Wicipedia:Ewch amdani!: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
{{Yn gryno|Os ydych yn gweld rhywbeth y gallwch chi ei wella neu ei ddatrys, gwellwch a/neu ddatryswch!}}
{{Yn gryno|Os ydych yn gweld rhywbeth y gallwch chi ei wella neu ei ddatrys, gwellwch a/neu ddatryswch!}}
{{Llwybr brys|WP:EA|WP:EWCH|WP:DATRYSWCH}}
{{TOC dde}}
{{TOC dde}}
== Ewch amdani! ==
== Ewch amdani! ==

Fersiwn yn ôl 00:23, 23 Hydref 2010

Llwybr(au) brys:
WP:EA
WP:EWCH
WP:DATRYSWCH

Ewch amdani!

Mae cymuned Wicipedia yn eich annog i olygu tudalennau, ac yn dweud ewch amdani wrth ddiweddaru/gwella erthyl(au). Mae Wiciau fel yr un a geir yma yn datblygu'n llawer cyflymach pan yw pawb yn helpu'i gilydd datrys problemau, cywiro gramadeg, ychwanegu ffeithiau, gwneud yn siŵr bod geiriad cywir, ac ati ac ati. Hoffem i bawb fynd amdani a helpu i Wicipedia fod yn wyddoniadur gwell. Sawl tro ydych chi wedi darllen rhywbeth a meddwl, "Pam nad oes copiolygu gan yr erthygl yma?" Mae Wicipedia'n rhoi'r gallu ichi ychwanegu, adolygu, a golygu erthyglau, a'r gorau oll - mae e eisiau ichi ei wneud! Wir, mae angen rhyw dipyn o foesgarwch, ond mae'n gweithio. Byddech yn ei weld e. Wrth gwrs, bydd cyfranwyr eraill yn golygu'r hyn rydych yn ei ysgrifennu, ond peidiwch â'i gymryd yn bersonol! Maen nhw, fel y gweddill ohonom ni, jyst am greu Wicipedia'n wyddoniadur mor dda ag y gallai fod.

Hefyd, pan welech chi wrthdrawiad mewn tudalen sgwrs, peidiwch ag eistedd yn dawel - ewch amdani a dweud eich dweud yno hefyd.

...ond gan bwyll

Mae "Ewch Amdani" (yn Saesneg: Be Bold) wedi dod yn slogan anffurfiol Wicipedia

Er bod cyfranwyr eraill a chwithau yn mynd amdani, sy'n gaffaeliad da, mae'n bwysig bod cyfranwyr yn cymryd gofal a chan bwyll, a ddim yn golygu'n ddi-hid. Wrth gwrs, gellir dadwneud unrhyw newidiadau, ond mae'n bwysig nad ydych yn ei gymryd i galon os yw'ch newidiadau yn cael eu dadwneud, eu newid (gwella fel arfer), neu gael eu golygu'n bellach. Ond ceir ychydig o newidiadau arwyddocaol sy'n parhau am oes, ac maen nhw'n anodd eu datrys os ydyn nhw'n codi. Os ydych yn ansicr am unrhyw beth, ceisiwch gymorth.

Yn aml iawn, mae'n llawer haws i weld fod rhywbeth allan o'i le na gwybod yn union yr hyn sy'n gywir i'w wneud. Nid oes yn rhaid i bawb fynd amdani. Wedi'r cyfan, dweud bod rhywbeth allan o'i le gydag erthygl yn ei thudalen sgwrs gall fod yn gam cyntaf, a hwn yw'r cam cyntaf i ddatrys y peth. Ond mae'n wir fod problemau'n cael eu datrys yn gyflymach os mai chi sy'n ei wneud.

I ddyfynnu Edmund Spenser, "Be bold, be bold, and everywhere be bold," ond "gan bwyll."

Llefydd nad ydynt yn erthyglau

Er ein bod yn annog i gyfranwyr fynd amdani wrth ddiweddaru erthyglau, mae'n rhaid cymryd rhagor o ofal wrth olygu tudalennau sydd ddim yn erthyglau. Adnabyddir y fath dudalennau gyda'r rhagddodiad enw-le. Er enghraifft, mae gan y tudalen hwn, Wicipedia:Ewch amdani!, y rhagddodiad "Wicipedia:"; os oedd Ewch amdani! (gyda dim rhagddodiad) yn sefyll ar ei ben ei hun, fe fyddai'n erthygl.

Gall problemau godi am ambell i reswm ar wahanol gyd-destunau o fewn llefydd nad ydynt yn erthyglau. Dylech ystyried y problemau hyn wrth fynd amdani, a sut i fynd amdani hefyd.

Enw-le Wicipedia

Mae'r rheol o "gan bwyll" yn hynod o bwysig mewn perthynas i ganllawiau a pholisïau Wicipedia, lle gellir mynegi rhannau allweddol mewn ffordd benodol i adlewyrchu consensws - sydd efallai ddim yn amlwg i bobl sy'n anghyfarwydd â'r cefndir. Yn y fath achosion, mae'n well trafod newidiadau yn gyntaf. Wedi dweud hynny, dylech gywiro gwallau gramadegol a sillafu mor fuan ag y bo modd ac wrth eu gweld.

Mae trafod newidiadau i dudalennau eraill gyda'r rhagddodiad "Wicipedia:" hefyd yn syniad da. Mae gwneud hwn yn darparu rheswm o'r newidiadau ar gyfer cyfranwyr eraill. Mae'r fath fwyafrif o dudalennau'n gasgliadau o ddadleuon a osodwyd mewn lle Wicipedia am gyfeiriad, felly nad oes yn rhaid ailadrodd yr un dadleuon drosodd a drosodd.


Nodyn:Canllawiau a pholisïau Wicipedia