Pen Talar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
dolenni allanol |
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: de:Pen Talar |
||
Llinell 46: | Llinell 46: | ||
[[Categori:Rhaglenni teledu Cymreig]] |
[[Categori:Rhaglenni teledu Cymreig]] |
||
[[Categori:Rhaglenni teledu S4C]] |
[[Categori:Rhaglenni teledu S4C]] |
||
[[de:Pen Talar]] |
Fersiwn yn ôl 16:30, 21 Hydref 2010
Pen Talar | |
---|---|
Siot sgrîn o logo'r gyfres | |
Genre | Drama |
Serennu | Richard Harrington Ryland Teifi Mali Harries Aneirin Hughes Eiry Thomas Dafydd Hywel |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg (is-deitlau Saesneg) |
Nifer cyfresi | 1 |
Nifer penodau | 9 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | c.60 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Darllediad gwreiddiol | 12 Medi, 2010 – 9 Tachwedd, 2010 |
Cysylltiadau allanol | |
Gwefan swyddogol |
Un o gyfresi ddrama mwyaf uchelgeisiol S4C ydy Pen Talar. Mae'r gyfres yn adrodd hynt a helynt dau deulu o orllewin Cymru dros gyfnod o hanner canrif, gan ddechrau yn y 1950au ac yn parhau i'r presennol. Nid yw'r prif gymeriad Richard Harrington yn ymddangos tan y drydedd rhaglen o'r gyfres am fod y rhaglenni blaenorol yn dangos hanes bywyd ei gymeriad fel plentyn. Ffilmiwyd rhannau helaeth o'r gyfres yn Cil-y-Cwm, Sir Gaerfyrddin ond gwnaed rhyw faint o ffilmio yn Aberystwyth ac yng Nghaerdydd hefyd. Cynhyrchwyd y gyfres gan gwmni Fiction Factory. Cynhyrchydd y gyfres oedd Gethin Scourfield a chyfarwyddwyd rhaglenni'r gyfres gan Gareth Bryn ac Ed Thomas.
Crynodeb o'r rhaglenni
Rhaglen 1
Mae'r rhaglen gyntaf yn ymdrin â theulu'r Lewisiaid rhwng 1962-63. Gwelwn gymeriad Defi yn ddeng mlwydd oed. Mae'n byw yn Nyffryn Tywi ger Caerfyrddin. Mae ganddo gefndir dosbarth canol ac mae wedi derbyn addysg o safon uchel. Er iddo gael ei faldodi gan ei fam (Enid Lewis), mae ganddo elfen annibynnol iawn i'w bersonoliaeth. Mae Defi hefyd yn gannwyll llygad ei dad (John Lewis) hefyd, a phan mae'n 10 oed, mae'n amlwg ei fod yn ednygu ei dad yn fawr iawn. Gwelwn yn glir fod Defi yn fachgen deallus. Mae hefyd yn gyfaill agos i Douglas Green.
Rhaglen 2
Erbyn yr ail raglen, mae Defi bellach yn 17 oed ac mae ganddo ddiddordeb brwd yng ngwleidyddiaeth. Gwelwn yn glir ei fod yn ddyn ifanc sydd yn genedlaetholgar a theimla'n angerddol dros sefyllfa Cymru a'r iaith. Fe'i ystyrir yn fachgen hynod ddeallus sydd yn osgoi gweithgareddau arferol i ddyn ifanc o'i oedran ef.
Rhaglen 3
Bellach mae Defi yn 22 oed ac wedi cyrraedd Prifysgol Aberystwyth lle mae ei ddiddordeb ym myd gwleiddiaeth yn parhau. Fodd bynnag, gwelir ei wleidyddiaeth yn mynd yn fwyfwy eithafol a radicalaidd. Erbyn hyn hefyd, mae Doug hefyd yn 22 oed ac wedi cael swydd fel gohebydd i bapur newydd lleol. Mae'n mwynhau'r ffaith ei fod yn ennill arian, a phan mae'n mynd i hol Defi o'r brifysgol, gyrra yno yn ei gar newydd. Er fod y ddau ohonynt yn parhau i fod yn ffrindiau, gwelir y berthynas rhynddynt yn araf ddirywio.
Cast
- Defi Lewis - Richard Harrington
- Douglas Green - Ryland Teifi
- Enid Lewis - Eiry Thomas
- John Lewis - Aneirin Hughes
- Siân Lewis - Mali Harries
- Albert Green - Dafydd Hywel
Dolenni allanol
- Gwefan Swyddogol
- PentalarPedia - Wiki answyddogol i gydfynd â'r gyfres