r gogledd erbyn hyn.
Ymddengys i'r Durtur Dorchog gyrraedd y Bahamas trwy ddamwain, ac oddi yno lledaenodd i Florida ac erbyn hyn i ran helaeth o Unol Daleithiau America. Un yn ymgartrefu'n hawdd mewn unrhyw leoliad. Nid yw'n aderyn mudol, er y gellir gweld symudiadau weithiau, yn enwedig mewn tywydd oer.
Mae'n nythu mewn coed, yn dodwy dau wy ar y tro. Gall nythu nifer o weithiau mewn blwyddyn. Gellir gweld yr aderyn yma o gwmpas gerddi yn aml iawn, ac mae'n medru bod yn ddôf iawn. Mae'n golomen weddol fychan, gyda phlu llwyd golau, a gwyn ar flaen y gynffon. Daw'r enw o'r hanner coler ddu ar y gwegil.
Yn y gaeaf gall cryn nifer o adar gasglu yn haid, yn enwedig lle mae digonedd o fwyd ar gael.