Morgan Owen (bardd a llenor): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Mae'n rhan o brosiect 'Awduron wrth eu Gwaith' [[Gŵyl y Gelli]].<ref>https://www.hayfestival.com/writers-at-work/</ref> Fis Hydref 2018, ef oedd un o bedwar bardd a gymerodd ran yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru,<ref>https://www.literaturewales.org/our-projects/her-100-cerdd/</ref>, ynghyd ag [[Osian Owen]], [[Caryl Bryn]], a [[Manon Awst]]; a'r un flwyddyn, ef oedd bardd preswyl Arddangosfa Bensaernïaeth [[Y Lle Celf]] yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018]]. Mae wedi cyhoeddi gwaith yn ''[[O'r Pedwar Gwynt (cylchgrawn)|O'r Pedwar Gwynt]]'',<ref>https://pedwargwynt.cymru/safle/tag/Morgan+Owen</ref>, ''[[Barddas (cylchgrawn)|Barddas]]'', ac ''[[Y Stamp]]'', ymysg llefydd eraill. Enillodd Dlws Coffa D Gwyn Evans yn 2017 a 2018,<ref>https://www.barddas.cymru/bardd/morgan-owen/</ref> sef tlws a roddir gan ''[[Barddas (cylchgrawn)|y Gymdeithas Gerdd Dafod]]'' am y gerdd orau mewn cystadleuaeth i feirdd dan 25 oed. Ym mis Ebrill 2018, dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth Gerallt gan Y Gymdeithas Gerdd Dafod i fynychu cwrs cynganeddu dwys yn y Tŷ Newydd; ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn, fe’i comisiynwyd gan y [[Y Senedd (adeilad y Cynulliad)|Y Senedd]] i gyfansoddi cerddi yn ymateb i nodweddion pensaernïol yr adeilad. Fe'i penodwyd yn Fardd y Mis [[BBC Radio Cymru]] ar gyfer mis Ionawr 2019.<ref>https://www.bbc.co.uk/programmes/p06x0jww</ref>

Lansiwyd ei gasgliad cyntaf o gerddi, pamffled dan y teitl ''moroedd/dŵr'', yng [[Gŵyl Arall|Ngŵyl Arall]], Caernarfon, fis Gorffennaf 2019. Cerddi am foroedd a dyfrffyrdd yw cynnwys y pamffled; ceir yn y casgliad fyfyrio ynghylch y ffin anelwig rhwng afonydd a'r môr, a'r modd y gall aberoedd fod yn gyfrwng i brofiadau dyn. Cyhoeddwyd y pamffled gan [[Cyhoeddiadau'r Stamp|Gyhoeddiadau'r Stamp]], ac mae'n cynnwys delweddau gan yr artist [[Timna Cox]] mewn ymateb i rai o'r cerddi.<ref>{{Cite web|title=Cerdd a chyhoeddiad: moroedd/dŵr - Morgan Owen|url=https://www.ystamp.cymru/single-post/2019/07/03/Cerdd-a-chyhoeddiad-moroeddd%C5%B5r---Morgan-Owen|website=Cylchgrawn y Stamp|access-date=2019-07-15|language=en}}</ref>
Lansiwyd ei gasgliad cyntaf o gerddi, pamffled dan y teitl ''moroedd/dŵr'', yng [[Gŵyl Arall|Ngŵyl Arall]], Caernarfon, fis Gorffennaf 2019. Cerddi am foroedd a dyfrffyrdd yw cynnwys y pamffled; ceir yn y casgliad fyfyrio ynghylch y ffin anelwig rhwng afonydd a'r môr, a'r modd y gall aberoedd fod yn gyfrwng i brofiadau dyn. Cyhoeddwyd y pamffled gan [[Cyhoeddiadau'r Stamp|Gyhoeddiadau'r Stamp]], ac mae'n cynnwys delweddau gan yr artist [[Timna Cox]] mewn ymateb i rai o'r cerddi.<ref>{{Cite web|title=Cerdd a chyhoeddiad: moroedd/dŵr - Morgan Owen|url=https://www.ystamp.cymru/single-post/2019/07/03/Cerdd-a-chyhoeddiad-moroeddd%C5%B5r---Morgan-Owen|website=Cylchgrawn y Stamp|access-date=2019-07-15|language=cy}}</ref>

Ym mis Awst, 2019, cyhoeddwyd taw ef oedd ennillydd [[Her Gyfieithu]] [[Cyfnewidfa Lên Cymru]]/[[PEN Cymru]] yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019.<ref>{{Cite web|title=Her Gyfieithu 2019: Cyhoeddi’r Enillydd – Wales PEN Cymru|url=http://walespencymru.org/her-gyfieithu-2019-cyhoeddir-enillydd/|access-date=2019-08-09|language=en-US|last=admin}}</ref>
Ym mis Awst, 2019, cyhoeddwyd taw ef oedd ennillydd [[Her Gyfieithu]] [[Cyfnewidfa Lên Cymru]]/[[PEN Cymru]] yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019.<ref>{{Cite web|title=Her Gyfieithu 2019: Cyhoeddi’r Enillydd – Wales PEN Cymru|url=http://walespencymru.org/her-gyfieithu-2019-cyhoeddir-enillydd/|access-date=2019-08-09|language=cy|}}</ref>

== Rhyddiaith ==
== Rhyddiaith ==

Fersiwn yn ôl 19:48, 9 Awst 2019

moroedd/dŵr (2019)

Bardd a llenor Cymreig sy'n hanu o Ferthyr Tudful yw Morgan Owen (ganed 13 Ionawr 1994).

Graddiodd gyda BA Cymraeg o Brifysgol Caerdydd yn 2016,[1] ac MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn 2017, hefyd o Brifysgol Caerdydd, gan ymchwilio i ofodoldeb cerddi Dafydd ap Gwilym mewn perthynas â locus y goedwig.[2]

Barddoniaeth

Mae'n rhan o brosiect 'Awduron wrth eu Gwaith' Gŵyl y Gelli.[3] Fis Hydref 2018, ef oedd un o bedwar bardd a gymerodd ran yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru,[4], ynghyd ag Osian Owen, Caryl Bryn, a Manon Awst; a'r un flwyddyn, ef oedd bardd preswyl Arddangosfa Bensaernïaeth Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018. Mae wedi cyhoeddi gwaith yn O'r Pedwar Gwynt,[5], Barddas, ac Y Stamp, ymysg llefydd eraill. Enillodd Dlws Coffa D Gwyn Evans yn 2017 a 2018,[6] sef tlws a roddir gan y Gymdeithas Gerdd Dafod am y gerdd orau mewn cystadleuaeth i feirdd dan 25 oed. Ym mis Ebrill 2018, dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth Gerallt gan Y Gymdeithas Gerdd Dafod i fynychu cwrs cynganeddu dwys yn y Tŷ Newydd; ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn, fe’i comisiynwyd gan y Y Senedd i gyfansoddi cerddi yn ymateb i nodweddion pensaernïol yr adeilad. Fe'i penodwyd yn Fardd y Mis BBC Radio Cymru ar gyfer mis Ionawr 2019.[7]

Lansiwyd ei gasgliad cyntaf o gerddi, pamffled dan y teitl moroedd/dŵr, yng Ngŵyl Arall, Caernarfon, fis Gorffennaf 2019. Cerddi am foroedd a dyfrffyrdd yw cynnwys y pamffled; ceir yn y casgliad fyfyrio ynghylch y ffin anelwig rhwng afonydd a'r môr, a'r modd y gall aberoedd fod yn gyfrwng i brofiadau dyn. Cyhoeddwyd y pamffled gan Gyhoeddiadau'r Stamp, ac mae'n cynnwys delweddau gan yr artist Timna Cox mewn ymateb i rai o'r cerddi.[8]

Ym mis Awst, 2019, cyhoeddwyd taw ef oedd ennillydd Her Gyfieithu Cyfnewidfa Lên Cymru/PEN Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019.[9]

Rhyddiaith

Mae'n ysgrifwr toreithiog, ac wedi cyhoeddi nifer o ysgrifau ac adolygiadau mewn cyhoeddiadau megis O'r Pedwar Gwynt ac Y Stamp.

Dramâu

Daeth yn ail agos yng nghystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd yn 2018. Cyhoeddwyd detholiad o'r ddrama honno, 'Y Gweundir', fel atodiad i rifyn Haf 2018 o gylchgrawn Y Stamp.

Cyhoeddiadau

  • Y Gweundir (detholiad o ddrama) - atodiad i gylchgrawn Y Stamp, Haf 2018
  • moroedd/dŵr (pamffled o gerddi) - Cyhoeddiadau'r Stamp - Gorffennaf 2019
  • Bedwen ar y lloer (cyfrol o gerddi) - Cyhoeddiadau'r Stamp - Hydref 2019

Cyfeiriadau

  1. https://www.cardiff.ac.uk/cy/news/view/387391-celebrating-on-graduation-day
  2. discover.library.wales; adalwyd 28 Ionawr 2019.
  3. https://www.hayfestival.com/writers-at-work/
  4. https://www.literaturewales.org/our-projects/her-100-cerdd/
  5. https://pedwargwynt.cymru/safle/tag/Morgan+Owen
  6. https://www.barddas.cymru/bardd/morgan-owen/
  7. https://www.bbc.co.uk/programmes/p06x0jww
  8. "Cerdd a chyhoeddiad: moroedd/dŵr - Morgan Owen". Cylchgrawn y Stamp. Cyrchwyd 2019-07-15.
  9. "Her Gyfieithu 2019: Cyhoeddi'r Enillydd – Wales PEN Cymru". Cyrchwyd 2019-08-09.