Helyntion Beca: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Dadwneud y golygiad 2581275 gan 195.194.57.211 (Sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:RebeccaRiots.gif|300px|bawd|Digriflun o'r ''London Illustrated News'' yn dangos Merched Beca yn ymosod ar dollborth]]
[[Delwedd:RebeccaRiots.gif|300px|bawd|Digriflun o'r ''London Illustrated News'' yn dangos Merched Beca yn ymosod ar dollborth]]
[[Delwedd:Cri'r Dylluan (llyfr).jpg|bawd|Nofel gan [[T. Llew Jones]]: [[Cri'r Dylluan]] (2005) am helyntion Beca]]
[[Delwedd:Cri'r Dylluan (llyfr).jpg|bawd|Nofel gan [[T. Llew Jones]]: ''[[Cri'r Dylluan]]'' (2005) am helyntion Beca]]
[[Delwedd:Rebecca Riots - Punch1843.jpeg|bawd|Disgriflun a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn ''Punch'' yn 1843.]]
[[Delwedd:Rebecca Riots - Punch1843.jpeg|bawd|Disgriflun a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn ''Punch'' yn 1843]]
[[Delwedd:Llythyr Beca National Archives ar OGL.jpg|bawd|Llythyr gan Beca at y Cwnstabliaid (heddweision) a cheidwaid y tollbyrth, Sir Gaerfyrddin ym 1842]]
[[Delwedd:Llythyr Beca National Archives ar OGL.jpg|bawd|Llythyr gan Beca at y Cwnstabliaid (heddweision) a cheidwaid y tollbyrth, Sir Gaerfyrddin ym 1842]]
[[Delwedd:Y Cenhadwr Americanaidd 02.PNG|bawd|Adroddiad yn ''Y Cenhadwr Americanaidd (gol [[Robert Everett]] yn sôn Rebecayddion ger [[Delaware]], [[Ohio]] yn 1843.]]
[[Delwedd:Y Cenhadwr Americanaidd 02.PNG|bawd|Adroddiad yn ''Y Cenhadwr Americanaidd'' (gol. [[Robert Everett]] yn sôn Rebecayddion ger [[Delaware]], [[Ohio]] yn 1843.]]
[[Gwrthryfel]] gwerinol yn erbyn y tollau drud a godwyd am deithio ar hyd y [[Ffordd dyrpeg|ffyrdd tyrpeg]] oedd '''Helyntion Beca''' (hefyd '''Becca'''), a barodd o [[1839]] hyd [[1844]].
[[Gwrthryfel]] gwerinol yn erbyn y tollau drud a godwyd am deithio ar hyd y [[Ffordd dyrpeg|ffyrdd tyrpeg]] oedd '''Helyntion Beca''' (hefyd '''Becca'''), a barodd o [[1839]] hyd [[1844]].

Trawodd Beca gyntaf yn [[Efail-wen]] ar yr [[13 Mai]] [[1839]], gan falu'r dollborth yno. Fe wnaethpwyd yr un peth eto ar y [[6 Mehefin]] yn yr un flwyddyn ac eto ar yr [[17 Gorffennaf]]. Llosgwyd y tolldy y tro hwn. Ni ddarganfuwyd pwy oedd y troeseddwyr, gan fod y rhai a gymerodd ran yn y weithred wedi duo eu gwynebau a gwisgo dillad menywod. Gwelwyd dryllio dros gant o dollbyrth rhwng Ionawr [[1843]] a gwanwyn [[1844]] ledled [[Gorllewin Cymru|de-orllewin Cymru]]. Roedd yr helynt ar ei waethaf yn [[Sir Gaerfyrddin]]. Ar 6 Gorffennaf 1843, ymosododd oddeutu 200 o bobl ar Dollborth Bolgoed, [[Pontarddulais]]. Yr arweinydd oedd crydd lleol o'r enw Daniel Lewis. Fe'i bradychwyd, yn ôl yr hanes, ond osgôdd gael ei ddanfon i Awstralia gan nad oedd tystion ar gael. Ceir cofeb i'r digwyddiad yn y lleoliad hwn - ger Tafarn y Ffynnon heddiw.<ref>[http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/south_west/3846265.stm Gwefan Saesneg y BBC;] adalwyd 6 Gorffennaf 2015</ref>
Trawodd Beca gyntaf yn [[Efail-wen]] ar yr [[13 Mai]] [[1839]], gan falu'r dollborth yno. Fe wnaethpwyd yr un peth eto ar y [[6 Mehefin]] yn yr un flwyddyn ac eto ar yr [[17 Gorffennaf]]. Llosgwyd y tolldy y tro hwn. Ni ddarganfuwyd pwy oedd y troeseddwyr, gan fod y rhai a gymerodd ran yn y weithred wedi duo eu gwynebau a gwisgo dillad menywod. Gwelwyd dryllio dros gant o dollbyrth rhwng Ionawr [[1843]] a gwanwyn [[1844]] ledled [[Gorllewin Cymru|de-orllewin Cymru]]. Roedd yr helynt ar ei waethaf yn [[Sir Gaerfyrddin]]. Ar 6 Gorffennaf 1843, ymosododd oddeutu 200 o bobl ar Dollborth Bolgoed, [[Pontarddulais]]. Yr arweinydd oedd crydd lleol o'r enw Daniel Lewis. Fe'i bradychwyd, yn ôl yr hanes, ond osgôdd gael ei ddanfon i Awstralia gan nad oedd tystion ar gael. Ceir cofeb i'r digwyddiad yn y lleoliad hwn - ger Tafarn y Ffynnon heddiw.<ref>{{eicon en}} [http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/south_west/3846265.stm "Town remembers Rebecca rioters"]; BBC News; adalwyd 6 Gorffennaf 2015</ref>

'Merched Rebecca' neu 'Ferched Beca' oedd yr enw arnyn nhw ar lafar. Dywed rhai iddynt gael eu henwi ar ôl benyw o'r enw Rebecca, neu Beca Fawr, a oedd wedi benthyg ei dillad iddyn nhw. Y farn gyffredinol, fodd bynnag, yw fod yr enw Rebecca yn gyfeiriad at adnod yn [[Llyfr Genesis]], Pennod 24, adnod 60, lle sonir am fam a brawd [[Rebecca (Beibl)|Rebecca]] yn gadael iddi fynd gydag [[Eliezer]], gwas [[Abraham]], i briodi [[Isaac]]:

:''Ac a fendithiasant Rebbecah, ac a ddywedasant wrthi, "Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion."''
:''Ac a fendithiasant Rebbecah, ac a ddywedasant wrthi, "Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion."''

Yn aml, roedd ganddi "ddwy chwaer" o'i phopty yn cyd-arwain ac a elwid yn Siarlot a Neli.<ref>'Helynt y Beca' gan V. Eirwen Davies, tud 42; Gwasg Prifysgol Cymru; 1961.</ref>
Yn aml, roedd ganddi "ddwy chwaer" o'i phopty yn cyd-arwain ac a elwid yn Siarlot a Neli.<ref>Vera Eirwen Davies, ''Helynt y 'Beca'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1961), tud. 42</ref>

==Ymosodiadau ar dollbyrth==
==Ymosodiadau ar dollbyrth==
Llinell 28: Llinell 28:
Un o achosion amlwg yr helynt oedd y tollbyrth eu hun, a weinyddwyd gan y Cwmnïau Tyrpeg newydd. Roedd rhaid talu tollau i deithio ar hyd y prif-ffyrdd hyn. Roedd ddeuddeg Cwmni yn sir Gaerfyrddin, pedwar yn [[Sir Benfro]], dau yn [[Sir Aberteifi]], dau yn [[Sir Faesyfed]], un yn [[Sir Frycheiniog]] a deuddeg ym [[Morgannwg]]. Roedd nifer uchel y Cwmnïau Tyrpeg yn yr ardal yn golygu bod rhaid i deithwyr talu tollau sawl gwaith (am bob cwmni) i'w gymharu â Lloegr lle nad oedd y fath gor-gystadlu. Roedd rhaid i'r ffermwyr talu tollau wrth yrru'u [[gwartheg]] a theithio yn ôl ac ymlaen i'r marchnad, ac wrth ôl calch fel gwrtaith am y pridd.

Nid yr unig rheswm dros yr helyntion oedd y tollbyrth. Roedd tuedd gan werin De-Orllewin Cymru i weinyddu cyfraith eu hun trwy'r traddodiad o'r [[Ceffyl Pren]]. Dyma arfer o siomi yn gyhoeddus aelod o'r gymuned sydd wedi achosi cerydd i'w gymdogion neu gydweithio a'r awdurdodau. Byddai dorf gyda'i wynebau'n ddu (fel wnaeth Merched Beca) yn cario ffigur ceffyl at ddrws y person, neu ffigur yn ei ddynwared (a weithiau llosgwyd), neu hyd yn oed y berson ei hun, gan ei fychanu. Yn ôl yr hanesydd David Williams, "ymestyniad o arfer y Ceffyl Pren" oedd terfysgoedd Beca <ref>'The Rebecca Riots' gan D Williams, tud 56; Gwasg Prifysgol Cymru 1955.</ref>.
Nid yr unig rheswm dros yr helyntion oedd y tollbyrth. Roedd tuedd gan werin De-Orllewin Cymru i weinyddu cyfraith eu hun trwy'r traddodiad o'r [[Ceffyl Pren]]. Dyma arfer o siomi yn gyhoeddus aelod o'r gymuned sydd wedi achosi cerydd i'w gymdogion neu gydweithio a'r awdurdodau. Byddai dorf gyda'i wynebau'n ddu (fel wnaeth Merched Beca) yn cario ffigur ceffyl at ddrws y person, neu ffigur yn ei ddynwared (a weithiau llosgwyd), neu hyd yn oed y berson ei hun, gan ei fychanu. Yn ôl yr hanesydd David Williams, "ymestyniad o arfer y Ceffyl Pren" oedd terfysgoedd Beca.<ref>David Williams, ''The Rebecca Riots'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1955), tud. 56</ref>

Roedd rhesymau eraill am yr helyntion yn cynnwys:
Roedd rhesymau eraill am yr helyntion yn cynnwys:
Llinell 34: Llinell 34:
* Twf y boblogaeth yn rhoi pwysau ar y bobl wrth i ffermydd fynd yn llai (problem a waethygwyd gan system etifeddiaeth Cymru sydd yn rhannu tir rhwng pob perthynas gwrywaidd).
* Twf y boblogaeth yn rhoi pwysau ar y bobl wrth i ffermydd fynd yn llai (problem a waethygwyd gan system etifeddiaeth Cymru sydd yn rhannu tir rhwng pob perthynas gwrywaidd).
* Y dirwasgiad amaethyddol a ddechreuodd yn 1836 (a ddaeth i ben tua'r un amser a gorffennodd y terfysgoedd) a chyfres o gynaeafau gwael.
* Y dirwasgiad amaethyddol a ddechreuodd yn 1836 (a ddaeth i ben tua'r un amser a gorffennodd y terfysgoedd) a chyfres o gynaeafau gwael.
* Baich [[y degwm]], yr arian a dalwyd i'r [[Eglwys Loegr|Eglwys Anglicanaidd]] gan y ffermwyr. Achosodd anfodlonrwydd ychwanegol gan y ffaith mai anghydffurfwyr oedd rhan fwyaf o'r werin. Gwaethygwyd y baich gan Ddeddf Cymudiad y Degwm (1836) a seilio faint y degwm ar brisiau cnydau y 7 mlynedd cynt. O ganlyniad roedd yn rhaid i'r werin dalu degwm uchel er bod pris y cnydau'n y farchnad wedi disgyn<ref>[http://www.open.edu/openlearnworks/mod/oucontent/view.php?id=55150&printable=1 Howell 1988]</ref>.
* Baich [[y degwm]], yr arian a dalwyd i'r [[Eglwys Loegr|Eglwys Anglicanaidd]] gan y ffermwyr. Achosodd anfodlonrwydd ychwanegol gan y ffaith mai anghydffurfwyr oedd rhan fwyaf o'r werin. Gwaethygwyd y baich gan Ddeddf Cymudiad y Degwm (1836) a seilio faint y degwm ar brisiau cnydau y 7 mlynedd cynt. O ganlyniad roedd yn rhaid i'r werin dalu degwm uchel er bod pris y cnydau'n y farchnad wedi disgyn<ref>David Howell, "The Rebecca Riots", yn ''People & Protest: Wales, 1815-1800'', gol. Trevor Herbert a Gareth Elwyn Jones (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1988), pp. 113–138</ref>.
* Y diffyg cymorth i'r tlawd yn dilyn Deddf Gwella Cyfraith y Tlodion (1834) wnaeth diddymu cymorth allanol a gorfodi i'r tlawd weithio yn y Tlotai. Ymosododd Merched Beca ar dloty Caerfyrddin yn 1843.<ref>[http://www.workhouses.org.uk/Carmarthen/ The Workhouse, ''Carmarthen, Carmarthenshire'']</ref>
* Y diffyg cymorth i'r tlawd yn dilyn Deddf Gwella Cyfraith y Tlodion (1834) wnaeth diddymu cymorth allanol a gorfodi i'r tlawd weithio yn y Tlotai. Ymosododd Merched Beca ar dloty Caerfyrddin yn 1843.<ref>{{eicon en}} [http://www.workhouses.org.uk/Carmarthen/ "Carmarthen, Carmarthenshire"]; The Workhouse; adalwyd 24 Gorffennaf 2019</ref>
* Yr atgasedd at y tirfeddianwyr a'r rhent uchel roeddent yn ei godi. Roedd nifer ohonynt yn landlordiaid absennol, a gwaethygwyd y gwrthdaro gan wahaniaethau mewn iaith (nid oedd y rhan fwyaf yn siarad Cymraeg) a chrefydd Anglicaniaid oedd gan y rhan fwyaf, i'w gymharu a'r werin Anghydffurfiol, Gymraeg). Gweinyddwyd nifer o'r Gwmnïau Tyrpeg atgas gan yr un tirfeddianwyr, a hwy oedd yn Ynadon yn y Llysoedd hefyd! Roedd y gyfraith a'r achosion llys Saesneg (nas deallwyd gan y werin uniaith Cymraeg) yn rheswm arall am yr anfodlonrwydd. Bygythiwyd tirfeddianwyr ymysg parchedigion Anglicanaidd gan lythyron o ferched Beca.

Llinell 41: Llinell 41:
Sonnir am [[Twm Carnabwth]] (Thomas Rees) fel un o'u harweinwyr. Roedd yn gymeriad cyfeillgar, lliwgar, ac yn ŵr crefyddol iawn. Roedd yn adroddwr pwnc gwych ond hefyd roedd yn enwog fel paffiwr (bocsiwr) mewn ffeiriau yn [[Sir Benfro]], [[Aberteifi]] a [[Caerfyrddin|Chaerfyddin]]. Cafodd Twm ei gladdu yng Nghapel y Bedyddwyr, [[Mynachlog Ddu]].

Fodd bynnag, mae'n ddigon posib mai trefnwyr yr ymgyrch oedd dau ddyn arbennig: y Bargyfreithiwr [[Edward Compton Lloyd Hall|Lloyd Hall]] a'r cyfreithiwr [[Hugh Williams (cyfreithiwr)|Hugh Williams]].<ref>'Helynt y Beca' gan V. Eirwen Davies, tud42; Gwasg Prifysgol Cymru 1961.</ref>
Fodd bynnag, mae'n ddigon posib mai trefnwyr yr ymgyrch oedd dau ddyn arbennig: y Bargyfreithiwr [[Edward Compton Lloyd Hall|Lloyd Hall]] a'r cyfreithiwr [[Hugh Williams (cyfreithiwr)|Hugh Williams]].<ref>Vera Eirwen Davies, ''Helynt y 'Beca'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1961), tud. 42</ref>

Un arweinydd lleol, o [[Pontarddulais|Bontarddulais]] oedd Daniel Lewis (taid y darlledwr [[Wynford Vaughan Thomas]]), er iddo osgoi cael ei erlyn gan nad oedd tystion.
Un arweinydd lleol, o [[Pontarddulais|Bontarddulais]] oedd Daniel Lewis (taid y darlledwr [[Wynford Vaughan Thomas]]), er iddo osgoi cael ei erlyn gan nad oedd tystion.
Llinell 49: Llinell 49:

==Llyfryddiaeth==
==Llyfryddiaeth==
*David Williams, ''The Rebecca Riots'', Gwasg Prifysgol Caerdydd, ISBN 0-7083-0933-X Trosiad gan Beryl Thomas, ''Helyntion Beca'' (1974)
*David Williams, ''The Rebecca Riots: A Study in Agrarian Discontent'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1955); wedi'i gyfieithu gan Beryl Thomas fel ''Helyntion Beca'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1974)
*Pat Molloy ''And they blessed Rebecca'', Gwasg Gomer, ISBN 0-86383-031-5
*Pat Molloy ''And they blessed Rebecca: An Account of the Welsh Toll-Gate Riots, 1839–1844'' (Gwasg Gomer, 1983)
*Catrin Stevens, ''Terfysg Beca'' (Gwasg Gomer, 2007)
*Catrin Stevens, ''Terfysg Beca / The Rebecca Riots'' (Gwasg Gomer, 2007)

[[Categori:Helyntion Beca| ]]
[[Categori:Helyntion Beca| ]]

Fersiwn yn ôl 21:05, 24 Gorffennaf 2019

Digriflun o'r London Illustrated News yn dangos Merched Beca yn ymosod ar dollborth
Nofel gan T. Llew Jones: Cri'r Dylluan (2005) am helyntion Beca
Disgriflun a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Punch yn 1843
Llythyr gan Beca at y Cwnstabliaid (heddweision) a cheidwaid y tollbyrth, Sir Gaerfyrddin ym 1842
Adroddiad yn Y Cenhadwr Americanaidd (gol. Robert Everett yn sôn Rebecayddion ger Delaware, Ohio yn 1843.

Gwrthryfel gwerinol yn erbyn y tollau drud a godwyd am deithio ar hyd y ffyrdd tyrpeg oedd Helyntion Beca (hefyd Becca), a barodd o 1839 hyd 1844.

Trawodd Beca gyntaf yn Efail-wen ar yr 13 Mai 1839, gan falu'r dollborth yno. Fe wnaethpwyd yr un peth eto ar y 6 Mehefin yn yr un flwyddyn ac eto ar yr 17 Gorffennaf. Llosgwyd y tolldy y tro hwn. Ni ddarganfuwyd pwy oedd y troeseddwyr, gan fod y rhai a gymerodd ran yn y weithred wedi duo eu gwynebau a gwisgo dillad menywod. Gwelwyd dryllio dros gant o dollbyrth rhwng Ionawr 1843 a gwanwyn 1844 ledled de-orllewin Cymru. Roedd yr helynt ar ei waethaf yn Sir Gaerfyrddin. Ar 6 Gorffennaf 1843, ymosododd oddeutu 200 o bobl ar Dollborth Bolgoed, Pontarddulais. Yr arweinydd oedd crydd lleol o'r enw Daniel Lewis. Fe'i bradychwyd, yn ôl yr hanes, ond osgôdd gael ei ddanfon i Awstralia gan nad oedd tystion ar gael. Ceir cofeb i'r digwyddiad yn y lleoliad hwn - ger Tafarn y Ffynnon heddiw.[1]

'Merched Rebecca' neu 'Ferched Beca' oedd yr enw arnyn nhw ar lafar. Dywed rhai iddynt gael eu henwi ar ôl benyw o'r enw Rebecca, neu Beca Fawr, a oedd wedi benthyg ei dillad iddyn nhw. Y farn gyffredinol, fodd bynnag, yw fod yr enw Rebecca yn gyfeiriad at adnod yn Llyfr Genesis, Pennod 24, adnod 60, lle sonir am fam a brawd Rebecca yn gadael iddi fynd gydag Eliezer, gwas Abraham, i briodi Isaac:

Ac a fendithiasant Rebbecah, ac a ddywedasant wrthi, "Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion."

Yn aml, roedd ganddi "ddwy chwaer" o'i phopty yn cyd-arwain ac a elwid yn Siarlot a Neli.[2]

Ymosodiadau ar dollbyrth

Ymhlith yr ymosodiadau mwyaf nodedig y mae:

  • 13 Mai 1839: tollborth Efail-wen; ceir cofeb
  • 6 Mehefin: tollborth a tholldy Efail-wen
  • 1842: Tollborth Sanclêr; ceir cerflun yn Heol y Pentref
  • 6 Gorffennaf 1843: tollborth Bolgoed, Pontarddulais; ceir cofeb ger Tafarn y Ffynnon
  • 20 Gorffennaf 1843: tollborth Rhyd Y Pandy, Treforys
  • 7 Medi 1843: tollborth yr Hendy,

Cafwyd ymosodiadau hefyd yn: Hwlffordd, Caerfyrddin, Aberteifi, Cydweli, y Tymbl, Llandysul, Pontarddulais a Chastellnewydd Emlyn.

Achosion

Un o achosion amlwg yr helynt oedd y tollbyrth eu hun, a weinyddwyd gan y Cwmnïau Tyrpeg newydd. Roedd rhaid talu tollau i deithio ar hyd y prif-ffyrdd hyn. Roedd ddeuddeg Cwmni yn sir Gaerfyrddin, pedwar yn Sir Benfro, dau yn Sir Aberteifi, dau yn Sir Faesyfed, un yn Sir Frycheiniog a deuddeg ym Morgannwg. Roedd nifer uchel y Cwmnïau Tyrpeg yn yr ardal yn golygu bod rhaid i deithwyr talu tollau sawl gwaith (am bob cwmni) i'w gymharu â Lloegr lle nad oedd y fath gor-gystadlu. Roedd rhaid i'r ffermwyr talu tollau wrth yrru'u gwartheg a theithio yn ôl ac ymlaen i'r marchnad, ac wrth ôl calch fel gwrtaith am y pridd.

Nid yr unig rheswm dros yr helyntion oedd y tollbyrth. Roedd tuedd gan werin De-Orllewin Cymru i weinyddu cyfraith eu hun trwy'r traddodiad o'r Ceffyl Pren. Dyma arfer o siomi yn gyhoeddus aelod o'r gymuned sydd wedi achosi cerydd i'w gymdogion neu gydweithio a'r awdurdodau. Byddai dorf gyda'i wynebau'n ddu (fel wnaeth Merched Beca) yn cario ffigur ceffyl at ddrws y person, neu ffigur yn ei ddynwared (a weithiau llosgwyd), neu hyd yn oed y berson ei hun, gan ei fychanu. Yn ôl yr hanesydd David Williams, "ymestyniad o arfer y Ceffyl Pren" oedd terfysgoedd Beca.[3]

Roedd rhesymau eraill am yr helyntion yn cynnwys:

  • Tlodi cyffredinol De-Orllewin Cymru a'i dir gymharol anffrwythlon.
  • Twf y boblogaeth yn rhoi pwysau ar y bobl wrth i ffermydd fynd yn llai (problem a waethygwyd gan system etifeddiaeth Cymru sydd yn rhannu tir rhwng pob perthynas gwrywaidd).
  • Y dirwasgiad amaethyddol a ddechreuodd yn 1836 (a ddaeth i ben tua'r un amser a gorffennodd y terfysgoedd) a chyfres o gynaeafau gwael.
  • Baich y degwm, yr arian a dalwyd i'r Eglwys Anglicanaidd gan y ffermwyr. Achosodd anfodlonrwydd ychwanegol gan y ffaith mai anghydffurfwyr oedd rhan fwyaf o'r werin. Gwaethygwyd y baich gan Ddeddf Cymudiad y Degwm (1836) a seilio faint y degwm ar brisiau cnydau y 7 mlynedd cynt. O ganlyniad roedd yn rhaid i'r werin dalu degwm uchel er bod pris y cnydau'n y farchnad wedi disgyn[4].
  • Y diffyg cymorth i'r tlawd yn dilyn Deddf Gwella Cyfraith y Tlodion (1834) wnaeth diddymu cymorth allanol a gorfodi i'r tlawd weithio yn y Tlotai. Ymosododd Merched Beca ar dloty Caerfyrddin yn 1843.[5]
  • Yr atgasedd at y tirfeddianwyr a'r rhent uchel roeddent yn ei godi. Roedd nifer ohonynt yn landlordiaid absennol, a gwaethygwyd y gwrthdaro gan wahaniaethau mewn iaith (nid oedd y rhan fwyaf yn siarad Cymraeg) a chrefydd Anglicaniaid oedd gan y rhan fwyaf, i'w gymharu a'r werin Anghydffurfiol, Gymraeg). Gweinyddwyd nifer o'r Gwmnïau Tyrpeg atgas gan yr un tirfeddianwyr, a hwy oedd yn Ynadon yn y Llysoedd hefyd! Roedd y gyfraith a'r achosion llys Saesneg (nas deallwyd gan y werin uniaith Cymraeg) yn rheswm arall am yr anfodlonrwydd. Bygythiwyd tirfeddianwyr ymysg parchedigion Anglicanaidd gan lythyron o ferched Beca.

Pwy oedd Rebeca?

Sonnir am Twm Carnabwth (Thomas Rees) fel un o'u harweinwyr. Roedd yn gymeriad cyfeillgar, lliwgar, ac yn ŵr crefyddol iawn. Roedd yn adroddwr pwnc gwych ond hefyd roedd yn enwog fel paffiwr (bocsiwr) mewn ffeiriau yn Sir Benfro, Aberteifi a Chaerfyddin. Cafodd Twm ei gladdu yng Nghapel y Bedyddwyr, Mynachlog Ddu.

Fodd bynnag, mae'n ddigon posib mai trefnwyr yr ymgyrch oedd dau ddyn arbennig: y Bargyfreithiwr Lloyd Hall a'r cyfreithiwr Hugh Williams.[6]

Un arweinydd lleol, o Bontarddulais oedd Daniel Lewis (taid y darlledwr Wynford Vaughan Thomas), er iddo osgoi cael ei erlyn gan nad oedd tystion.

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) "Town remembers Rebecca rioters"; BBC News; adalwyd 6 Gorffennaf 2015
  2. Vera Eirwen Davies, Helynt y 'Beca (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1961), tud. 42
  3. David Williams, The Rebecca Riots (Gwasg Prifysgol Cymru, 1955), tud. 56
  4. David Howell, "The Rebecca Riots", yn People & Protest: Wales, 1815-1800, gol. Trevor Herbert a Gareth Elwyn Jones (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1988), pp. 113–138
  5. (Saesneg) "Carmarthen, Carmarthenshire"; The Workhouse; adalwyd 24 Gorffennaf 2019
  6. Vera Eirwen Davies, Helynt y 'Beca (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1961), tud. 42

Llyfryddiaeth

  • David Williams, The Rebecca Riots: A Study in Agrarian Discontent (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1955); wedi'i gyfieithu gan Beryl Thomas fel Helyntion Beca (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1974)
  • Pat Molloy And they blessed Rebecca: An Account of the Welsh Toll-Gate Riots, 1839–1844 (Gwasg Gomer, 1983)
  • Catrin Stevens, Terfysg Beca / The Rebecca Riots (Gwasg Gomer, 2007)