Derwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
fideo gan Gyfoeth Naturiol Cymru
BDim crynodeb golygu
Llinell 29: Llinell 29:


'''Darafal''' neu afal y dderwen yw hwn, math o [[chwydd]] (''gall''), neu ardyfiant planhigol, ar dderw wedi ei achosi gan gacynen chwyddi, ''gall-wasp'' yn Saesneg. (Dywedir mai tarddiad y S. ‘’gall’’ yw dieithr, felly ”tyfiant dieithr” - cymh. [[llygoden ffyrnig|llygoden Ffrengig]], [[cytiau Gwyddelod]] ayb.)<ref>Bwletin Llên Natur rhifyn 52</ref>
'''Darafal''' neu afal y dderwen yw hwn, math o [[chwydd]] (''gall''), neu ardyfiant planhigol, ar dderw wedi ei achosi gan gacynen chwyddi, ''gall-wasp'' yn Saesneg. (Dywedir mai tarddiad y S. ‘’gall’’ yw dieithr, felly ”tyfiant dieithr” - cymh. [[llygoden ffyrnig|llygoden Ffrengig]], [[cytiau Gwyddelod]] ayb.)<ref>Bwletin Llên Natur rhifyn 52</ref>
[[Image:Oak apple.jpg|bawd|dde|250px|'Afal' y dderwen
[[Image:Oak apple.jpg|bawd|dde|250px|'Afal' y dderwen]]


==Mytholeg a chred==
==Mytholeg a chred==

Fersiwn yn ôl 08:26, 19 Awst 2019

Derw
Derwen goesog Quercus robur
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Fagales
Teulu: Fagaceae
Genws: Quercus
L.
Rhywogaethau

mwy na 500

Erthygl am y goeden yw hon. Ceir erthygl arall am y pentref yma.

Coed a llwyni sy'n perthyn i'r genws Quercus yw derw. Maen nhw'n cynhyrchu ffrwyth a elwir yn fes. Ceir dwy rywogaeth frodorol yng Nghymru: Derwen goesog (Quercus robur) a Derwen ddigoes (Quercus petraea).

fideo o gasglu a phlanu mes, eu hegino a'u plannu.

Breninbrennau derw

Ym mis Ebrill 2013 cwympodd derwen Pontfadog, derwen hynaf Cymru ac mae'n debyg un o'r hynaf yng ngogledd Ewrop. Dywedir iddi dyfu yn Y Waun ger Wrecsam ers y flwyddyn 802. Gwyddys i Owain Gwynedd ymgasglu ei fyddin o dan y goeden yn 1157, cyn gorchfygu'r Brenin Hari II yng nghyrch Crogen gerllaw.[1]

  • Major Oak

Efallai mai’r Major Oak yn Fforest Sherwood, swydd Nottingham ydy’r dderwen enwocaf ym Mhrydain. Credir ei bod hi’n 800-1100 mlwydd oed ac yn ôl llên gwerin, defnyddid y goeden hon gan Robin Hood a’i ddynion i gael cysgod. Amcangyfrifir bod pwysau’r Major Oak yn 23 tunnell a bod ei chengl yn 33 troedfedd. Cafwyd yr enw ‘Major Oak’ oddi wrth Major Hayman Rooke a roes i ni ddisgrifiad o’r goeden yn 1790. Ers yr Oes Fictoraidd, mae canghennau’r Major Oak yn cael eu cynnal gan system sgaffaldio ac yn 2003, dechreuwyd blanhigfa yn Norset trwy blannu glasbrennau a dyfwyd o fes y Major Oak. Diben y blanhigfa hon oedd astudio hanes a DNA'r Major Oak.[2]

Ecoleg

Mae dibyniaeth y nifer o rywogaethau eraill ar y ddwy rywogaeth cynhenid o dderwen yn rhagori ar unrhyw fath arall o goeden ym Mhrydainl[angen ffynhonnell]

Darafal neu afal y dderwen yw hwn, math o chwydd (gall), neu ardyfiant planhigol, ar dderw wedi ei achosi gan gacynen chwyddi, gall-wasp yn Saesneg. (Dywedir mai tarddiad y S. ‘’gall’’ yw dieithr, felly ”tyfiant dieithr” - cymh. llygoden Ffrengig, cytiau Gwyddelod ayb.)[3]

'Afal' y dderwen

Mytholeg a chred

Mewn nifer o ddiwylliannau Indo-Ewropeaidd, gan gynnwys y Celtiaid (gweler drunemeton), roedd y dderwen yn goeden sanctaidd. Derwen yw tarddiad poblogaidd y gair Gymraeg derwydd, ond gwyddys bellach nad oes sail ieithyddol i hynny. Ym mytholeg y Germaniaid roedd y goeden yn perthyn i Ddonar, duw'r mellt. Roedd y Groegiaid yn ei chysylltu â Zeus, pennaeth duwiau Olympws; plennid derw sanctaidd mewn cysegrfannau fel Dodona. Mae'r dderwen yn symboleiddio nerth gwrywaidd a dyfalbarhad.

Cyfeiriadau

  1. Oriel gwefan Llen Natur (llun gyda chaniatad Coed Cadw)
  2. Martin Coleman yn Llais Derwent rhifyn 38
  3. Bwletin Llên Natur rhifyn 52