Penarddun: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
FoxBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: it:Penarddun
MystBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: de:Penarddun
Llinell 13: Llinell 13:
[[Categori:Pedair Cainc y Mabinogi]]
[[Categori:Pedair Cainc y Mabinogi]]


[[de:Penarddun]]
[[en:Penarddun]]
[[en:Penarddun]]
[[it:Penarddun]]
[[it:Penarddun]]

Fersiwn yn ôl 09:39, 19 Hydref 2010

Yn y traddodiad Cymreig, gwraig Llŷr a merch (neu chwaer) Beli Mawr yw Penarddun. Mewn rhai testunau achyddol mae Arthur yn un o ddisgynyddion Penarddun, ond ni ellir eu derbyn fel achau dilys.

Cyfeirir ati yn y Gyntaf o Bedair Cainc y Mabinogi, Branwen ferch Llŷr, fel mam Bendigeidfran, Branwen, a Manawydan gan Llŷr, a mam dau fab arall, sef y gefeilliaid Nisien ac Efnysien, gan Euroswydd.

Yn y Trioedd, rhestrir Llŷr (fel Llŷr Llediaith) yn un o 'Dri Goruchel Garcharor Ynys Prydain' am iddo gael ei ddal yn garcharor gan Euroswydd; dichon fod hyn yn deillio o chwedl goll am ymryson rhwng Euroswydd a Llŷr am gariad Penarddun.[1]

Cyfansoddair yw'r enw Penarddun o pen ac arddun "teg, prydferth (am ferch)"[2]).

References

  1. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1991), Triawd.
  2. Geiriadur Prifysgol Cymru, vol. 1, p. 188.