Ceffyl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 27: Llinell 27:
Erbyn yr [[Oes Haearn]] ceid ceffylau bychain “Celtaidd”, rhagflaenwyr y [[Merlyn mynydd Cymreig|merlod mynydd Cymreig]], ac addolid [[Epona]] – duwies y ceffylau o'r hon y tarddodd [[y Fari Lwyd]] bresennol.
Erbyn yr [[Oes Haearn]] ceid ceffylau bychain “Celtaidd”, rhagflaenwyr y [[Merlyn mynydd Cymreig|merlod mynydd Cymreig]], ac addolid [[Epona]] – duwies y ceffylau o'r hon y tarddodd [[y Fari Lwyd]] bresennol.


Mae gan stalwyn mwy o ddanedd na gaseg.
Mae gan stalwyn mwy o ddanedd na gaseg. Mae yna drost 75 miliwn o gefylau dros y byd.


===Crefydd a Mytholeg===
===Crefydd a Mytholeg===

Fersiwn yn ôl 10:19, 16 Gorffennaf 2019

Ceffyl
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Perissodactyla
Teulu: Equidae
Genws: Equus
Rhywogaeth: E. caballus
Enw deuenwol
Equus caballus
Linnaeus, 1758
Fideo gan Gyfoeth Naturiol Cymru - yn dangos ceffylau gwedd yn gweithio mewn coedwig.

Mamal dof mawr yw ceffyl (Equus ferus caballus)[1] sy'n perthyn i deulu'r Equidae. Gelwir y fenyw yn "gaseg", y gwryw yn "stalwyn" neu'n "farch" a'r ceffyl ifanc yn "ebol". Esblygodd dros gyfnod o 45 i 55 miliwn o flynyddoedd o fod yn greadur aml-garn i fod yn anifail uncarn cymharol fawr ei faint. Yr enw torfol yw "gre o geffylau".

Einioes

Yn ddibynol ar y brid a'r amgylchedd, gall y ceffyl modern fyw i fod yn 25 neu'n 30 mlwydd oed. Mae eithriadau prin yn byw am 40 mlynedd neu ragor.[2] Cofnodwyd fod ceffyl o'r enw "Old Billy" yn y 19g wedi byw am 62 o flynyddoedd[3] a chredir fod 'Sugar Puff' wedi byw am 56.[4]

Hanes y ceffyl

Mae’n debyg i geffylau gael eu dofi gynta tua 3,500 – 4,000CC ar stepdiroedd eang gorllewin Asia - yn yr ardal sy’n cyfateb heddiw i’r Wcrain. Am fod marchogi ceffylau yn rhoi cymaint o fantais i rywun – i deithio’n gyflym, ac yn enwedig i ryfela, fe ledodd yr arfer o’u defnyddio yn sydyn iawn i bob cyfeiriad – i ganolbarth Ewrop, gogledd Affrica a’r Dwyrain Canol. Tua’r un adeg roedd y Mongoliaid yn dofi’r math o geffyl gwyllt oedd i’w gael yn nwyrain Asia. Buont yn hynod effeithiol yn manteisio ar geffylau yn y Oesoedd Canol pan sefydlon nhw, dan Genghis Khan, ymerodraeth anferth yn ymestyn o Hwngari i Corea.

Erbyn tua 2,000CC ceir lluniau o Mesopotamia, Rwsia a sawl lle arall o geffylau yn tynnu cerbydau rhyfel dwy olwyn i ryfela. Yn y Beibl mae Llyfr Samiwel yn son am fintai’r Philistiaid o 6,000 o farchogion a marchogion Eifftaidd aeth ar ôl Moses a’r Iddewon.

Erbyn yr Oes Haearn ceid ceffylau bychain “Celtaidd”, rhagflaenwyr y merlod mynydd Cymreig, ac addolid Epona – duwies y ceffylau o'r hon y tarddodd y Fari Lwyd bresennol.

Mae gan stalwyn mwy o ddanedd na gaseg. Mae yna drost 75 miliwn o gefylau dros y byd.

Crefydd a Mytholeg

Dim rhyfedd felly, bod ceffylau yn chwara rhan bwysig iawn yng nghrefyddau a mytholeg y cyfnodau cynnar, gyda cheffylau arbennig iawn yn cael eu marchogi gan rai o’r duwiau a’r arwyr. Er enghraifft fe fyddai ceffylau gwyn adeiniog yn tynnu cerbyd Poseidon, duw môr y Groegiaid, drwy’r tonnau ac roedden nhw’n medru codi i’r awyr a hedfan drwy’r cymylau. Pegasus oedd enw prif geffyl Poseidon. Mi ydan ni'n parhau heddiw i alw trochion y tonnau yn "gesig gwynion" a "meirch y môr". Mae yna amryw o greaduriaid mytholegol ceffylaidd eraill hefyd – bob un efo’i bwerau arbenig ei hun, fel yr uncorn, a’r sentawr – oedd yn ½ dyn a ½ ceffyl.

Roedd gan y Celtiaid dduwies geffylau, "Epona" oedd ei henw i’r Galiaid a "Rhiannon" i’r hen Frythoniaid. Cysylltir Rhiannon â ffrwythlondeb y cnydau ac fe’i portreadir bron bob amser yn cario basged o ffrwythau ac yn marchogi caseg wen oedd ag ebol wrth ei thraed. Gallai’r dduwies iachau pobol; er mwyn sicrhau hynny, byddai pobl yn aberthu i ffynhonnau iachusol oedd yn dwyn ei henw. Fe welwn lun mawr o gaseg wen Rhiannon wedi ei gerfio i ochor un o fryniau sialc y Downs yn Uffingdon yn ne Lloegr. Yn y cyfnod cyn-Gristnogol, am nad oedd gan y Rhufeiniaid ddim byd oedd yn cyfateb i Epona neu Rhiannon, duwies y ceffylau, fe’i mabwysiadwyd ganddyn nhw fel un o’u duwiesau eu hunnain – yr unig un o’r duwiau Celtaidd i gael eu mabwysiadu yn ddigyfnewid gan y Rhufeiniaid.

Fe barhaodd ambell adlais o Rhiannon i’n llên gwerin diweddar ni. Ydach chi’n gyfarwydd â’r hen arfer, pan welwch chi geffyl gwyn, o boeri ar lawr a d’eud: "Lwc i mi a lwc i ti a lwc i’r ceffyl gwyn?" A be am y Fari Lwyd – yn mynd o gwmpas tafarndai ar nos Ystwyll yn ei chynfas wen? A hefyd – a dyma ichi adlais o gyswllt Rhiannon â ffrwythlondeb y cnydau – pan dorrid yr ysgub ŷd ola, a’i phlethu’n hardd i ddwad a hi i’r tŷ, onid y "Gaseg Fedi" oedd hi’n cael ’i galw?

Canol Oesoedd

Fe welwn yng Nghyfraith Hywel Dda pa mor uchel oedd parch y Cymru at eu ceffylau ac mae canmoliaeth aruthrol i ambell un yn yr hen gywyddau Canol Oesol – yn enwedig pan oedd rywun eisiau menthyg stalwyn i’w gesyg. Mae cwpled Tudur Aled yn y 16g yn enhraifft:

Llygaid fel dwy ellygen
Llymion byw’n llamu’n i ben.

yn y Cyfreithiau, disgrifir y ceffyl marchogaeth, y pynfarch a'r ceffyl gwaith a dynnai gar llusg neu og. Fel arfer gwaith yr ychain oedd tynnu'r aradr a rhaid oedd aros tan y 18g i'r wedd geffylau eu disodli. Canmola Gerallt Gymro yn 1188 "geffylau Powys" â gwaed Sbaenaidd ynddynt. O'r rhain, a groeswyd â meirch Arabaidd o'r Croesgadau y disgynnodd y cob Cymreig.

Roedd ’na gryn ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bridio gofalus o linach dda. E. e., adeg y Croesgadau fe fewnforiwyd ceffylau Arabaidd hardd i wledydd Prydain, a rhwng yr 11-16g fe ddylanwadodd y rhain yn gryf ar ddatblygiad y Cobiau a’r merlod Cymreig. Fe nododd Gerallt Gymro yn y 12g bod ceffylau o Sbaen wedi cael eu defnyddio i wella’r brîd lleol ym Mhowys.

Dan Harri'r 8fed gwaharddwyd ceffylau bychain, a thebyg mai codi'r gwaharddiad hwnnw gan Elisabeth 1af a boblogeiddiodd yr enwau Bess a Queen ar gesyg oddi ar hynny. Yn 1740 gwaharddwyd ceffylau bychain o'r caeau rasio a phan ryddhawyd un ohonynt, stalwyn o'r enw Merlin, ar fryniau Rhiwabon, enwyd ei ddisgynyddion, a'u math, yn ferlynnod, merlod, merliwn a. y. b. Bu llawer o ddatblygu ar ferlod a chobiau trwy'r 19g ar gyfer marchogaeth a thynnu cerbydau ysgafn. Roedd galw mawr hefyd am ferlod i'r pyllau glo a chobiau'n geffylau gwaith yn yr ucheldiroedd. Sefydlwyd y Llyfr Gre Cymreig yn 1901 gyda phedair adran:

A – merlod mynydd bychain;
B – merlod;
C – merlod o fath y cob;
D – cobiau, oll o bwys ac enwogrwydd rhyngwladol erbyn heddiw.

Ceffylau gwedd

Roedd y ceffyl gwedd yn eithriadol o bwysig yn hanes amaethyddiaeth y wlad – yn tarddu’n wreiddiol o’r Oesoedd Canol pan ddatblygwyd ceffylau mawr, anferth a chryf i gario marchogion arfog i ryfel efo gymaint o bwysau o arfwisg haearn nes bod angen winsh i godi’r marchog ar gefn ei geffyl. Cafwyd defnydd newydd i’r ceffylau mawrion yn y 18g. Dyma gyfnod cychwyn a thwf y Chwyldro Diwydiannol pan oedd diwydiant a masnach yn cynnyddu’n aruthrol, a hefyd poblogaeth y wlad – yn enwedig y boblogaeth drefol a diwydiannol.

Gan fod angen bwydo pawb roedd angen cynhyrchu llawer iawn mwy o’r tir, ac fe arweiniodd hynny at chwyldro mewn amaethyddaeth hefyd. A dyna pryd, ymysg y torreth o newidiadau mewn dulliau amaethyddol ddigwyddodd yn sgîl hynny, y daeth y ceffyl gwedd i’r adwy i dynnu aradrau a throliau ac i wneud hynny yn llawer mwy effeithiol a chyflymach na’r ychain a oedd wedi bod wrthi ar hyd y canrifoedd cyn hynny.

Roedd y galw cynyddol am geffylau trymion i dynnu wageni strydoedd yn ysgogiad arall i amaethwyr fagu ceffylau gwedd a chwiliai porthmyn a dilars am barau neu bedwaroedd oedd yn cyd-fynd o ran maint, lliw a phatrwm ar gyfer gwahanol gwmnïau a bragdai a. y. b. I wella'r stoc llogid stalwyni pedigri o bob cwr o'r deyrnas gan Gymdeithasau Sirol i'w harddangos mewn sioeau ac yna eu gyrru ar gylchdeithiau rheolaidd i wasanaethu cesyg y fro. Allforid llawer o geffylau ifainc i ddinasoedd Lloegr ar y rheilffyrdd a gwrthgyferbynnir effaith economaidd y ceffylau'n gadael a'r arian yn dod i mewn i'r cyfnod diweddarach pan ddeuai tractorau i mewn a'r arian yn mynd allan.

Ar ddechrau'r 20g roedd dros 175,000 o geffylau gwedd yng Nghymru ac yn y 1900au roedd ’na fwy o geffylau gwedd na fuodd erioed cyn hynny – na wedyn chwaith. Roedd tua 70,000 o geffylau gwedd yng Nghymru hyd yn oed ar ddiwedd y 1930au. Gyrrwyd niferoedd mawr ohonynt i Ffrainc yn 1914–18, pan ddaethant eto'n geffylau rhyfel – i dynnu offer brwydro ayb. Buan y cwympodd eu niferoedd wedyn wrth i’r tractor ddod yn boblogaidd – doedd dim ond ryw 10,000 o geffylau gwaith ddiwedd y 1950au. Dim ond rhai ugeiniau sy’ ar ôl erbyn hyn, i’w defnyddio mewn cystadleuthau aredig a’u harddangos mewn sioeau, wedi eu trimio â rubanau lliwgar a'u rhawn wedi ei blethu.

Bridiau o Gymru

Ceir sawl brid o geffylau Cymreig, gan gynnwys y Cob Cymreig a'r Merlyn mynydd Cymreig. Yn y gorffennol, roedd y merlod hyn yn olygfa gyffredin ar fryniau Cymru, o Eryri i Frycheiniog. Erbyn heddiw ceir y canran mwyaf ohonynt yn Eryri, rhannau o ganolbarth Cymru a Bannau Brycheiniog. Amcangyfrifir fod tua 400-500 o ferlod mynydd Cymreig ar fryniau gogledd Cymry, yn Eryri yn bennaf, gyda tua eu hanner i'w cael ar y Carneddau.

Mae'r merlyn mynydd yn chwarae rhan bwysig mewn cadwraeth. Nid yw'n bwyta grug a blodau gwyllt, fel mae defaid yn wneud, ac felly mae'n cadw cynefin adar gwyllt.

Map yn dangos yr amrywiaeth o dermau i ddisgrifio caseg sydd ag ysfa i genhedlu.
Poster 'Caseg Wineu-goch wedi crwydro...'; Pentre-Mawr, Abertawe, Medi 1818.

Rasio ceffylau yng Nghymru

Mae rasio ceffylau yn dyddio o'r cyfnod Celtaidd ac yr oedd yn ddull pwysig i arddangos doniau'r meirch yn ffeiriau'r canoloesoedd. Daeth yn sbort pwysig ymysg uchelwyr y 18g ac yn gyfrwng iddynt arddangos eu cyfoeth a'u statws trwy fetio a magu ceffylau pedigri drudfawr. Roedd rasio merlod a chobiau yn boblogaidd ymysg ffermwyr a bugeiliaid Ceredigion a sonnir am Nans o'r Glyn, y ferlen gyffredin a drechodd redwyr o lawer gwell pedigri yn y 19g. Uchafbwynt Ffair Geffylau Cymreig fawr Barnet yn y 19g oedd ras geffylau'r porthmyn Cymreig. Cynhelir y "Grand National" Gymreig heddiw ar gae rasio Cas-gwent (Chepstow). Cododd rasio trotian, yn Nhregaron a mannau eraill o'r arfer o arddangos cobiau'n uchelgamu.

Daeth cystadleuthau marchogaeth yn boblogaidd mewn sioeau amaethyddol a bu cynnydd mawr ym mhoblogrwydd merlota yn hanner ola'r 20g.

Gofyn march / stalwyn ac ymadroddion eraill

Ceir cryn amrywiaeth yn yr eirfa a ddefnyddir i ddisgrifio ysfa caseg pan fo hi mewn gwres ag angen stalwyn. Yng Ngogledd Cymru dywedir ei bod yn "gofyn stalwyn" neu'n "marchio" ("marchu" mewn rhai ardaloedd). Ym Nyffryn tanat, Powys, dywedir ei bod "yn marchu" ac "ym Mrycheiniog", mae'r gaseg "yn marcha". Yng ngogledd Maldwyn, defnyddir "gofyn stalwyn/march/ceffyl", ac mae hyn yn dangos fod cryn amrywiaeth oddi fewn i un ardal fechan.

Yn yr hen Sir Fflint, dywedir fod y gaseg "eisiau stalwyn", yr un patrwm a chyda tharw – "eisiau tarw" ddywedir hefyd. Ceir "mofyn march" ym Morgannwg a de-orllewin Brycheiniog, ac maent hwythau'n cadw i'r un patrwm ac a wnant gyda tharw – "mofyn tarw" a ddywedant. Ond ceir gair anghyffredin yn ardal Aberangell, Llanbrynmair a Chaerwys ym Maldwyn: "yn wynedd", a fersiwn o'r term hwn a ddefnyddir yn ne Ceredigion a de Penfro: "yn wynen' neu 'yn wyner". Mewn un lle yng Nghwm Llynfell (Gorllewin Morgannwg) ceir amrywiad arall: "yn wynad".

Ceffylau lled wyllt

  • Merlod y Carneddau

Gre o geffylau wedi eu lleoli yn bennaf ar Gwm Llafar a Chwm Caseg.

  • Merlod Crawcwellt Trawsfynydd

Tyddyn Du, Tyddyn Mawr ac Adwy Deg oedd yn bridio rhain ar y Crawcwellt ger Trawsfynydd cyn belled yn ôl a’r ’40au o leiaf, fel merlod pyllau glo. Roedd y borfa a’r tir uchel yn cyfrannu at eu maint bychan ac yn eu gwneud yn ddelfrydol i’r pyllau. Byddent yn eu hel unwaith y flwyddyn i’w didoli er mwyn gwerthu a hynny trwy ddefnyddio Pont y Grible a’i chanllawiau fel corlan i’r pwrpas - ni fu i’r un ohonynt neidio dros y bont! Mae’n debyg mai mecaneiddio a dirywiad y diwydiant glo ddaeth a’r angen i ben ac iddynt wedyn fynd yn wyllt [fferal] dros amser gan nad oedd marchnad iddynt. Mae'n bryder gan rai fod nifer fawr ar gyfartaledd o stalwyni yn y gre.[5]

Ceffyl fel bwyd

Bu cig y ceffyl yn amrywio, pendilio yn wir, yn ei boblogrwydd ac amhoblogrwydd drwy’r oesoedd ac o wlad i wlad. Dyma ffilm Pathé hanesyddol o agweddau ac arferion Prydeinig at y fasnach cig ceffyl yn y blynyddoedd llwm ar ôl y rhyfel yn 1948: http://www.youtube.com/watch?v=7gaZdHLB5tY [2]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. International Commission on Zoological Nomenclature, 2003,Usage of 17 specific names based on wild species which are pre-dated by or contemporary with those based on domestic animals (Lepidoptera, Osteichthyes, Mammalia): conserved. [1]
  2. Wright, B. (March 29, 1999). "The Age of a Horse". Ministry of Agriculture, Food and Rural Affairs. Government of Ontario. Cyrchwyd 2009-10-21.
  3. Ensminger, tud. 46–50
  4. Ryder, Erin. "World's Oldest Living Pony Dies at 56". The Horse. Cyrchwyd 2007-05-31.
  5. Keith O'Brien, Bwletin Llên Natur rhif 19
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn Amryw o lefydd (Nifer o weisg).


Chwiliwch am ceffyl
yn Wiciadur.