Daeargoel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 4: Llinell 4:
Defnyddiwyd y ffurf Ewropeaidd boblogaidd o ddaeargoel gan [[Dyn Hysbys|ddynion hysbys]] yng [[Cymru|Nghymru]]<ref>Griffiths, Kate Bosse; ''Byd y Dyn Hysbys'', Pennod III, Y Lolfa 1977.</ref>
Defnyddiwyd y ffurf Ewropeaidd boblogaidd o ddaeargoel gan [[Dyn Hysbys|ddynion hysbys]] yng [[Cymru|Nghymru]]<ref>Griffiths, Kate Bosse; ''Byd y Dyn Hysbys'', Pennod III, Y Lolfa 1977.</ref>


==Defnyddio Daeargoel==
==Defnyddio daeargoel==
Yn ei llyfr ''[[Byd y Dyn Hysbys]]: Swyngyfaredd yng Nghymru'' disgrifia'r awdures [[Kate Bosse-Griffiths]] sut yr ymarferai dynion hysbys ddaeargoel<ref>Griffiths, Kate Bosse; ''Byd y Dyn Hysbys'', Pennod III, td 46-50, Y Lolfa 1977.</ref>. Er mwyn creu'r awyrgylch priodol byddai'r Dyn Hysbys yn dechrau gyda ''"Gweddi Daeargoel"'' yn ymbil ar D[[duw]] wrth wneud ''"y ffigur hwn o ddaeargoel"'' er mwyn cael ateb a fyddai'n wir a pherffaith, a hynny ''"yn enw [[Iesu Grist]], ein Harglwydd a'n Gwaredwr"''. Wedyn gofynnir i'r holwr wneud yn gyflym bedair llinell o ddotiau heb ystyried y rhif. Wrth feirniadu'r dotiau, yr unig beth o bwys yw, a yw'r rhif yn [[rhif gwastad|wastad]] neu beidio. Er mwyn cyfansoddi'r ffigur daeargoelus, gosodir un pwynt i lawr ar gyfer pob llinell "anwastad" a dau bwynt ar gyfer pob llinell wastad.
Yn ei llyfr ''[[Byd y Dyn Hysbys]]: Swyngyfaredd yng Nghymru'' disgrifia'r awdures [[Kate Bosse-Griffiths]] sut yr ymarferai dynion hysbys ddaeargoel.<ref>Griffiths, Kate Bosse; ''Byd y Dyn Hysbys'', Pennod III, td 46-50, Y Lolfa 1977</ref> Er mwyn creu'r awyrgylch priodol byddai'r Dyn Hysbys yn dechrau gyda ''"Gweddi Daeargoel"'' yn ymbil ar [[Duw|Dduw]] wrth wneud ''"y ffigur hwn o ddaeargoel"'' er mwyn cael ateb a fyddai'n wir a pherffaith, a hynny ''"yn enw [[Iesu Grist]], ein Harglwydd a'n Gwaredwr"''. Wedyn gofynnir i'r holwr wneud yn gyflym bedair llinell o ddotiau heb ystyried y rhif. Wrth feirniadu'r dotiau, yr unig beth o bwys yw, a yw'r rhif yn [[rhif gwastad|wastad]] neu beidio. Er mwyn cyfansoddi'r ffigur daeargoelus, gosodir un pwynt i lawr ar gyfer pob llinell "anwastad" a dau bwynt ar gyfer pob llinell wastad.


Wrth ddefnyddio ffigurau o bedair llinell y mae'n bosibl cael 16 o amrywiadau, ac felly yr un nifer o ffigurau daeargoelus gwahanol. Rhoddir enw [[Lladin]] i bob un o'r ffigurau ac fe'u cysylltir, bob yn ddau, â'r planedau [[astroleg]]ol sy'n rheoli'r wythnos, sef yr [[Haul]], y [[Lleuad]], [[Mawrth]], [[Mercher]], [[Iau]], [[Gwener]] a [[Sadwrn]], ac eithrio'r ddau ffigur olaf, a gysylltir ag "Y D[[draig]]".
Wrth ddefnyddio ffigurau o bedair llinell y mae'n bosibl cael 16 o amrywiadau, ac felly'r un nifer o ffigurau daeargoelus gwahanol. Rhoddir enw [[Lladin]] i bob un o'r ffigurau ac fe'u cysylltir, bob yn ddau, â'r planedau [[Sêr-ddewiniaeth|sêr-ddewiniol]] sy'n rheoli'r wythnos, sef yr [[Haul]], y [[Lleuad]], [[Mawrth]], [[Mercher]], [[Iau]], [[Gwener]] a [[Sadwrn]], ac eithrio'r ddau ffigur olaf, a gysylltir ag "Y [[Draig|Ddraig]]".


Cyfeirir at yr holwr fel "breuddwydiwr" ac at yr atebion fel "breuddwydion".
Cyfeirir at yr holwr fel "breuddwydiwr" ac at yr atebion fel "breuddwydion".
===Y Ffigurau Daeargoelus===
===Y ffigurau daeargoelus===
<gallery>
<gallery>
Image:Acquisitio.png|Acquisitio
Image:Acquisitio.png|Acquisitio
Llinell 68: Llinell 68:
|-
|-
| Draconis
| Draconis
| Y D[[draig]]
| Y [[Draig|Ddraig]]
| Caput Draconis; Cauda Draconis
| Caput Draconis; Cauda Draconis
|}
|}
Llinell 77: Llinell 77:


* Fortuna Major: Lwcus iawn mewn aur ac arian, a gorau gyda nwydau; hwyrach anrheg annisgwyl gan gyfaill.
* Fortuna Major: Lwcus iawn mewn aur ac arian, a gorau gyda nwydau; hwyrach anrheg annisgwyl gan gyfaill.
* Fortuna Minor: Arian, cyfeillion a ffwad ddifyr.
* Fortuna Minor: Arian, cyfeillion a ffawd ddifyr.
* Via: Mae hyn yn rhagddweud anffawd sy'n anodd ei hosgoi; golyga hefyd elynion personol.
* Via: Mae hyn yn rhagddweud anffawd sy'n anodd ei hosgoi; golyga hefyd elynion personol.
* Populus: Mae'r freuddwyd yn adrodd am newyddion yn bennaf. Fe ddaw'r absennol yn ôl; mynega'r arwydd ffawd gymharol o lwcus a da; hefyd, yn aml, deithio yn ymyl dŵr.
* Populus: Mae'r freuddwyd yn adrodd am newyddion yn bennaf. Fe ddaw'r absennol yn ôl; mynega'r arwydd ffawd gymharol o lwcus a da; hefyd, yn aml, deithio yn ymyl dŵr.
Llinell 90: Llinell 90:
* Cancer (neu Carcer): Rhaid cymryd gofal rhag i'r gelyn brifo'r breuddwydiwr; hwyrach rhywbeth mewn cysylltiad â charchar. Mae arwydd hwn hefyd yn siarad am ofidiau trist.
* Cancer (neu Carcer): Rhaid cymryd gofal rhag i'r gelyn brifo'r breuddwydiwr; hwyrach rhywbeth mewn cysylltiad â charchar. Mae arwydd hwn hefyd yn siarad am ofidiau trist.
*Tristitia: Mae hyn yn golygu anffawd a thristwch ac, o bosib, bydd cyfeillion yn marw.
*Tristitia: Mae hyn yn golygu anffawd a thristwch ac, o bosib, bydd cyfeillion yn marw.
* Caput Draconis: Ffawd llwyddiannus a lwcus gyda rhyw fath o fantais i'w disgwyl. Bydd taith yn dilyn.
* Caput Draconis: Ffawd lwyddiannus a lwcus gyda rhyw fath o fantais i'w disgwyl. Bydd taith yn dilyn.
* Cauda Draconis: Os oes unrhyw arwyddocâd yn hwn, mae'n golygu rhywbeth drwg.
* Cauda Draconis: Os oes unrhyw arwyddocâd yn hwn, mae'n golygu rhywbeth drwg.



Fersiwn yn ôl 18:16, 6 Hydref 2010

Y 16 ffigur daeargoelus.

Daeargoel (hefyd daearddewiniaeth) yw enw dull o ddarogan lle caiff olion ar y ddaear neu batrymau a ffurfiwyd ar ôl taflu dyrneidiau o bridd, cerrig, neu dywod eu dehongli. Yn bennaf mae'r term yn cyfeirio at ddull penodol o ddarogan â'i gwreiddiau yn Arabia a Phersia a ddaeth yn boblogaidd ar draws Ewrop yn ystod y Canol Oesoedd a'r Diwygiad, ond ceir dulliau eraill a ellir disgrifio fel daeargoel, megis Llyfr y Newidiadau o Tsieina, coelbrennau, y defnydd Neo-baganaidd o'r Ogam o Iwerddon, y rwnau o'r Llychlyn, ac ymarferiadau eraill o Asia (megis y Kumalak o Kazakstan) ac Affrica (megis y penillion Odu o Nigeria).

Defnyddiwyd y ffurf Ewropeaidd boblogaidd o ddaeargoel gan ddynion hysbys yng Nghymru[1]

Defnyddio daeargoel

Yn ei llyfr Byd y Dyn Hysbys: Swyngyfaredd yng Nghymru disgrifia'r awdures Kate Bosse-Griffiths sut yr ymarferai dynion hysbys ddaeargoel.[2] Er mwyn creu'r awyrgylch priodol byddai'r Dyn Hysbys yn dechrau gyda "Gweddi Daeargoel" yn ymbil ar Dduw wrth wneud "y ffigur hwn o ddaeargoel" er mwyn cael ateb a fyddai'n wir a pherffaith, a hynny "yn enw Iesu Grist, ein Harglwydd a'n Gwaredwr". Wedyn gofynnir i'r holwr wneud yn gyflym bedair llinell o ddotiau heb ystyried y rhif. Wrth feirniadu'r dotiau, yr unig beth o bwys yw, a yw'r rhif yn wastad neu beidio. Er mwyn cyfansoddi'r ffigur daeargoelus, gosodir un pwynt i lawr ar gyfer pob llinell "anwastad" a dau bwynt ar gyfer pob llinell wastad.

Wrth ddefnyddio ffigurau o bedair llinell y mae'n bosibl cael 16 o amrywiadau, ac felly'r un nifer o ffigurau daeargoelus gwahanol. Rhoddir enw Lladin i bob un o'r ffigurau ac fe'u cysylltir, bob yn ddau, â'r planedau sêr-ddewiniol sy'n rheoli'r wythnos, sef yr Haul, y Lleuad, Mawrth, Mercher, Iau, Gwener a Sadwrn, ac eithrio'r ddau ffigur olaf, a gysylltir ag "Y Ddraig".

Cyfeirir at yr holwr fel "breuddwydiwr" ac at yr atebion fel "breuddwydion".

Y ffigurau daeargoelus

Noddwyr y ffigurau

Noddwr Cymraeg Ffigurau
Solis Yr Haul Fortuna Major; Fortuna Minor
Lunae Y Lleuad Via; Populus
Iovis Iau Acquisitio; Laetitia
Veneris Gwener Puella; Amissa
Mercurius Mercher Conjunctio; Albus
Martis Mawrth Puer; Rubens
Saturni Sadwrn Cancer; Tristitia
Draconis Y Ddraig Caput Draconis; Cauda Draconis

Y Breuddwydion

Y breuddwydion, sef arwyddocâd y ffigurau.

  • Fortuna Major: Lwcus iawn mewn aur ac arian, a gorau gyda nwydau; hwyrach anrheg annisgwyl gan gyfaill.
  • Fortuna Minor: Arian, cyfeillion a ffawd ddifyr.
  • Via: Mae hyn yn rhagddweud anffawd sy'n anodd ei hosgoi; golyga hefyd elynion personol.
  • Populus: Mae'r freuddwyd yn adrodd am newyddion yn bennaf. Fe ddaw'r absennol yn ôl; mynega'r arwydd ffawd gymharol o lwcus a da; hefyd, yn aml, deithio yn ymyl dŵr.
  • Acquisitio: Mae hyn yn dangos gwahoddiadau, rhoddion a newid y sefyllfa bresennol er mantais.
  • Laetitia: Mae'r freuddwyd hon yn hapus ac un bleserus.
  • Puella: Priodi os yn sengl, a phlant os yn briod. Llwyddiant yn y rhan fwyaf o'r pethau.
  • Amissa (neu Amissio): Rhaid gwylio rhag rhyw berson twyllodrus yn agos i'r holwr; hwyrach rhyw golled.
  • Conjunctio: Mae hyn yn golygu delio â phapurau, siartiau, llyfrau a phethau ysgrifenedig ar gyfer pwrpasau amrywiol.
  • Albus: Arwydd da. Fe gaiff y breuddwydiwr ei ewyllys ond yn aml iawn y mae yn claddu cyfaill.
  • Puer: Geiriau cas a gwyllt. Ffrae a thrafferth ym mywyd y breuddwydiwr a'i dynged.
  • Rubens (neu Rubeus): Arwydd o ddicter, terfysg, teimladau drwg a chynghorwyr twyllodrus. Mae gelynion yn agos.
  • Cancer (neu Carcer): Rhaid cymryd gofal rhag i'r gelyn brifo'r breuddwydiwr; hwyrach rhywbeth mewn cysylltiad â charchar. Mae arwydd hwn hefyd yn siarad am ofidiau trist.
  • Tristitia: Mae hyn yn golygu anffawd a thristwch ac, o bosib, bydd cyfeillion yn marw.
  • Caput Draconis: Ffawd lwyddiannus a lwcus gyda rhyw fath o fantais i'w disgwyl. Bydd taith yn dilyn.
  • Cauda Draconis: Os oes unrhyw arwyddocâd yn hwn, mae'n golygu rhywbeth drwg.

Cyfeiriadau

  1. Griffiths, Kate Bosse; Byd y Dyn Hysbys, Pennod III, Y Lolfa 1977.
  2. Griffiths, Kate Bosse; Byd y Dyn Hysbys, Pennod III, td 46-50, Y Lolfa 1977