Sefydliad Masnach y Byd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
comin |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Er 2001, mae CMB yn dilyn cyfarwyddiadau 'Cylch Doha', a gytunwyd yn [[Doha]], prifddinas [[Qatar]]. Er nad yw'n un o asiantaethau arbennig y [[Cenhedloedd Unedig]], mae gan CMB gysylltiadau â'r gyfundrefn honno. Lleolir prifgadlys CMB yn ninas [[Genefa]], [[Y Swistir]]. Ar 26 Mai 2005, daeth y Ffrancwr [[Pascal Lamy]] yn Gyfarwyddwr Cyffredinol CMB, gan olynu'r gŵr Thai [[Supachai Panitchpakdi]]. Adnewyddwyd ei benodiad yn Ebrill 2009 am dymor o bedair blynedd arall. |
Er 2001, mae CMB yn dilyn cyfarwyddiadau 'Cylch Doha', a gytunwyd yn [[Doha]], prifddinas [[Qatar]]. Er nad yw'n un o asiantaethau arbennig y [[Cenhedloedd Unedig]], mae gan CMB gysylltiadau â'r gyfundrefn honno. Lleolir prifgadlys CMB yn ninas [[Genefa]], [[Y Swistir]]. Ar 26 Mai 2005, daeth y Ffrancwr [[Pascal Lamy]] yn Gyfarwyddwr Cyffredinol CMB, gan olynu'r gŵr Thai [[Supachai Panitchpakdi]]. Adnewyddwyd ei benodiad yn Ebrill 2009 am dymor o bedair blynedd arall. |
||
Ers diwedd y 1990au, mae CMB dan feirniadaeth lem mudiadau gwleidyddol amgen sy'n gwrthwynebu yr hyn a alwent yn "hybu [[globaleiddio]]'r [[economi ryngwladol]]" a "rhoi rhwydd hynt" i fasnachwyr y gwledydd cyfoethog ar draul gweithwyr mewn gwledydd llai datblygiedig a'r tlodion yn gyffredinol. Mewn canlyniad mae |
Ers diwedd y 1990au, mae CMB dan feirniadaeth lem mudiadau gwleidyddol amgen sy'n gwrthwynebu yr hyn a alwent yn "hybu [[globaleiddio]]'r [[economi ryngwladol]]" a "rhoi rhwydd hynt" i fasnachwyr y gwledydd cyfoethog ar draul gweithwyr mewn gwledydd llai datblygiedig a'r tlodion yn gyffredinol. Mewn canlyniad mae cynadleddau CMB wedi bod yn ffocws i wrthdystio ar raddfa eang. |
||
== Cyfeiriadau == |
== Cyfeiriadau == |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
== Dolenni allanol == |
== Dolenni allanol == |
||
{{comin|Category:World Trade Organization|Cyfundrefn Masnach y Byd}} |
|||
* [http://www.wto.org/indexfr.htm Gwefan swyddogol CMB] |
* [http://www.wto.org/indexfr.htm Gwefan swyddogol CMB] |
||
Fersiwn yn ôl 22:38, 21 Hydref 2010
Cyfundrefn ryngwladol yw Cyfundrefn Masnach y Byd neu CMB (Ffrangeg: Organisation mondiale du commerce, OMC; Saesneg: World Trade Organization, WTO; Sbaeneg: Organización Mundial del Comercio, OMC) sy'n ymwneud â'r rheolau sy'n rheoli masnach ryngwladol rhwng gwledydd. Craidd y gyfundrefn yw Cytundeb CMB a drafodwyd ac a arwyddwyd yn Ebrill 2004 ym Marrakech, Moroco gan y rhan fwyaf o bwerau economaidd mawr y byd ac a gydnabuwyd ar ôl hynny gan eu seneddau. Bwriad swyddogol CMB yw cynorthwyo cynhyrchwyr nwyddau a gwasanaethau, allforwyr a mewnforwyr, i weithredu a hynny trwy gyfyngu rhwystrau i fasnach. Yn 2009 roedd gan y gyfundrefn gyllid o 189 miliwn Ffranc y Swistir a 153 aelod-wladwriaeth: Cabo Verde yw'r aelod diweddaraf.[1] Nid yw Rwsia, Iran a rhan helaeth y byd Arabaidd yn aelodau. Ffrangeg, Sbaeneg a Saesneg yw ei hieithoedd swyddogol.
Er 2001, mae CMB yn dilyn cyfarwyddiadau 'Cylch Doha', a gytunwyd yn Doha, prifddinas Qatar. Er nad yw'n un o asiantaethau arbennig y Cenhedloedd Unedig, mae gan CMB gysylltiadau â'r gyfundrefn honno. Lleolir prifgadlys CMB yn ninas Genefa, Y Swistir. Ar 26 Mai 2005, daeth y Ffrancwr Pascal Lamy yn Gyfarwyddwr Cyffredinol CMB, gan olynu'r gŵr Thai Supachai Panitchpakdi. Adnewyddwyd ei benodiad yn Ebrill 2009 am dymor o bedair blynedd arall.
Ers diwedd y 1990au, mae CMB dan feirniadaeth lem mudiadau gwleidyddol amgen sy'n gwrthwynebu yr hyn a alwent yn "hybu globaleiddio'r economi ryngwladol" a "rhoi rhwydd hynt" i fasnachwyr y gwledydd cyfoethog ar draul gweithwyr mewn gwledydd llai datblygiedig a'r tlodion yn gyffredinol. Mewn canlyniad mae cynadleddau CMB wedi bod yn ffocws i wrthdystio ar raddfa eang.