Tarddiad gwerin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ArthurBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ko:민간어원
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: en:Folk etymology
Llinell 26: Llinell 26:
[[da:Folkeetymologi]]
[[da:Folkeetymologi]]
[[de:Volksetymologie]]
[[de:Volksetymologie]]
[[en:False etymology]]
[[en:Folk etymology]]
[[es:Etimología popular]]
[[es:Etimología popular]]
[[fi:Kansanetymologia]]
[[fi:Kansanetymologia]]

Fersiwn yn ôl 10:56, 24 Hydref 2010

Mae tarddiad gwerin yn cyfeirio at ddadansoddiad o darddiad gair sy ddim yn gyson â'i darddiad hanesyddol. Yn aml mae tarddiadau gwerin yn ymddangos oherwydd bod siaradwyr yn gweld neu yn dychmygu tebygrwydd rhwng geiriau sy'n awgrymu perthynas rhyngddynt, er nad oedd perthynas o'r fath yn hanesyddol. Mae rhai tarddiadau gwerin yn dod yn lled gyffredin. Gall tarddiad gwerin arwain at newid i ffurf y gair i adlewyrchu'r dadansoddiad newydd ohono neu ffurfiau newydd eraill wedi'u seilio ar y dadansoddiad. Er enghraifft:

  • Cafodd y gair mwnci ei ddeall fel gair cyfansawdd o mwng a ci mewn rhai tafodieithoedd, er enghraifft Bangor (Fynes-Clinton 1913: 382), ac felly crëwyd y ffurfiau lluosog mwncwn neu myncwn yn y tafodieithoed hyn (Geiriadur Prifysgol Cymru tt. 2509–10, d.g. mwnci).

Mae'r newidiadau hyn yn fath ar gydweddiad. Gwelir tarddiad gwerin weithiau fel camgydweddiad.

Tarddiad gwerin mewn ieithoedd eraill

Ceir tarddiad gwerin yn lled aml mewn llawer o ieithoedd. Ymysg engreifftiau eraill y mae:

  • Mae siaradwyr Saesneg wedi dadansoddi'r gair hamburger, a fenthyciwyd yn wreiddiol o'r Almaeneg lle daw o enw'r ddinas Hamburg, fel gair cyfansawdd o ham ac elfen anhysbys burger. O ganlyniad rhoddwyd yr ystyr 'cacen gig' i burger gan greu geiriau newydd megis cheeseburger neu fishburger (Campbell 1998: 100–101).
  • Camsillafir y gair Saesneg harebrained yn aml fel hairbrained. Mae'r sillafiad newydd yn adlewyrchu tarddiad gwerin sy'n awgrymu'r ystyr 'ag ymennydd o wallt' yn lle'r tarddiad hanesyddol 'ag ymennydd fel ymennydd ysgwarnog' (Campbell 1998: 101).

Ffynonellau

  • Campbell, Lyle. 1998. Historical linguistics: An introduction. Caeredin: Edinburgh University Press, 100–102 ('Folk etymology').
  • Fynes-Clinton, O. H. 1913. The Welsh vocabulary of the Bangor district. Rhydychen: Oxford University Press.