Uwch Dulas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau)
use Commons image
Llinell 2: Llinell 2:
[[Cwmwd]] canoloesol yng ngogledd [[Cymru]] oedd '''Uwch Dulas'''. Gyda chymydau'r [[Creuddyn (Rhos)|Creuddyn]] ac [[Is Dulas]] roedd yn ffurfio [[cantref]] [[Rhos]].
[[Cwmwd]] canoloesol yng ngogledd [[Cymru]] oedd '''Uwch Dulas'''. Gyda chymydau'r [[Creuddyn (Rhos)|Creuddyn]] ac [[Is Dulas]] roedd yn ffurfio [[cantref]] [[Rhos]].

[[Delwedd:Eglwysbach church.jpg|200px|bawd|Eglwysbach]]
[[Delwedd:Eglwysbach village church - geograph.org.uk - 51237.jpg|bawd|Eglwysbach]]
Dynodai [[afon Dulas (Rhos)|afon Dulas]] rhan isaf y ffin rhwng Uwch ac Is Dulas, o'i aber yn y môr yn [[Llanddulas]] (ger [[Bae Colwyn]] heddiw) i fyny i'r bryniau ger [[Betws yn Rhos]]. I'r de o'r ardal honno, ymestynnai'r cwmwd fel llain o dir uchel hyd at gyffiniau [[Pentrefoelas]], gan ffinio â chantref [[Rhufoniog]] yn y de. Yn y gorllewin ffurfiai [[Dyffryn Conwy]] ffin naturiol, gyda'r cwmwd yn gorwedd ar lan ddwyreiniol [[afon Conwy]]. Yn y gogledd ffiniai â chwmwd y Creuddyn.

Fersiwn yn ôl 16:01, 26 Medi 2010

Gweler hefyd Dulas (gwahaniaethu).

Cwmwd canoloesol yng ngogledd Cymru oedd Uwch Dulas. Gyda chymydau'r Creuddyn ac Is Dulas roedd yn ffurfio cantref Rhos.

Eglwysbach

Dynodai afon Dulas rhan isaf y ffin rhwng Uwch ac Is Dulas, o'i aber yn y môr yn Llanddulas (ger Bae Colwyn heddiw) i fyny i'r bryniau ger Betws yn Rhos. I'r de o'r ardal honno, ymestynnai'r cwmwd fel llain o dir uchel hyd at gyffiniau Pentrefoelas, gan ffinio â chantref Rhufoniog yn y de. Yn y gorllewin ffurfiai Dyffryn Conwy ffin naturiol, gyda'r cwmwd yn gorwedd ar lan ddwyreiniol afon Conwy. Yn y gogledd ffiniai â chwmwd y Creuddyn.

Roedd y rhan fwyaf o'r canolfannau pwysig yn gorwedd ger yr arfordir yn y gogledd, gan gynnwys Llaneilian-yn-Rhos, Mochdre, Llandrillo yn Rhos, Llanddulas a Betws yn Rhos. Yn Nyffryn Conwy Llanrwst oedd y ganolfan bwysicaf. Yn y bryniau roedd plwyfi Llansanffraid Glan Conwy, Maenan, Eglwysbach a Llanddoged.

Roedd Uwch Dulas yn rhan o deyrnas Rhos yn yr Oesoedd Canol Cynnar ac yna'n rhan o Wynedd. Gydag Is Dulas daeth y cwmwd yn rhan o arglwyddiaeth Dinbych ar ôl goresgyniad Gwynedd (aeth y Creuddyn yn rhan o Sir Gaernarfon, ac ar ddiwedd yr Oesoedd Canol daeth yn rhan o'r hen Sir Ddinbych. Heddiw mae'n rhan o fwrdeisdref sirol Conwy ar ôl cyfnod yn rhan o sir Clwyd.