Benllech: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
YsgolGO2 (sgwrs | cyfraniadau)
YsgolGO (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 25: Llinell 25:
Ceir dwy [[siambr gladdu]] [[Neolithig]] hanner milltir i'r gorllewin o Fenllech. Ganwyd y bardd [[Goronwy Owen]] yn [[Rhosfawr]], dwy filltir i'r gorllewin o'r dref. Bu marchnad Croes Wion mewn bri am ganrifoedd, ac mae sïon i [[Gwion Goch]] sefydlu capel neu eglwys ar y llecyn hwn.
Ceir dwy [[siambr gladdu]] [[Neolithig]] hanner milltir i'r gorllewin o Fenllech. Ganwyd y bardd [[Goronwy Owen]] yn [[Rhosfawr]], dwy filltir i'r gorllewin o'r dref. Bu marchnad Croes Wion mewn bri am ganrifoedd, ac mae sïon i [[Gwion Goch]] sefydlu capel neu eglwys ar y llecyn hwn.


Yn 1939 ar Draeth Bychan rhwng [[Moelfre]] a Benllech aeth y llong danfor ''Thetis'' ar y creigiau a chollodd 99 eu bywydau. Mae Benllech yn gyrchfan gwiliau traeth poblogaidd.Enillydd gwobr Baner las ewrop ers 2004.
Yn 1939 ar Draeth Bychan rhwng [[Moelfre]] a Benllech aeth y llong danfor ''Thetis'' ar y creigiau a chollodd 99 eu bywydau. Mae Benllech yn gyrchfan gwiliau traeth poblogaidd.Enillydd gwobr Baner las ewrop ers 2004. maer shopiau yna yw spar,co-op a tesco.


==Atyniadau eraill==
==Atyniadau eraill==

Fersiwn yn ôl 09:14, 18 Gorffennaf 2019

Benllech
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,332 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3203°N 4.2258°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH518828 Edit this on Wikidata
Cod postLL74 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au
AS/au
Map

Tref ar arfordir ddwyreiniol Ynys Môn, ym mhwlyf Llanfair Mathafarn Eithaf yw Benllech. Fe'i lleolir 7 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Borthaethwy ar lôn yr A5025, hanner ffordd rhwng Pentraeth a Moelfre. Mae ar Lwybr Arfordirol Ynys Môn. Mae'n ganolfan gwyliau glan-môr boblogaidd yn yr haf ac mae twristiaeth yn chwarae rhan bwysig yn yr economi leol. Mae nifer o dai newydd a byngalos yn gymysg â thai hŷn yn y dref. Mae Traeth Benllech yn lân a diogel. I'r gorllewin ceir meysydd carafanau ar gyfer ymwelwyr.

Poblogaeth Benllech yw 3,382 felly dyma'r 5ed anheddiad mwyaf yn ôl poblogaeth ar yr ynys.

Y dref heddiw

Celr ysgol gynradd, meddygfa medddyg teulu, llyfrgell, swyddfa bost a nifer o gaffis a siopau bach yn y dref, ynghyd â thair tafarn. Dros y degawdau diwethaf mae nifer o bobl a arferai fynd ar eu gwyliau i Fenllech wedi prynu tai yn y dref ac mewn canlyniad mae hi wedi'i Seisnigeiddio cryn dipyn, yn arbennig mewn cymhariaeth â'r pentrefi bach yn y cylch.

Yr Arwydd yw papur bro Benllech a gweddill cylch Mynydd Bodafon.

Mae Ysgol Goronwy Owen yn y pentref. Cyfeiriad yr ysgol yw LL74 8SN.

Hanes lleol

Pen gorllewinol Traeth Benllech

Ceir dwy siambr gladdu Neolithig hanner milltir i'r gorllewin o Fenllech. Ganwyd y bardd Goronwy Owen yn Rhosfawr, dwy filltir i'r gorllewin o'r dref. Bu marchnad Croes Wion mewn bri am ganrifoedd, ac mae sïon i Gwion Goch sefydlu capel neu eglwys ar y llecyn hwn.

Yn 1939 ar Draeth Bychan rhwng Moelfre a Benllech aeth y llong danfor Thetis ar y creigiau a chollodd 99 eu bywydau. Mae Benllech yn gyrchfan gwiliau traeth poblogaidd.Enillydd gwobr Baner las ewrop ers 2004. maer shopiau yna yw spar,co-op a tesco.

Atyniadau eraill

  • Traeth Coch - bae llydan agored filltir a hanner i'r de-ddwyrain.
  • Dinas - bryngaer dwy filltir i'r gogledd o'r dref, ger Traeth Bychan.

Cludiant

Ceir gwasanaethau bws i Amlwch, Porthaethwy a Bangor.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: