Durotriges: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: ru:Дуротриги |
B robot yn ychwanegu: sh:Durotrižani |
||
Llinell 21: | Llinell 21: | ||
[[it:Durotrigi]] |
[[it:Durotrigi]] |
||
[[ru:Дуротриги]] |
[[ru:Дуротриги]] |
||
[[sh:Durotrižani]] |
Fersiwn yn ôl 10:16, 5 Hydref 2010
Llwyth Celtaidd yn byw yn ne-orllewin Lloegr oedd y Durotriges. Roedd eu tiriogaethau yn yr hyn sy'n awr yn swydd Dorset, de Wiltshire a de Gwlad yr Haf. Eu prif ddinasoedd oedd Durnovaria (Dorchester heddiw) a Lindinis (Ilchester heddiw).
Ymddengys eu bod yn cynghrair o lwythau llai yn hytrach na llwyth unedig. Roeddynt yn bathu arian, ond nid oedd ysgrifen ar y darnau arian, felly nid oes modd darganfod enwau rheolwyr. Eu safle enwocaf yw bryngaer Maiden Castle.
Ymladdasant yn erbyn y Rhufeiniaid yn 43 OC, a bu'r lleng Legio II Augusta, dan eu legad Vespasian a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarch, yn ymgyrchu yn eu tiriogaeth.