Cynghrair Cymru Gogledd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Symudodd Blogdroed y dudalen Cynghrair Undebol i Cynghrair Cymru Gogledd: Newid enw'r Gynghrair
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
{{Infobox football league
{{Infobox football league
|name =Cymru Alliance
|name =Cynghrair Cymru Gogledd
|logo = Cymru-Alliance.jpg
|logo =
|pixels = 250
|pixels =
|country = {{WAL}}
|country = {{WAL}}
|confed =
|confed =
Llinell 15: Llinell 15:
|domest_cup = [[Cwpan Cymru]]<br/>[[Cwpan y Gynghrair Undebol]]
|domest_cup = [[Cwpan Cymru]]<br/>[[Cwpan y Gynghrair Undebol]]
|confed_cup =
|confed_cup =
|champions = [[C.P.D. Tref Caernarfon|Caernarfon]]
|champions = [[C.P.D. Airbus UK Brychdyn|Airbus Brychdyn]]
|season = 2017-18
|season = 2018-19
|most successful club =
|most successful club =
|tv =
|tv =
|website =
|website = [http://huwsgrayalliance.pitchero.com/ Huws Gray Alliance]
|current =
|current =
}}
}}

Fersiwn yn ôl 14:45, 17 Awst 2019

Cynghrair Cymru Gogledd
Gwlad Cymru
Sefydlwyd1990
Adrannau1
Nifer o dimau16
Lefel ar byramid2
Dyrchafiad iUwch Gynghrair Cymru
Disgyn iCynghrair Cymru (Ardal Wrecsam)
Cynghrair Undebol y Gogledd
Cynghrair Canolbarth Cymru
CwpanauCwpan Cymru
Cwpan y Gynghrair Undebol
Pencampwyr PresennolAirbus Brychdyn
(2018-19)

Cynghrair Cymru Gogledd (Saesneg: Cymru North) yw prif gynghrair pêl-droed gogledd a chanolbarth Cymru. Mae'r gynghrair yn ffurfio ail reng Pyramid pêl-droed Cymru sydd yn cael ei hadnabod fel Pencampwriaeth Cymru ac yn cael ei rheoli gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru. Mae Cynghgrair Cymru Gogledd yn bwydo Uwch Gynghrair Cymru.

Hanes

Ffurfiwyd y gynghrair ym 1990 fel Cynghrair Undebol y Gogledd er mwyn sicrhau cynghrair gref ar gyfer gogledd Cymru wedi i Gymdeithas Bêl-droed Cymru gyhoeddi eu bwriad i greu cynghrair genedlaethol ar gyfer tymor 1992-93.[1]. Cyn 1990, roedd tair cynghrair gwahanol, sef Cynghrair Undebol Arfordir y Gogledd, Cynghrair Cymru (Ardal Wrecsam) a Chynghrair y Canolbarth, yn rhannu lefel uchaf pyramid pêl-droed Cymru gyda Chynghrair Cymru (y De).

Daeth y Gynghrair Undebol â thimau gorau'r dair cynghrair at eu gilydd gyda'r bwriad o godi safon pêl-droed ar draws y rhanbarth.Yr 16 clwb gwreiddiol oedd Caersws, Carno, Penrhyncoch, Llanidloes a'r Trallwng o Gynghgrair y Canolbarth, Bethesda, Cei Connah, Conwy, Dyffryn Nantlle, Porthmadog, Treffynnon a'r Fflint o Gynghrair Undebol y Gogledd a Brymbo, Gresffordd a'r Wyddgrug o Gynghrair Cymru (Ardal Wrecsam)[1].

Mae'r dair Gynghrair gafodd eu disodli gan y Gynghrair Undebol, sef Cynghrair Undebol Arfordir y Gogledd (Gogledd-orllewin ac Arfordir y Gogledd), Cynghrair Cymru (Ardal Wrecsam) a Cynghrair y Canolbarth, bellach yn bwydo'r Gynghrair Unbdebol.

Ers tymor 2019-20 mae Cynghrair Cymru Gogledd yn dod o dan adain Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac, ynghyd â Chynghrair Cymru De yn ffurfio ail haen Uwch Gynghrair Cymru o dan yr enw Pencampwriaeth Cymru[2][3].

Pencampwyr

Tymor Pencampwyr Tymor Pencampwyr Tymor Pencampwyr
1990-91 Y Fflint 2000-01 Caernarfon 2010-11 gap Cei Connah
1991-92 Caersws 2001-02 Y Trallwng 2011-12 gap Cei Connah
1992-93 Llansantffraid 2002-03 Porthmadog 2012-13 Y Rhyl
1993-94 Y Rhyl 2003-04 Airbus U.K. 2013-14 Derwyddon Cefn
1994-95 Bae Cemaes 2004-05 Bwcle 2014-15 Tref Llandudno
1995-96 Croesoswallt 2005-06 Glantraeth 2015-16 Caernarfon
1996-97 Rhaeadr Gwy 2006-07 Llangefni 2016-17 Prestatyn
1997-98 Rhydymwyn 2007-08 Prestatyn 2017-18 Caernarfon
1998-99 Derwyddon Cefn Flexsys 2008-09 Y Bala 2018-19 Airbus Brychdyn
1999-00 Croesoswallt 2009-10 Llangefni

Sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru

Cysylltiadau allanol

Cynghrair Undebol, 2018-19

Airbus UK | Bangor | Bwcle | Cegidfa | Conwy | Dinbych | Gresffordd | Hotspur Caergybi |
Llanrhaeadr | Penrhyncoch | Porthmadog | Prestatyn | Rhuthun | Treffynnon Y Fflint | Y Rhyl


Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 "Cymru Alliance: History". Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. https://www.faw.cymru/cy/news/croeso-i-gymru/?back=/cy/&pos=8
  3. https://clwbpeldroed.org/2018/11/28/football-association-wales-restructuring-pyramid/
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.