Federico García Lorca: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 84: Llinell 84:
[[lv:Federiko Garsija Lorka]]
[[lv:Federiko Garsija Lorka]]
[[mk:Федерико Гарсија Лорка]]
[[mk:Федерико Гарсија Лорка]]
[[mrj:Гарсиа Лорка, Федерико]]
[[nl:Federico García Lorca]]
[[nl:Federico García Lorca]]
[[nn:Federico García Lorca]]
[[nn:Federico García Lorca]]

Fersiwn yn ôl 21:54, 21 Hydref 2010

Cerfddelw García Lorca yn y plaza de Santa Ana yn Madrid

Roedd Federico García Lorca (5 Mehefin 1898 - 18 Awst 1936) yn fardd a dramodydd o Sbaen. Ystyrir ef yn un o brif lenorion Sbaen yn yr 20fed ganrif; ei waith enwocaf yw'r ddrama Bodas de sangre ("Priodas Waed") (1933).

Ganed ef yn Fuente Vaqueros, gerllaw Granada yn Andalucia. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, Impresiones y paisajes, yn 1918. Yn 1929 teithiodd i Efrog Newydd, lle cyfansoddodd gyfrol o gerddi.

Pan ddechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen, roedd ym Madrid. Roedd Lorca yn adnabyddus fel cefnogwwr y chwith yn wleidyddol, ond mynnodd deithio yn ôl i Granada, oedd yn nwylo cefnogwyr Franco. At 16 Awst 1936 roedd yn aros yn nhŷ cyfaill pan gymerwyd ef yn garcharor. Saethwyd ef ddau ddiwrnod yn ddiweddarach.


Barddoniaeth

Dramâu

Cyfieithwyd Bodas de sangre i'r Gymraeg fel Priodas waed gan R. Bryn Williams a John Rowlands.