Mynydd Epynt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau)
use Commons image
Llinell 1: Llinell 1:
Ardal o fryniau canolig eu huchder yn ne [[Powys]] yw '''Mynydd Epynt''' (anghywir yw'r amrywiad ''Eppynt'' a geir weithiau). Gorweddant yng nghanol y rhan o ogledd [[Brycheiniog]] a adnabyddid fel [[Cantref Selyf]] yn yr Oesoedd Canol.
Ardal o fryniau canolig eu huchder yn ne [[Powys]] yw '''Mynydd Epynt''' (anghywir yw'r amrywiad ''Eppynt'' a geir weithiau). Gorweddant yng nghanol y rhan o ogledd [[Brycheiniog]] a adnabyddid fel [[Cantref Selyf]] yn yr Oesoedd Canol.


[[Delwedd:Epynt1.jpg|300px|bawd|Golygfa ar Fynydd Epynt, ger Maesmynys]]
[[View east from Blaen Bwch Farm 674351.jpg|bawd|Golygfa ar Fynydd Epynt, ger Maesmynys]]


Mae'r enw yn ddiddorol. Daw o'r gair [[Brythoneg]]/[[Cymraeg Cynnar]] ''*epo-s'' 'ceffyl(au)' (sy'n rhoi enw'r dduwies Geltaidd [[Epona]] a'r gair Cymraeg ''ebol'')<ref>[[Geiriadur Prifysgol Cymru]]</ref> a ''hynt'', a'r ystyr yw '(lle) crwydra ceffylau'.
Mae'r enw yn ddiddorol. Daw o'r gair [[Brythoneg]]/[[Cymraeg Cynnar]] ''*epo-s'' 'ceffyl(au)' (sy'n rhoi enw'r dduwies Geltaidd [[Epona]] a'r gair Cymraeg ''ebol'')<ref>[[Geiriadur Prifysgol Cymru]]</ref> a ''hynt'', a'r ystyr yw '(lle) crwydra ceffylau'.

Fersiwn yn ôl 16:39, 26 Medi 2010

Ardal o fryniau canolig eu huchder yn ne Powys yw Mynydd Epynt (anghywir yw'r amrywiad Eppynt a geir weithiau). Gorweddant yng nghanol y rhan o ogledd Brycheiniog a adnabyddid fel Cantref Selyf yn yr Oesoedd Canol.

bawd|Golygfa ar Fynydd Epynt, ger Maesmynys

Mae'r enw yn ddiddorol. Daw o'r gair Brythoneg/Cymraeg Cynnar *epo-s 'ceffyl(au)' (sy'n rhoi enw'r dduwies Geltaidd Epona a'r gair Cymraeg ebol)[1] a hynt, a'r ystyr yw '(lle) crwydra ceffylau'.

Gorwedd Mynydd Epynt mewn ardal o ucheldir a amgylchinir gan ffyrdd yr A483 i'r gorllewin, yr A40 i'r de a'r A470 i'r dwyrain, gyda'r conglau'n cael eu dynodi gan Llanymddyfri ac Aberhonddu i'r de a Llanfair-ym-Muallt i'r gogledd.

Mae'r afonydd sy'n tarddu ar ei lethrau yn cynnwys afon Honddu, afon Ysgir, a Nant Brân (yn bwydo afon Wysg) ac afon Dulas.

Ganed y Piwritan John Penry yn ffermdy Cefn-brith, ger Llangamarch ar lethrau gogleddol Mynydd Epynt yn y flwyddyn 1563.

Bu cymdeithas Gymraeg gryf ym mynydd Epynt tan yn gymharol ddiweddar. Roedd yr ardal yn un o gadarnleoedd y Cymry am ganrifoedd yn wyneb ymosodiadau'r Normaniaid a brenhinoedd Lloegr.

Cafodd y mynydd ei feddiannu gan y Swyddfa Ryfel ar gyfer ymarfer saethu ac mae rhannau helaeth o'r bryniau ar gau i'r cyhoedd hyd heddiw. Cyhoeddwyd bwriad y Swyddfa Ryfel i feddiannu Mynydd Epynt yn 1939. Er gwaethaf ymdrechion Undeb Cymru Fydd i warchod yr ardal a rhwystro llywodraeth Prydain, methiant fu. Erbyn mis Mehefin 1940, gwasgarwyd y 400 o Gymry fu'n ffermio ar y mynydd a'r saith cwm o'i amgylch ac roedd 16,000 hectar o Fynydd Epynt wedi'u troi'n faes tanio i'r Fyddin Brydeinig. Fel y noda John Davies: "O ganlyniad i weithred y Swyddfa Ryfel, symudwyd ffin y Gymraeg bymtheg cilomedr i'r gorllewin."[2]

Mae Cymreictod yr ardal, mewn canlyniad i'r tir a'r ffermydd a gollwyd trwy hynny a datblygiad coedwigaeth fasnachol gan y Comisiwn Coedwigaeth ar y llethrau isaf, yn arbennig i'r gorllewin yn ardal Tirabad, wedi edwino'n sylweddol erbyn heddiw.

Bryniau

  • Drum Ddu (474 m)
  • Banc y Celyn (472 m)
  • Bryn Du (463 m)
  • Gwrhyd (454 m)
  • Twyn rhyd-car (454 m)
  • Moelfre (441 m)

Pentrefi o amgylch

Cyfeiriadau

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru
  2. John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1992), tud. 580.