Ymerodraeth Mali: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd: cyfieithwyd o'r Gatalwneg ar Comin
Llinell 13: Llinell 13:
<references />
<references />


[[Categori:Mali]]
[[Categori:13eg ganrif]]
[[Categori:Ymerodraethau]]
[[Categori:14eg ganrif]]
[[Categori:Hanes Mali]]
[[Categori:Ymerodraethau|Mali]]

Fersiwn yn ôl 15:07, 22 Gorffennaf 2019

Map o Ymerodraeth Mali

Ymerodraeth yng Ngorllewin Affrica o tua 1235 – 1400 oedd Ymerodraeth Mali (Manding: Nyeni[1] neu Niani; hefyd Manden Kurufaba yn hanesyddol[2]). Sefydlwyd yr ymerodraeth gan Sundiata Keita a daeth yn adnabyddus am gyfoeth ei rheolwyr, yn enwedig Musa Keita. Ieithoedd Manding a oedd yn cael eu siarad trwy'r ymedrodraeth. Hi oedd yr ymerodraeth fwyaf yng Ngorllewin Affrica a chafodd ddylanwad enfawr ar ddiwylliant y rhanbarth drwy ledaenu ei hiaith, ei chyfreithiau a'i harferion.[3] Daw'r mwyafrif o'r wybodaeth sydd gennym am Ymerodraeth Mali gan yr hanesydd Ibn Khaldun Arabaidd o Ogledd Affrica yn y 14eg ganfrif a chan y teithiwyr o Foroco, Ibn Battuta yn y 14eg ganrif a Leo Africanus yn y 16eg ganrif. Y brif ffynhonell arall o wybodaeth yw traddodiad llafar y chwedleuwyr Mandinka, o'r enw griotiaid.[4]

Fe ddechreuodd yr ymerodraeth fel teyrnas fach Mandinka ar hyd Afon Niger o gwmpas tref Niani, y dref yr enwir yr ymerodraeth ar ei hôl ym Manding. Yn ystod y 11eg a'r 12fed ganrifoedd, dechreuoedd ddatblygu fel ymerodraeth yn dilyn dirywiad Ymerodraeth Ghana yn y gogledd. Yn ystod y cyfnod hwn, symudodd y llwybrau masnach i'r de i'r safana, gan symbylu taleithiau i dyfu. Mae hanes cynnar Ymerodraeth Mali, cyn y 13eg ganrif, yn aneglur oherwydd nifer o gofnodion gan groniclwyr Arabaidd a thraddodiadwyr llafar sydd yn amwys ac yn groes i'w gilydd. Sundiata Keita (tua 1214 – tua 1255) yw'r rheolwr cyntaf y ceir gwybodaeth ysgrifenedig manwl gywir amdano, gan Ibn Khaldun. Tywysog a rhyfelwr oedd Sundiata Keita, o frenhinllin Keita, a galwyd arno i ryddhau pobl Mali oddi wrth reolaeth brenin Ymerodraeth Sosso, Soumaoro Kanté. Tua'r flwyddyn 1235, rhoddodd goresgyniad Sosso fynediad i'r llwybrau masnach traws-Saharaidd i Ymerodraeth Mali.

Wedi marwolaeth Sundiata Keita tua 1255, derbyniodd brenhinoedd Mali y teitl mansa.[4] Aeth nai Sundiata, Mansa Musa, ar bererindod yr Hajj i Mecca yn ystod teyrnasiad Swltan Mamlwc Baibars (teyrnasiad 1260–1277). Yn dilyn cyfres o drawsfeddiannu gorsedd Mali, tua'r flwyddyn 1285, daeth Sakoura, cyn-gaethwas yn y llys brenhinol, yn ymerawdwr ac yn un o'i rheolwyr mwyaf grymus, gan estyn tiriogaeth Mali yn helaeth. Gwnaeth bererindod i Mecca yn ystod teyrnasiad Sultan Mamlwc An-Nasir Muhammad (teyrnasiad 1298–1308). Ar ôl iddo ddychwelyd a marw, aeth yr orsedd yn ôl i ddisgynyddion Sundiata Keita. Wedi teyrnasiad tri ymerawdwr arall, Musa Keita a ddaeth yn ymerawdwr tua 1312. Gwnaeth ef bererindod enwog i Mecca o 1324 hyd 1326. Rhoddodd gymaint o roddion i Aifft y Mamlwciad a gwariodd gymaint o aur ar ei daith, fe ddibriswyd gwerth aur yn ei sgil a daeth Musa Keita yn enwog y tu hwnt i ffiniau Mali. Yn 1337, fe'i holynwyd gan ei fab Maghan I, a ddiorseddwyd gan ei ewythr Suleyman. Yn ystod teyrnasiad Suleyman yr ymwelodd Ibn Battuta â Mali.[5] Dilynwyd y cyfnod hwn gan nifer o ymerawdwyr gweinion, gwrthdaro a diffyg undod ym Mali.

Bu farw Ibn Khaldun yn 1406 ac ar ôl ei farwoldaeth ni chafwyd cofnod parhaus o'r digwyddiadau yn Ymerodraeth Mali wedyn. Gwyddys o Tarikh al-Sudan mai gwlad o gryn faint oedd Mali yn y 15fed ganrif. Cadarnhaodd y fforiwr o Fenis Alvise Cadamosto a masnachwyr o Bortiwgal fod pobloedd Afon Gambia yn dal dan law mansa Mali.[6] Ymwelodd Leo Africanus â'r ardal ar ddechrau'r 16eg ganrif ac mae ei ddisgrifiadau o'r tiriogaethau yn dangos bod y deyrnas yn un sylweddol o hyd. Er hynny, o 1507 ymlaen, roedd gwledydd cyfagos megis Diara, Fulo Fawr ac Ymerodraeth y Songhay yn dechrau erydu tiroedd pell Mali. Yn 1542, goresgynnodd pobl y Songhay y brifddinas Niani ond ni lwyddasant i oresgyn yr ymerodraeth gyfan. Yn ystod y 17eg ganrif, roedd Ymerodraeth Mali yn wynebu cyrchoedd gan Ymerodraeth Bamana. Wedi i Mansa Mama Maghan fethu â goresgyn Bamana, anrheithiodd Bamana Nianai a'i llosgi ac fe chwalodd Ymerodraeth Mali yn gyflym iawn wedi hyn. Cymerodd unbenaethau annibynnol le'r ymerodraeth a chilio gwnaeth y Keita i dref Kangaba lle yr oeddent yn parhau fel unbeniaid taleithiol.[7]


Cyfeiriadau

  1. Ki-Zerbo, Joseph: UNESCO General History of Africa, Vol. IV, Abridged Edition: Africa from the Twelfth to the Sixteenth Century, p. 57. University of California Press, 1997.
  2. Piga, Adriana: Islam et villes en Afriqa au sud du Sahara: Entre soufisme et fondamentalisme, p. 265. KARTHALA Editions, 2003.
  3. "The Empire of Mali, In Our Time – BBC Radio 4". BBC. Cyrchwyd 2015-10-29.
  4. 4.0 4.1 Imperato, Pascal James; Imperato, Gavin H. (2008-04-25). Historical Dictionary of Mali (yn Saesneg). Scarecrow Press. t. 201. ISBN 9780810864023.
  5. Imperato, Pascal James; Imperato, Gavin H. (2008-04-25). Historical Dictionary of Mali (yn Saesneg). Scarecrow Press. t. 202. ISBN 9780810864023.
  6. Imperato, Pascal James; Imperato, Gavin H. (2008-04-25). Historical Dictionary of Mali (yn Saesneg). Scarecrow Press. t. 203. ISBN 9780810864023.
  7. Imperato, Pascal James; Imperato, Gavin H. (2008-04-25). Historical Dictionary of Mali (yn Saesneg). Scarecrow Press. t. 204. ISBN 9780810864023.