Bryniau Clwyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau)
use Commons image
Llinell 5: Llinell 5:
==Y Moelydd==
==Y Moelydd==
===Copaon (o'r gogledd i'r de)===
===Copaon (o'r gogledd i'r de)===
#[[Bryn Coed yr Esgob]] (211m) SJ06808120
#[[Bryn Coed yr Esgob]] (211m) {{gbmappingsmall|SJ068812}}
#[[Moel Hiraddug]] (265m) SJ063785
#[[Moel Hiraddug]] (265m) {{gbmappingsmall|SJ063785}}
#[[Mynydd y Cwm]] (300m) SJ073768
#[[Mynydd y Cwm]] (300m) {{gbmappingsmall|SJ073768}}
#[[Moel Maenfa]] (290m) SJ085745
#[[Moel Maenfa]] (290m) {{gbmappingsmall|SJ085745}}
#[[Moel y Parc]] (381m) SJ114703
#[[Moel y Parc]] (381m) {{gbmappingsmall|SJ114703}}
#[[Penycloddiau]] (440m) SJ127678
#[[Penycloddiau]] (440m) {{gbmappingsmall|SJ127678}}
#[[Moel Plas-yw]] (420m) OS: SJ 152 669
#[[Moel Plas-yw]] (420m) {{gbmappingsmall|SJ152669}}
#[[Moel Arthur]] (456m) SJ145661
#[[Moel Arthur]] (456m) {{gbmappingsmall|SJ145661}}
#[[Moel Llys-y-coed]] (465m) SJ145655
#[[Moel Llys-y-coed]] (465m) {{gbmappingsmall|SJ145655}}
#[[Moel Dywyll]] (475m) SJ151632
#[[Moel Dywyll]] (475m) {{gbmappingsmall|SJ151632}}
#[[Moel Famau]] (554m) SJ161626
#[[Moel Famau]] (554m) {{gbmappingsmall|SJ161626}}
#[[Moel y Gaer (Llanbedr)]] (339m) SJ148617
#[[Moel y Gaer (Llanbedr)]] (339m) {{gbmappingsmall|SJ148617}}
#[[Moel Fenlli]] (511m) SJ162600
#[[Moel Fenlli]] (511m) {{gbmappingsmall|SJ162600}}
#[[Moel Eithinen]] (434m) SJ168592
#[[Moel Eithinen]] (434m) {{gbmappingsmall|SJ168592}}
#[[Gyrn]] (384m) SJ165586
#[[Gyrn]] (384m) {{gbmappingsmall|SJ165586}}
#[[Moel Gyw]] (467m) SJ171575
#[[Moel Gyw]] (467m) {{gbmappingsmall|SJ171575}}
#[[Moel Llanfair]] (447m) SJ169566
#[[Moel Llanfair]] (447m) {{gbmappingsmall|SJ169566}}
#[[Moel y Plâs]] (440m) SJ170554
#[[Moel y Plâs]] (440m) {{gbmappingsmall|SJ170554}}
#[[Moel y Gelli]] (361m) SJ166545
#[[Moel y Gelli]] (361m) {{gbmappingsmall|SJ166545}}
#[[Moel y Waun]] (412m) SJ168534
#[[Moel y Waun]] (412m) {{gbmappingsmall|SJ168534}}
#[[Moel yr Acre]] (400m) SJ169525
#[[Moel yr Acre]] (400m) {{gbmappingsmall|SJ169525}}


===Delweddau (o'r gogledd i'r de)===
===Delweddau (o'r gogledd i'r de)===
Llinell 37: Llinell 37:
Delwedd:MoelFamauSummit(JohnSTurner)Feb2004.jpg|[[Moel Famau]]
Delwedd:MoelFamauSummit(JohnSTurner)Feb2004.jpg|[[Moel Famau]]
Delwedd:Moel y Gaer o Moel Famau.jpg|[[Moel y Gaer (Llanbedr)]]
Delwedd:Moel y Gaer o Moel Famau.jpg|[[Moel y Gaer (Llanbedr)]]
Delwedd:Foel Fenlli2.jpg|[[Moel Fenlli]]
Delwedd:Foel Fenlli from Offa's Dyke Path.jpg|[[Moel Fenlli]]
Delwedd:Moel Eithinen o Foel Fenlli.jpg|[[Moel Eithinen]]
Delwedd:Moel Eithinen o Foel Fenlli.jpg|[[Moel Eithinen]]
Delwedd:Foel Gyrn o lawr y dyffryn.jpg|[[Gyrn|Moel Gyrn]]
Delwedd:Foel Gyrn o lawr y dyffryn.jpg|[[Gyrn|Moel Gyrn]]
Llinell 44: Llinell 44:
Delwedd:Moel y Plâs - geograph.org.uk - 132256.jpg|[[Moel y Plas]]
Delwedd:Moel y Plâs - geograph.org.uk - 132256.jpg|[[Moel y Plas]]
Delwedd:Moel y Waun.jpg|[[Moel y Waun]]
Delwedd:Moel y Waun.jpg|[[Moel y Waun]]

</gallery>
</gallery>


Llinell 60: Llinell 59:
*[[Llwybr Clawdd Offa]]
*[[Llwybr Clawdd Offa]]
*[[Rhestr mynyddoedd Cymru]]
*[[Rhestr mynyddoedd Cymru]]



{{AHNEau Cymru}}
{{AHNEau Cymru}}

Fersiwn yn ôl 14:37, 29 Medi 2010

Copa Moel Famau, yr uchaf o Fryniau Clwyd; Mam y bryniau
Bryniau Clwyd o Fwlchgwyn ger Wrecsam.

Bryniau Clwyd (neu Moelydd Clwyd; Saesneg: the Clwydian Range) yw'r gadwyn o tua 21 o fryniau yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n ymestyn o gyffiniau Llandegla-yn-Iâl a Nant y Garth yn y de i gyffiniau Prestatyn yn y gogledd, gyda Moel Famau (554 metr) yr uchaf ohonynt. Er nad ydynt yn arbennig o uchel, ceir golygfeydd braf o'u copaon hyd at fynyddoedd Eryri i'r gorllewin a thros Sir y Fflint i wastadeddau Swydd Gaer a chyffiniau Lerpwl i'r dwyrain. Gorwedd y rhan fwyaf o'r gadwyn yn Sir Ddinbych ond mae'r ffin â Sir y Fflint yn rhedeg ar hyd y copaon.

Y Moelydd

Copaon (o'r gogledd i'r de)

  1. Bryn Coed yr Esgob (211m) SJ068812
  2. Moel Hiraddug (265m) SJ063785
  3. Mynydd y Cwm (300m) SJ073768
  4. Moel Maenfa (290m) SJ085745
  5. Moel y Parc (381m) SJ114703
  6. Penycloddiau (440m) SJ127678
  7. Moel Plas-yw (420m) SJ152669
  8. Moel Arthur (456m) SJ145661
  9. Moel Llys-y-coed (465m) SJ145655
  10. Moel Dywyll (475m) SJ151632
  11. Moel Famau (554m) SJ161626
  12. Moel y Gaer (Llanbedr) (339m) SJ148617
  13. Moel Fenlli (511m) SJ162600
  14. Moel Eithinen (434m) SJ168592
  15. Gyrn (384m) SJ165586
  16. Moel Gyw (467m) SJ171575
  17. Moel Llanfair (447m) SJ169566
  18. Moel y Plâs (440m) SJ170554
  19. Moel y Gelli (361m) SJ166545
  20. Moel y Waun (412m) SJ168534
  21. Moel yr Acre (400m) SJ169525

Delweddau (o'r gogledd i'r de)


Fe'u gelwir yn Fryniau Clwyd am eu bod yn codi ar hyd ymyl ddwyreiniol Dyffryn Clwyd. Ar hyd yr oesoedd mae'r bryniau hyn wedi bod yn llinell amddiffyn naturiol i ogledd Cymru. Mae'r gadwyn yn cynnwys nifer o fryngaerau o Oes yr Haearn, e.e. Foel Fenlli, Penycloddiau a Moel Arthur. Ceir nifer o garneddi cynhanesyddol ar y copaon hefyd. Mae Llwybr Clawdd Offa yn nadreddu o fryn i fryn.

Enwau'r bylchau

Ceir nifer o fylchau yn croesi Bryniau Clwyd, gan gynnwys bwlch Rhuallt a groesir gan yr A55, prif draffordd gogledd Cymru, a'r hen ffordd Rufeinig o Gaer i Segontiwm cyn hynny. Mae bylchau hanesyddol eraill yn cynnwys Bwlch Pen Barras, sy'n cael ei groesi gan yr hen ffordd fynydd rhwng Tafarn-y-Gelyn a Rhuthun.

Ardal o Harddwch Naturiol

Heddiw mae bron y cyfan o'r bryniau yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Fe'i dynodwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ar 24 Gorffennaf 1985. Mae hyn yn rhoi cydnabyddiaeth genedlaethol i'r Bryniau fel ardal o dirwedd safon uchel. Mae'n un o 5 AHNE yng Nghymru. Mae'n ardal gyfoethog ei llên gwerin, gan gynnwys traddodiadau am y brenin Arthur.

Gweler hefyd