Alfonso Reyes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
B cat 20g
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 35: Llinell 35:
[[Categori:Diplomyddion Mecsicanaidd]]
[[Categori:Diplomyddion Mecsicanaidd]]
[[Categori:Genedigaethau 1889]]
[[Categori:Genedigaethau 1889]]
[[Categori:Llenorion Mecsicanaidd yr 20fed ganrif]]
[[Categori:Llenorion straeon byrion Mecsicanaidd yn yr iaith Sbaeneg]]
[[Categori:Llenorion straeon byrion Mecsicanaidd yn yr iaith Sbaeneg]]
[[Categori:Marwolaethau 1959]]
[[Categori:Marwolaethau 1959]]

Fersiwn yn ôl 01:43, 3 Awst 2019

Alfonso Reyes
Ganwyd17 Mai 1889 Edit this on Wikidata
Monterrey Edit this on Wikidata
Bu farw27 Rhagfyr 1959 Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMecsico Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Universidad Nacional Autónoma de México Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, diplomydd, cyfreithegwr, athronydd, cyfieithydd, bardd-gyfreithiwr, cyfreithiwr, ysgrifennwr, dyneiddiwr Edit this on Wikidata
Swyddllysgennad Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Mecsico Edit this on Wikidata
TadBernardo Reyes Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Genedlaethol y Celfyddydau a Gwyddorau, Honorary Doctorate from the National Autonomous University of Mexico Edit this on Wikidata

Bardd, ysgrifwr, awdur straeon byrion, a beirniad llenyddol Sbaeneg o Fecsico oedd Alfonso Reyes (17 Mai 188927 Rhagfyr 1959) a fu hefyd yn ddiplomydd ac addysgwr. Ystyrir yn un o awduron ac ysgolheigion llenyddol goreuaf Mecsico yn yr 20g, ac yn ffigur pwysig yn llên America Ladin yn gyffredinol. Meddai Jorge Luis Borges amdano, "Reyes heddiw ydy'r prif hombre de letras yn ein America. Ni ddywedaf y prif ysgrifwr, y prif storïwr, na'r prif fardd; dywedaf y prif hombre de letras, hynny yw y prif lenor a'r prif ddarllenwr [...] gyfaill i Montaigne, i Goethe, i Stevenson, ac i Homeros, ni ellir cymharu dim â natur agored ei ysbryd".[1]

Bywyd cynnar ac addysg (1889–1913)

Ganwyd Alfonso Reyes ar 17 Mai 1889 ym Monterrey, Nuevo León, yng ngogledd-ddwyrain Mecsico. Cyhoeddodd ei gerddi cyntaf yn y papur newydd lleol.[2]

Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Genedlaethol Ymreolus Mecsico (UNAM) yn Ninas Mecsico, a derbyniodd ei radd yn 1913.[3] Yn ystod ei gyfnod yn fyfyriwr yn y brifddinas, ymaelododd Reyes â chymdeithas ddeallusol yr Ateneo de la Juventud, a chyfranodd at y cyfnogolion Revista moderna a Savia moderna. Ymunodd â'r ymdrechion i ddiwygio cyfundrefn addysg uwch Mecsico, a chafodd ran wrth drawsnewid cyfundrefn ysgolion yr Escuela Nacional Preparatoria a sefydlu'r Escuela de Altos Estudios yn 1910 a'r Universidad Popular yn 1912.[2]

Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, y casgliad o ysgrifau Cuestiones estéticas (1911), ym Mharis. Er yr oedd Reyes dal yn fyfyriwr pan ysgrifennodd y llyfr hwnnw, denodd sylw am ei ysgolheictod gwreiddiol ac am geinder ei arddull. Ymhlith y pynciau llenyddol mae'n eu trafod mae'r cymeriad Electra yn theatr Groeg yr Henfyd, llên Sbaen yn yr Oesoedd Canol a'r Siglo de Oro gan gynnwys astudiaeth o'r bardd Luis de Góngora, dadansoddiad o waith y bardd Ffrangeg Stéphane Mallarmé, ac ymdriniaeth â'r tir ym marddoniaeth Fecsicanaidd y 19g.[2]

Gyrfa ddiplomyddol (1913–39)

Cychwynnodd Reyes ar yrfa yn y gwasanaeth diplomyddol yn Ffrainc yn 1913. Cafodd seibiant i astudio ac addysgu yn y Centro de Estudios Históricos ym Madrid o 1914 i 1919. Gwasanaethodd yn llysgenhadaeth Mecsico yn Sbaen o 1920 i 1927. Penodwyd yn llysgennad i'r Ariannin yn 1927 a 1936–37, ac i Frasil yn 1930–36 a 1938–39. Bu'n aml yn cynrychioli Mecsico mewn cynadleddau diwylliannol rhyngwladol.[3]

Yn ystod y cyfnod hwn, cyhoeddodd Reyes nifer o weithiau ysgolheigaidd a chreadigol mewn sawl cyfrwng, gan gynnwys y traethawd ar ffurf cerdd brôs Visión de Anáhuac (1917), y casgliad o ymgomion a brasluniau llenyddol El plano oblicuo (1920) , y gyfrol o gerddi Huellas (1922), a'r ysgrifau Reloj de sol (1926). Ysgrifennodd ragor am lenyddiaeth Roeg glasurol a cheinion llên Sbaen, a chyfieithodd hefyd nifer o weithiau o'r Saesneg a'r Ffrangeg i'r Sbaeneg.

Dychwelyd i Fecsico (1939–59)

Ymddeolodd Reyes o'r gwasanaeth diplomyddol yn 1939 a dychwelodd i'w famwlad i fyw am weddill ei oes. Cyhoeddodd sawl cyfrol o feirniadaeth a damcaniaeth lenyddol: La crítica de la edad ateniense (1941), La antigua retórica (1942), La experienca literaria (1942), ac El deslinde: prolegómenos a la teoría literaria (1944). Yn y cyfnod hwn aeth i'r afael â'i orchest o gyfieithu ac addasu penillion yr Iliad. Llenor hynod o gynhyrchiol oedd Reyes, ac mae ei holl ysgrifeniadau, barddoniaeth, rhyddiaith, ac ysgolheictod, yn llenwi 26 o gyfrolau.[2]

Bu farw yn Ninas Mecsico ar 27 Rhagfyr 1959 yn 70 oed.[3]

Cyfeiriadau

  1. Jorge Luis Borges, "El primer hombre de letras de nuestra América" yn Borges ante el espejo, golygwyd gan Jorge Mejía Prieto a Justo R. Molachino (Dinas Mecsico: Editorial Lectorum, 1995), tt. 35–36.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Rafael Olea Franco, "Reyes, Alfonso" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), tt. 487–88.
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Alfonso Reyes. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Awst 2019.

Darllen pellach

  • Robert T. Conn, The Politics of Philology: Alfonso Reyes and the Invention of the Latin American Literary Tradition (Lewisburg, Pennsylvania: Bucknell University Press, 2002).
  • E. Mejía Sánchez, La vida en la obra de Alfonso Reyes (Dinas Mecsico: Secretaría de Educación Pública, 1966).
  • J. W. Robb (gol.), Por los caminos de Alfonso Reyes (Dinas Mecsico: INBA, 1981).
  • J. W. Robb, "Alfonso Reyes" yn Latin American Writers cyfrol 2, golygwyd gan C. A. Solé ac M. I. Abreu (Efrog Newydd: Scribners, 1989), tt. 693–703.