Derwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Holder (sgwrs | cyfraniadau) B corr |
fideo gan Gyfoeth Naturiol Cymru |
||
Llinell 17: | Llinell 17: | ||
:''Erthygl am y goeden yw hon. Ceir erthygl arall am y pentref [[Derwen, Sir Ddinbych|yma]].'' |
:''Erthygl am y goeden yw hon. Ceir erthygl arall am y pentref [[Derwen, Sir Ddinbych|yma]].'' |
||
[[Coed]] a [[llwyn]]i sy'n perthyn i'r genws ''Quercus'' yw '''derw'''. Maen nhw'n cynhyrchu ffrwyth a elwir yn [[mesen|fes]]. Ceir dwy rywogaeth frodorol yng Nghymru: [[Derwen goesog]] (''Quercus robur'') a [[Derwen ddigoes]] (''Quercus petraea''). |

[[Delwedd:Mae Miri Mes yn ôl It’s time for some Acorn Antics!.webm|bawd|fideo o gasglu a phlanu mes, eu hegino a'u plannu.]] |
|||
==Breninbrennau derw== |
==Breninbrennau derw== |
||
Llinell 22: | Llinell 23: | ||
Ym mis Ebrill 2013 cwympodd derwen Pontfadog, derwen hynaf Cymru ac mae'n debyg un o'r hynaf yng ngogledd [[Ewrop]]. Dywedir iddi dyfu yn Y Waun ger [[Wrecsam]] ers y flwyddyn 802. Gwyddys i [[Owain Gwynedd]] ymgasglu ei fyddin o dan y goeden yn 1157, cyn gorchfygu'r [[Brenin Hari II]] yng nghyrch [[Crogen]] gerllaw.<ref>[https://www.llennatur.cymru/ Oriel gwefan Llen Natur (llun gyda chaniatad Coed Cadw)]</ref> |

* ''Major Oak'' |
* ''Major Oak'' |
||
Efallai mai’r ''Major Oak'' yn [[Fforest Sherwood]], [[swydd Nottingham]] ydy’r dderwen enwocaf ym Mhrydain. Credir ei bod hi’n 800-1100 mlwydd oed ac yn ôl llên gwerin, defnyddid y goeden hon gan [[Robin Hood]] a’i ddynion i gael cysgod. Amcangyfrifir bod pwysau’r Major Oak yn 23 tunnell a bod ei chengl yn 33 troedfedd. Cafwyd yr enw ‘Major Oak’ oddi wrth Major Hayman Rooke a roes i ni ddisgrifiad o’r goeden yn 1790. Ers yr [[Oes Fictoria|Oes Fictoraidd]], mae canghennau’r Major Oak yn cael eu cynnal gan system sgaffaldio ac yn 2003, dechreuwyd blanhigfa yn [[swydd Dorset|Norset]] trwy blannu glasbrennau a dyfwyd o fes y Major Oak. Diben y blanhigfa hon |
Efallai mai’r ''Major Oak'' yn [[Fforest Sherwood]], [[swydd Nottingham]] ydy’r dderwen enwocaf ym Mhrydain. Credir ei bod hi’n 800-1100 mlwydd oed ac yn ôl llên gwerin, defnyddid y goeden hon gan [[Robin Hood]] a’i ddynion i gael cysgod. Amcangyfrifir bod pwysau’r Major Oak yn 23 tunnell a bod ei chengl yn 33 troedfedd. Cafwyd yr enw ‘Major Oak’ oddi wrth Major Hayman Rooke a roes i ni ddisgrifiad o’r goeden yn 1790. Ers yr [[Oes Fictoria|Oes Fictoraidd]], mae canghennau’r Major Oak yn cael eu cynnal gan system sgaffaldio ac yn 2003, dechreuwyd blanhigfa yn [[swydd Dorset|Norset]] trwy blannu glasbrennau a dyfwyd o fes y Major Oak. Diben y blanhigfa hon oedd astudio hanes a [[DNA]]'r Major Oak.<ref name=Coleman>Martin Coleman yn Llais Derwent rhifyn 38</ref> |
||
==Ecoleg== |
==Ecoleg== |
||
Llinell 28: | Llinell 29: | ||
'''Darafal''' neu afal y dderwen yw hwn, math o [[chwydd]] (''gall''), neu ardyfiant planhigol, ar dderw wedi ei achosi gan gacynen chwyddi, ''gall-wasp'' yn Saesneg. (Dywedir mai tarddiad y S. ‘’gall’’ yw dieithr, felly ”tyfiant dieithr” - cymh. [[llygoden ffyrnig|llygoden Ffrengig]], [[cytiau Gwyddelod]] ayb.)<ref>Bwletin Llên Natur rhifyn 52</ref> |

[[Image:Oak apple.jpg|bawd|dde|250px| |
[[Image:Oak apple.jpg|bawd|dde|250px|'Afal' y dderwen |
||
==Mytholeg a chred== |
==Mytholeg a chred== |
Fersiwn yn ôl 08:26, 19 Awst 2019
Derw | |
---|---|
Derwen goesog Quercus robur | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Fagales |
Teulu: | Fagaceae |
Genws: | Quercus L. |
Rhywogaethau | |
mwy na 500 |
- Erthygl am y goeden yw hon. Ceir erthygl arall am y pentref yma.
Coed a llwyni sy'n perthyn i'r genws Quercus yw derw. Maen nhw'n cynhyrchu ffrwyth a elwir yn fes. Ceir dwy rywogaeth frodorol yng Nghymru: Derwen goesog (Quercus robur) a Derwen ddigoes (Quercus petraea).
Breninbrennau derw
Ym mis Ebrill 2013 cwympodd derwen Pontfadog, derwen hynaf Cymru ac mae'n debyg un o'r hynaf yng ngogledd Ewrop. Dywedir iddi dyfu yn Y Waun ger Wrecsam ers y flwyddyn 802. Gwyddys i Owain Gwynedd ymgasglu ei fyddin o dan y goeden yn 1157, cyn gorchfygu'r Brenin Hari II yng nghyrch Crogen gerllaw.[1]
- Major Oak
Efallai mai’r Major Oak yn Fforest Sherwood, swydd Nottingham ydy’r dderwen enwocaf ym Mhrydain. Credir ei bod hi’n 800-1100 mlwydd oed ac yn ôl llên gwerin, defnyddid y goeden hon gan Robin Hood a’i ddynion i gael cysgod. Amcangyfrifir bod pwysau’r Major Oak yn 23 tunnell a bod ei chengl yn 33 troedfedd. Cafwyd yr enw ‘Major Oak’ oddi wrth Major Hayman Rooke a roes i ni ddisgrifiad o’r goeden yn 1790. Ers yr Oes Fictoraidd, mae canghennau’r Major Oak yn cael eu cynnal gan system sgaffaldio ac yn 2003, dechreuwyd blanhigfa yn Norset trwy blannu glasbrennau a dyfwyd o fes y Major Oak. Diben y blanhigfa hon oedd astudio hanes a DNA'r Major Oak.[2]
Ecoleg
Mae dibyniaeth y nifer o rywogaethau eraill ar y ddwy rywogaeth cynhenid o dderwen yn rhagori ar unrhyw fath arall o goeden ym Mhrydainl[angen ffynhonnell]
Darafal neu afal y dderwen yw hwn, math o chwydd (gall), neu ardyfiant planhigol, ar dderw wedi ei achosi gan gacynen chwyddi, gall-wasp yn Saesneg. (Dywedir mai tarddiad y S. ‘’gall’’ yw dieithr, felly ”tyfiant dieithr” - cymh. llygoden Ffrengig, cytiau Gwyddelod ayb.)[3] [[Image:Oak apple.jpg|bawd|dde|250px|'Afal' y dderwen
Mytholeg a chred
Mewn nifer o ddiwylliannau Indo-Ewropeaidd, gan gynnwys y Celtiaid (gweler drunemeton), roedd y dderwen yn goeden sanctaidd. Derwen yw tarddiad poblogaidd y gair Gymraeg derwydd, ond gwyddys bellach nad oes sail ieithyddol i hynny. Ym mytholeg y Germaniaid roedd y goeden yn perthyn i Ddonar, duw'r mellt. Roedd y Groegiaid yn ei chysylltu â Zeus, pennaeth duwiau Olympws; plennid derw sanctaidd mewn cysegrfannau fel Dodona. Mae'r dderwen yn symboleiddio nerth gwrywaidd a dyfalbarhad.
Cyfeiriadau
- ↑ Oriel gwefan Llen Natur (llun gyda chaniatad Coed Cadw)
- ↑ Martin Coleman yn Llais Derwent rhifyn 38
- ↑ Bwletin Llên Natur rhifyn 52