Llangelynnin, Conwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up, replaced: 15fed ganrif → 15g, 14eg ganrif → 14g, 12fed ganrif → 12g (2), 6ed ganrif → 6g using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Gwybodlen WD
Llinell 1: Llinell 1:
{{Gwybodlen lle | gwlad = {{banergwlad|Cymru}} | ynganiad = {{wikidata|property|P443}} }}
[[Delwedd:Eglwys Llangelynnin Conwy 29.jpg|bawd|450px|Hen eglwys Sant Celynnin, Conwy]]

[[Delwedd:Llangelynnin Conwy Chwefr 2015.tif|bawd|450px]]
[[Delwedd:Eglwys Llangelynnin Conwy 101.jpg|bawd|450px]]
:''Gofal! Mae'r erthygl hon am blwyf ac eglwys ger tref Conwy. Ceir eglwys arall ger Tywyn, Meirionnydd, o'r un enw; gweler [[Llangelynnin, Gwynedd|yma]].''
:''Gofal! Mae'r erthygl hon am blwyf ac eglwys ger tref Conwy. Ceir eglwys arall ger Tywyn, Meirionnydd, o'r un enw; gweler [[Llangelynnin, Gwynedd|yma]].''


Llinell 15: Llinell 14:


==St. Celynin==
==St. Celynin==
[[Delwedd:Eglwys Llangelynnin Conwy 29.jpg|bawd|450px|Hen eglwys Sant Celynnin, Conwy]]
[[Delwedd:Llangelynnin Conwy Chwefr 2015.tif|bawd|450px]]
[[Delwedd:Eglwys Llangelynnin Conwy 101.jpg|bawd|450px]]
Sant o'r [[6g]] oedd Celynnin, ac yn ôl y traddodiad roedd yn un o feibion y Tywysog [[Helig ap Glanawg]], a breswyliai yn [[Llys Helig]] (olion a ffurfiwyd o graig!)<ref>{{cite book|last=Bird|first=Eric|title=Encyclopedia of the World's Coastal Landforms|year=2010|publisher=Springer|isbn=978-1402086380}}</ref> ger [[Penmaenmawr]]. Mae'n bosib fod Celynnin yn perthyn i Rhun, mab [[Maelgwn Gwynedd]], Tywysog Gwynedd, a drigai yn y 6g, ac roedd ganddo frawd o'r enw Rhychwyn.
Sant o'r [[6g]] oedd Celynnin, ac yn ôl y traddodiad roedd yn un o feibion y Tywysog [[Helig ap Glanawg]], a breswyliai yn [[Llys Helig]] (olion a ffurfiwyd o graig!)<ref>{{cite book|last=Bird|first=Eric|title=Encyclopedia of the World's Coastal Landforms|year=2010|publisher=Springer|isbn=978-1402086380}}</ref> ger [[Penmaenmawr]]. Mae'n bosib fod Celynnin yn perthyn i Rhun, mab [[Maelgwn Gwynedd]], Tywysog Gwynedd, a drigai yn y 6g, ac roedd ganddo frawd o'r enw Rhychwyn.



Fersiwn yn ôl 15:58, 9 Awst 2019

Llangelynnin, Conwy
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2458°N 3.873°W Edit this on Wikidata
Map
Gofal! Mae'r erthygl hon am blwyf ac eglwys ger tref Conwy. Ceir eglwys arall ger Tywyn, Meirionnydd, o'r un enw; gweler yma.

Cyn-blwyf ym Mwrdeisdref Sirol Conwy yw Llangelynnin, hefyd weithiau Llangelynnin (53°14′45″N 3°52′23″W / 53.2458°N 3.8730°W / 53.2458; -3.8730 (Llangelynnin Church)) sydd wedi'i leoli tua tair milltir i'r de o Gonwy, ger pentref bychan Henryd. Ceir ychydig o ffermydd a thai gwasgaredig yn y cyffiniau, ond yr adeilad mwyaf nodedig yw hen eglwys Celynnin (neu 'Sant Celynin' ar yr arwyddion) a saif yng nghysgod bryn o'r enw Tal y Fan (610m), ac sydd wedi'i chofrestru fel adeilad hynod o bwysig ers 13 Hydref 1966: Gadd I ar gofrest Cadw (Rhif ID Cadw: ID: 3193).[1]

Saif yr eglwys mewn safle anghysbell, 947 troedfedd uwch lefel y môr, uwchben Dyffryn Conwy, ychydig i'r de-orllewin o bentref Henryd. Cysegrir hi i Sant Celynnin, oedd yn byw yn y 6g. Credir y gall corff yr eglwys ddyddio o'r 12g, ac mae rhannau healaeth ohoni o'r 14g. Adeiladwyd rhan ychwanegol, "Capel y Meibion", yn y 15g.

Penglog ac esgyrn ar y mur ger y pulpud.

Mae'n adeilad hynod o syml, ac yn debyg iawn i eglwys arall ym Mwrdeisdref Sirol Conwy: Eglwys Llanrhychwyn - er nad yw cyn hyned - gyda rhannau ohoni'n dyddio'n ôl i'r 12g.

Yr ardal o'i chwmpas

Defnyddid yr hen eglwys yn gyson hyd 1840, pan adeiladwyd eglwys newydd yn is i lawr, gerllaw y Groes Inn ar y ffordd B5106. Mae'r eglwys newydd wedi cau bellach, ond mae ambell i wasanaeth yn cael ei gynnal yn yr hen egllwys yn yr haf. Yn y fynwent mae ffynnon, a elwir yn Ffynnon Gelynnin a cheir gweddillion stabl gerllaw. Mae yma nifer o olion o gyfnod cynharach, Celtaidd yn yr ardal hefyd, a hen draciau yn arwain i gyfeiriad Bwlch y Ddeufaen. Ceir olion cylch o gytiau'n perthyn i'r Oes Haearn gerllaw. Ceir olion bryngaer ar gopa Cerrig-y-ddinas, sydd hefyd gerllaw. Mae'r fynwent yn un gron, sy'n golygu ei bod yma - ar ryw ffurf - cyn Crist.

St. Celynin

Hen eglwys Sant Celynnin, Conwy

Sant o'r 6g oedd Celynnin, ac yn ôl y traddodiad roedd yn un o feibion y Tywysog Helig ap Glanawg, a breswyliai yn Llys Helig (olion a ffurfiwyd o graig!)[2] ger Penmaenmawr. Mae'n bosib fod Celynnin yn perthyn i Rhun, mab Maelgwn Gwynedd, Tywysog Gwynedd, a drigai yn y 6g, ac roedd ganddo frawd o'r enw Rhychwyn.

Yr eglwys ei hun

Ychydig iawn o newidiadau a fu yn yr hen eglwys yn y ddau gan mlynedd diwethaf, sy'n golygu fod llawer o nodweddion pwysig wedi'u cadw.

Y rhan hynaf o'r eglwys yw ei chanol, sy'n dyddio'n ôl i'r 12g. Mae'n debyg i'r gangell gael ei hychwanegu yn y 14g. Mae trawstiau pren y to (15g) yn dderw tywyll a thros y blynyddoedd fe drwsiwyd rhannau o'r to gyda phren yw, sydd o bosib wedi'u tyfu yn y fynwent, gan fod olion coed yw i'w cael yno. Lluniwyd y trothwy a chromfachau'r drws yn y 14g er bod y drws ei hun ychydig yn iau.

Yn y 15g y codwyd y cyntedd, ac mae ynddo ffenestr fechan anghyffredin iawn, yn y wal dwyreiniol.

Gyferbyn a Chapel y Meibion, ceid capel arall, sef "Capel Eirianws", a enwyd ar ôl fferm gyfagos; mae'n ddigon posib mai perchennog y fferm a dalodd am ei adeiladu. Dymchwelwyd Capel Eirianws yn y 19g, ond gwelir olion ohono o'r tu allan.

Y tu allan

Y tu fewn

Y ffynnon

Mewn cornel fechan o wal y fynwent swatia ffynnon wedi'i gwarchod gan wal betrual, amddiffynnol; ffynnon a elwir yn "Ffynnon Gelynnin". Oddi fewn ceir pwll o ddŵr, sydd hefyd yn siâp petrual. Credir ei bod yn medru gwella plant sâl. Byddai'r rhieni'n gosod eitemau megis dillad y plentyn yn y dŵr ac os byddai'r dilledyn yn arnofio, yna byddai'r plentyn yn gwella, ac yn byw.

Ar un cyfnod roedd to'n gorchuddio'r ffynnon, ac fel arfer gosodid meinciau hefyd. Mae'n ddigon posib mai'r ffynnon oedd yma gynaf - cyn yr eglwys - ac mai dyma pam y sefydlwyd yr eglwys yn y lleoliad hwn.

Llyfryddiaeth

  • H. Harold Hughes & Herbert L. North The old churches of Snowdonia (Bangor, Jarvis & Foster, 1924)
  1. Gwefan www.britishlistedbuildings.co.uk; Data gan Cadw; adalwyd 12 Gorffennaf 2015
  2. Bird, Eric (2010). Encyclopedia of the World's Coastal Landforms. Springer. ISBN 978-1402086380.