Wicipedia:Pum Colofn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
Almabot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 38: Llinell 38:
[[bn:উইকিপিডিয়া:পঞ্চস্তম্ভ]]
[[bn:উইকিপিডিয়া:পঞ্চস্তম্ভ]]
[[br:Wikipedia:Pemp pennreolenn ar Wikipedia]]
[[br:Wikipedia:Pemp pennreolenn ar Wikipedia]]
[[bs:Wikipedia:Pet stubova Wikipedije]]
[[ca:Viquipèdia:Els cinc pilars]]
[[ca:Viquipèdia:Els cinc pilars]]
[[ckb:ویکیپیدیا:پێنج کۆڵەکە]]
[[ckb:ویکیپیدیا:پێنج کۆڵەکە]]

Fersiwn yn ôl 20:06, 3 Hydref 2010

Crynhowyd egwyddorion sylfaenol Wicipedia gan olygwyr ar ffurf Pum "Colofn":

Blue pillar (1: Encyclopedia) Gwyddoniadur ydy Wicipedia sy'n cynnwys elfennau cyffredinol ac arbenigol gwyddoniaduron, almanac a phapurau newydd. Dylid fod yn gallu gwirio'r cynnwys gan ddefnyddio ffynonellau o ffynonellau dibynadwy. Nid oes lle i brofiadau, dehongliadau neu safbwyntiau personol ein golygwyr ynddo. Nid blwch sebon, man i hysbysebu neu le ar gyfer hunan-gyhoeddusrwydd mohono. Nid arbrawf anarchaidd neu ddemocratiaeth, neu gasgliad digyswllt o wybodaeth nac ychwaith cyfeiriadur ar y we mohono. Nid yw'n eiriadur, bapur newydd, neu'n gasgliad o ddogfennau cynradd; dylid cyfrannu cynnwys o'r math hynny i'n chwaer brosiectau.
 
Green pillar (2: NPOV) Mae gan Wicipedia safbwynt diduedd, sy'n golygu ein bod yn anelu am erthyglau na sydd yn hyrwyddo unrhyw safbwynt unigol. Weithiau golyga hyn ein bod yn cynnwys sawl safbwynt gwahanol, gan gyflwyno bob un o'r safbwyntiau hynny'n gywir, gan ddarparu cyd-destun ar gyfer unrhyw safbwynt penodol, a heb gyflwyno unrhyw safbwynt fel "y gwirionedd" neu'r "safbwynt rhagorol". Golyga hyn ddyfynnu o ffynonellau dibynadwy a gwiriadwy ym mha le bynnag posib, yn enwedig ar bynciau dadleuol. Pan gwyd anghydfod ynglŷn â niwtraliaeth, dylid trafod y mater ar y dudalen sgwrs, gan ddilyn datrys anghydfodau.
 
Yellow pillar (3: Yn rhad ac am ddim) Mae yn brosiect cynnwys rhydd y gall unrhyw un ei olygu a'i ddosbarthu. Parchwch gyfreithiau hawlfraint. Am fod eich holl gyfraniadau ar drwydded rad ac am ddim i'r cyhoedd, nid yw'r un erthygl yn eiddo i olygydd; gall a bydd pob erthygl gael eu golygu a'u hail-ddosbarthu'n ddidrugaredd.
 
Orange pillar (4: Cod ymddygiad a chwrteisi) Dylai Wicipedwyr ryngweithio mewn modd cwrtais a chan ddangos parch: Parchwch a byddwch gwrtais i'ch cyd-Wicipedwyr, hyd yn oed os ydych yn anghytuno. Gweithredwch ar bolisi moesgarwch Wicipedia, ac osgowch ymosodiadau neu sylwadau personol. Dewch i gonsensws, osgowch frwydrau golygyddol (ac yn benodol, osgowch dorri'r rheol gwrthdroi dair-gwaith), a chofiwch fod nifer o erthyglau ar y Wicipedia Cymraeg i weithio arnynt a'u trafod. Gweithiwch gydag ewyllys da, peidiwch â tharfu ar Wicipedia er mwyn profi pwynt, a chymrwch ewyllys da yn ganiataol ar ran eraill. Byddwch agored a chroesawgar.
 
Red pillar (5: Anwybyddwch bob rheol) Nid oes gan Wicipedia reolau cadarn ar wahân i'r pum egwyddor gyffredinol hyn. Byddwch ddewr wrth ddiweddaru erthyglau a pheidiwch â phoeni am wneud camgymeriadau. Nid oes rhaid i'ch ymdrechion fod yn berffaith; mae fersiynau blaenorol yn cael eu cadw'n awtomatig, ac felly ni ellwch wneud unrhyw ddifrod na ellir ei wrthdroi.