Bethesda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
KamikazeBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: eu:Bethesda (Gales)
Llwybrau (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 36: Llinell 36:
*[[John Ogwen]] - Un o actorion mwyaf blaenllaw Cymru.
*[[John Ogwen]] - Un o actorion mwyaf blaenllaw Cymru.
*[[Dafydd Orwig]] - Cynghorydd [[Plaid Cymru]] fu'n frwd dros [[addysg Gymraeg]].
*[[Dafydd Orwig]] - Cynghorydd [[Plaid Cymru]] fu'n frwd dros [[addysg Gymraeg]].
*[[John Doyle]] - Gitarydd a cherddor a ddaeth i amlygrwydd fel un o'r deuawd [[Iwcs a Doyle]].


==Trefi eraill o'r un enw==
==Trefi eraill o'r un enw==

Fersiwn yn ôl 14:22, 22 Hydref 2010

Bethesda
Gwynedd
Erthygl am y pentref yng Ngwynedd yw hon. Gweler hefyd Bethesda (gwahaniaethu).

Pentref a chymuned yng Ngwynedd, yn Nyffryn Ogwen, a enwyd ar ôl Capel Bethesda. Y mae ei thrigolion yn aml yn cyfeirio ati fel Pesda. Cyfeirnod OS: SH 62262 66779.

Hanes

Bu pobl yn byw yn Nyffryn Ogwen am ganrifoedd cyn i Fethesda ei hun ddyfod, gyda plwyf Llanllechid yn un o'r mannau mwyaf poblog. Ni dyfodd yr ardal nes agor Chwarel y Penrhyn yn yr 18fed ganrif, gyda theulu Warburton yn berchen arni. Hyd heddiw, hi yw'r chwarel mwyaf yn y byd a wnaed heb beiriannau, ac yn ei hanterth cyflogai tua 5,000 o weithwyr, ac allforiai llechi o amgylch y byd; roedd Rheilffordd Chwarel y Penrhyn yn cysyltu'r chwarel a dociau Porth Penrhyn, ger Bangor.

Er y bu sawl streic yn y chwarel yn yr 1880au a'r 1890au, mae'r pentref yn enwog am Y Streic Fawr a fu rhwng 1900-3 wrth i weithwyr cael eu cau allan o'r chwarel wedi ffrae am gyflogau. Ym 1901 gadawyd unrhyw un a hoffai weithio ddychwelyd, gan greu rhwyg chwerw yn y pentref rhwng y streicwyr a'r 'cynffonwyr'. Er y daeth y streic i ben ym 1903 ni adfywiodd y pentref, wrth i'r diwydiant llechi ddirywio ac wrth i tua hanner ei phoblogaeth alltudo.

Pobl

Bethesda yn y gaeaf

Yn ôl cyfrifiad 2001 yr oedd 4,327 o bobl yn byw yn yng nghymuned Bethesda (sy'n cynnwys pentref Rachub ac ardal Gerlan), gyda 77.0% ohonynt yn medru'r Gymraeg. Ym 1991 roedd y ffigwr hwn yn uwch, gyda oddeutu 80% o'r boblogaeth yn ei medru. Mae'r boblogaeth a'r canran sy'n medru'r Gymraeg wedi dirywio dros y ganrif ddiwethaf - ym 1901, yn ystod adeg y Streic Fawr, roedd tua deng mil o bobl yn byw yn yr ardal, gyda 99% ohonynt yn siarad Cymraeg, sef y ffigwr uchaf yng Nghymru ar y pryd.

Ffugenw pobl Bethesda yw'r How Gets. Mae hyn yn deillio o'r ystydeb bod pobl Bethesda â Saesneg wael, a byddent wastad yn gofyn i deithwyr di-Gymraeg "How get you here?". Yn ddiweddarach mae gan ei phobl enw am fod â acen "ymosodol" a chaletach na gweddill y cyffiniau.

Heddiw, mae gan bobl Bethesda ymwybyddiaeth gryf am hanes eu pentref, yn enwedig o'r Streic Fawr. Bydd yr enw 'Penrhyn' (yn cyfeirio at deulu Penrhyn) dal yn corddi'r trigolion, a hyd yn oed canrif wedi'r Streic gwrthoda llawer ymweld â hen gartref y teulu hwnnw yng Nghastell Penrhyn.

Gwaith

Hyd heddiw Chwarel Y Penrhyn yw un o brif cyflogwyr y pentref, gyda tua 300 o weithwyr. Y mae ffatri Austin Taylor's hefyd yn gyflowr pwysig. Serch hyn, nid oes fawr o gyfleon i bobl ifanc yn y pentref, a bydd nifer yn gadael am lefydd fel Caerdydd a Manceinion. Y mae llawer o'r boblogaeth yn gorfod comiwtio i weithio, gyda Bangor yn fan poblogaidd iddynt.

O ddydd i ddydd

Cymraeg yw prif iaith y pentref, a fe'i gwelir a'i chlywir ymhobman. Mae Bethesda yn enwog am ddau beth yn benodol, sef y nifer o dafarndai yno a'r nifer o gapeli. Y mae gan gymuned Bethesda wyth o dafarndai (chwech ohonynt yn y Stryd Fawr), a mae tri lle arall lle y gellid yfed. Yn wahanol i'r arfer, noson prysuraf Bethesda yw'r nos Sul. Mae nifer rhyfeddol o lefydd yn gwerthu prydau parod, a mae'r Mabinogion yn siop sglodion gyda enw da dros ardal eang. Mae hefyd tair caffi yn y stryd fawr.

Mae tair ysgol fechan yn y gymuned, ac un ysgol uwchradd sef Ysgol Dyffryn Ogwen, sydd â thua 400 o ddisgyblion a 30 o athrawon.

Llais Ogwan yw'r papur bro lleol, ac mae'n gwerthu tua 2000 o gopiau pob mis.

Enwogion

Trefi eraill o'r un enw

Heblaw am y Bethesda wreiddiol yn y Beibl, mae yna un ar hugain o drefi o'r enw "Bethesda" yn Unol Daleithiau America a Chanada; y mwyaf enwog ohonynt yw Bethesda, Maryland (gweler Bethesda (gwahaniaethu)).