Llandecwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau) use Commons image |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd: |
[[Delwedd:Llandecwyn Church - geograph.org.uk - 50021.jpg|bawd|Eglwys Llandecwyn]] |
||
[[Plwyf]] yn ardal [[Ardudwy]], de [[Gwynedd]], yw '''Llandecwyn'''. Yn ôl traddodiad fe'i cysylltir â [[Sant]] [[Tecwyn]] (fl. 6ed ganrif?), a sefydlodd [[llan]] yno. |
[[Plwyf]] yn ardal [[Ardudwy]], de [[Gwynedd]], yw '''Llandecwyn''' ({{gbmapping|SH632375}}). Yn ôl traddodiad fe'i cysylltir â [[Sant]] [[Tecwyn]] (fl. 6ed ganrif?), a sefydlodd [[llan]] yno. |
||
Gorwedd y plwyf yng ngogledd-orllewin Ardudwy ar lan ddeheuol [[Afon Dwyryd]]. Mae'n ymestyn o'r arfordir i fyny i fryniau gogleddol y [[Rhinogau]]. Ceir [[Llyn Tecwyn Uchaf]] yng ngogledd y plwyf. |
Gorwedd y plwyf yng ngogledd-orllewin Ardudwy ar lan ddeheuol [[Afon Dwyryd]]. Mae'n ymestyn o'r arfordir i fyny i fryniau gogleddol y [[Rhinogau]]. Ceir [[Llyn Tecwyn Uchaf]] yng ngogledd y plwyf. |
Fersiwn yn ôl 21:54, 25 Medi 2010
Plwyf yn ardal Ardudwy, de Gwynedd, yw Llandecwyn (cyfeiriad grid SH632375). Yn ôl traddodiad fe'i cysylltir â Sant Tecwyn (fl. 6ed ganrif?), a sefydlodd llan yno.
Gorwedd y plwyf yng ngogledd-orllewin Ardudwy ar lan ddeheuol Afon Dwyryd. Mae'n ymestyn o'r arfordir i fyny i fryniau gogleddol y Rhinogau. Ceir Llyn Tecwyn Uchaf yng ngogledd y plwyf.
Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Ardudwy Uwch Artro. Prin bod Llandecwyn yn "bentref" o gwbl, ond yn hytrach mae'n gymuned o dai a ffermydd gwasgaredig o gwmpas yr eglwys. Adeilad newydd a godwyd yn 1879 yw'r eglwys bresennol, ond mae'n sefyll ar safle egwlys ganoloesol. Erys carreg o tua'r 11eg ganrif yno, yn coffa'r sant a ddaeth yma, yn ôl traddodiad, yng ngosgordd Cadfan. Ceir Plas Llandecwyn gerllaw.
Brodor o Landecwyn oedd y pregethwr a llenor D. Tecwyn Evans (David Evans). Yma hefyd y ganed J. H. Jones, cyn-olygydd Y Brython.
Ceir gorsaf Llandecwyn ar Reilffordd Arfordir Cymru.
Ffynhonnell
- T. I. Ellis, Crwydro Meirionnydd (Cyfres Crwydro Cymru, 1954)