Afon Dulas (Powys): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen lle| suppressfields = cylchfa|gwlad={{banergwlad|Cymru}}}} |
|||
:''Am afonydd eraill o'r un enw gweler [[Afon Dulas]] (gwahaniaethu).'' |
:''Am afonydd eraill o'r un enw gweler [[Afon Dulas]] (gwahaniaethu).'' |
||
[[Delwedd:Afon Dulas - geograph.org.uk - 1178064.jpg|250px|bawd|Afon Dulas]] |
[[Delwedd:Afon Dulas - geograph.org.uk - 1178064.jpg|250px|bawd|Afon Dulas]] |
Fersiwn yn ôl 22:18, 14 Gorffennaf 2019
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 8 metr |
Cyfesurynnau | 52.6001°N 3.8418°W |
- Am afonydd eraill o'r un enw gweler Afon Dulas (gwahaniaethu).
Afon yng ngogledd Cymru yw Afon Dulas, sy'n un o lednentydd Afon Dyfi. Mae'n llifo trwy Bowys yn bennaf ond gan orffen ei thaith yng Ngwynedd. Ei hyd yw tua 10 milltir.[1]
Cwrs
Prif darddle Afon Dulas yw llyn Glaslyn, tua 460 meter i fyny yn y bryniau 5 milltir i'r gogledd o gopa Pumlumon. Ar ôl llifo i gyfeiriad y gorllewin am ddwy filltir, mae afon fynyddig arall, sy'n tarddu yn y Bugeilyn tua 1.5 milltir i'r de o'r Glaslyn, yn llifo iddi. Ychydig yn is i lawr daw Afon Hengwm i lawr o'i tharddle ger Hyddgen (safle un o frwydrau mawr gwrthryfel Owain Glyndŵr) i lifo iddi. Ymleda'r afon i lifo trwy Ddyffryn Dulas.[1]
Tua milltir i'r gorllewin o bentref Aberhosan mae afon arall, sef Afon Carog (Nant Cymau) yn ymuno ag Afon Dulas. Wedyn mae'n llifo i gyfeiriad y gorllewin gydag ambell ffrwd arall yn llifo iddi cyn troi i gyfeiriad y gogledd. Mae'n llifo dan bont ar y briffordd A489 tua hanner ffordd rhwng Penegoes a Machynlleth, lle mae Afon Crewi yn llifo iddi o'r dwyrain. Ar ben ei thaith mae Afon Dulas yn llifo i Afon Dyfi ger Neuadd Dolguog, ar ôl mynd dan bont ar Reilffordd y Cambrian, rhyw filltir i'r gogledd-ddwyrain o Fachynlleth.[1]
Cyfeiriadau
Gweler hefyd
- Coed Afon Crewi: Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar lannau Afon Crewi, isafon Afon Dulas.