Moel Fenlli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ha |
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau) use Commons image |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Foel |
[[Delwedd:Foel Fenlli from Offa's Dyke Path.jpg|bawd|Moel Fenlli]] |
||
[[Bryngaer]] o [[Oes yr Haearn]] 511 metr ym [[Bryniau Clwyd|Mryniau Clwyd]] yw '''Moel Fenlli''' (weithiau '''Foel Fenlli''' ar rai mapiau). Fe'i lleolir tua hanner ffordd rhwng [[Rhuthun]] a [[Llanferres]] uwchlaw Bwlch Pen Barras ar ochr ddwyreiniol [[Dyffryn Clwyd]]. |
[[Bryngaer]] o [[Oes yr Haearn]] 511 metr ym [[Bryniau Clwyd|Mryniau Clwyd]] yw '''Moel Fenlli''' (weithiau '''Foel Fenlli''' ar rai mapiau). Fe'i lleolir tua hanner ffordd rhwng [[Rhuthun]] a [[Llanferres]] uwchlaw Bwlch Pen Barras ar ochr ddwyreiniol [[Dyffryn Clwyd]]. {{gbmapping|SJ164601}} |
||
Moel Fenlli yw'r fwyaf deheuol o gadwyn o fryngaerau ar gopaon Bryniau Clwyd. Mae'n amgau tua 10[[ha]] o dir ar gopa bryn o'r un enw<ref>[http://www.coflein.gov.uk/cy/safle/96522/manylion/FOEL+FENLLI+HILLFORT/ Coflein]</ref> sy'n gwarchod Bwlch Pen Barras, mynedfa amlwg i Ddyffryn Clwyd o'r dwyrain. Ar gopa'r bryn ceir [[carnedd]] o [[Oes yr Efydd]]. |
Moel Fenlli yw'r fwyaf deheuol o gadwyn o fryngaerau ar gopaon Bryniau Clwyd. Mae'n amgau tua 10[[ha]] o dir ar gopa bryn o'r un enw<ref>[http://www.coflein.gov.uk/cy/safle/96522/manylion/FOEL+FENLLI+HILLFORT/ Coflein]</ref> sy'n gwarchod Bwlch Pen Barras, mynedfa amlwg i Ddyffryn Clwyd o'r dwyrain. Ar gopa'r bryn ceir [[carnedd]] o [[Oes yr Efydd]]. |
Fersiwn yn ôl 14:05, 29 Medi 2010
Bryngaer o Oes yr Haearn 511 metr ym Mryniau Clwyd yw Moel Fenlli (weithiau Foel Fenlli ar rai mapiau). Fe'i lleolir tua hanner ffordd rhwng Rhuthun a Llanferres uwchlaw Bwlch Pen Barras ar ochr ddwyreiniol Dyffryn Clwyd. cyfeiriad grid SJ164601
Moel Fenlli yw'r fwyaf deheuol o gadwyn o fryngaerau ar gopaon Bryniau Clwyd. Mae'n amgau tua 10ha o dir ar gopa bryn o'r un enw[1] sy'n gwarchod Bwlch Pen Barras, mynedfa amlwg i Ddyffryn Clwyd o'r dwyrain. Ar gopa'r bryn ceir carnedd o Oes yr Efydd.
Dyddia'r amddiffynwaith i gyfnod rhwng y ganrif gyntaf CC a'r bedwaredd ganrif OC, fwy neu lai y cyfnod y bu'r Rhufeiniaid yn Ynys Prydain. Lleolir y prif amddiffyniad ar ochrau gogleddol a dwyreiniol y gaer, uwchlaw'r bwlch. Ceir mynedfa gynnar yn y gornel orllewinol ac yn diweddarach yn y gornel de-ddwyreiniol. Ceir olion cytiau crwn tu mewn i'r gaer. Darganfuwyd darnau o briddlestri gwyn a choch, haearn, saethau callestr a gwydr pan gloddiwyd y safle yn 1849. Yn 1816 cafwyd hyd i gelc o dros 1,500 o ddarnau pres Rufeinig, yn dyddio o'r cyfnod 307-360 OC yn bennaf. Darganfyddwyd tua 60 o dai Celtaidd y tu fewn i'r gaer. [2]
Delweddau
-
Yr olygfa o faes parcio Pen Barras: gwelir y mur allanol yn eglur.
-
Y fynedfa i'r gaer, gan edrych i lawr i Ddyffryn Clwyd.
-
Y gaer ar y dde, y mur amddiffynol ar y chwith.
-
Yr olygfa o fynedfa'r bryngaer ar Foel Fenlli gan edrych i gyfeiriad Moel Famau.
-
Yr olygfa i gyfeiriad y de: Moel Eithinen, Moel Gyw a Moel y Plâs, gyda mynyddoedd y Berwyn yn y cefndir.
Tarddiad yr enw
Mae'r enw'n ddiddorol. Mae'n bosib y daw o enw'r cawr Cymreig Benlli Gawr y cyfeirir ato weithiau yng ngwaith beirdd yr Oesoedd Canol a Nennius yn yr Historia Brittonum. Cyfeiria Cynddelw Brydydd Mawr (12fed ganrif) at Fenlli Gawr yn ei gerdd enwog i osgordd Madog ap Maredudd o Bowys.
Cyfeiriadau
Ffynonellau
- Ellis Davies, Prehistoric and Roman Remains of Denbighshire (1929)