Muhammad Ahmad al-Mahdi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: ur:مہدی سوڈانی |
SassoBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: ca:Muhàmmad Àhmad |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
[[ar:محمد أحمد المهدي]] |
[[ar:محمد أحمد المهدي]] |
||
[[ca: |
[[ca:Muhàmmad Àhmad]] |
||
[[cs:Al-Mahdí]] |
[[cs:Al-Mahdí]] |
||
[[da:Muhammad Ahmad]] |
[[da:Muhammad Ahmad]] |
Fersiwn yn ôl 15:36, 27 Medi 2010
Roedd Muhammad Ahmad al-Mahdi neu al-Mahdi (1844 - Mehefin, 1885) yn arweinydd gwrthryfel yn erbyn ymerodraeth Prydain yn y Sudan.
Ei hanes
Cafodd weledigaeth gyfriniol a chredodd mai ei genhadaeth oedd arwain ei bobl i ryddid. Datganodd ei fod y Mahdi a chywynodd wrthryfel yn erbyn llywodraeth yr Aifft (a reolai Sudan yn enw Prydain). Cipiodd Khartoum o ddwylo'r Cadfridog Gordon ym mis Ionawr 1885 ond bu farw rhai misoedd yn ddiweddarach yn Omdurman, efallai o golera.
Cafodd y Mahdi ei ddemoneiddio gan haneswyr poblogaidd cyfnod yr ymerodraeth Brydeinig.
Al-Mahdi
Ystyr y gair Arabeg al-Mahdi yw "Yr Un Sy'n Cael ei Dywys". Teitl crefyddol yn nhraddodiad Islam ydyw. Gellid cymharu'r cred yn y Mahdi â chred rhai Cristnogion yn ail-ddyfodiad y Meseia.