Llanbadarn Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 9: Llinell 9:
==Cludiant Cyhoeddus==
==Cludiant Cyhoeddus==
[[Image:TrenLlanbadarnFawr.jpg|thumb|right|300px|Cyrhaedda trên yng ngorsaf Llanbadarn Fawr]]
[[Image:TrenLlanbadarnFawr.jpg|thumb|right|300px|Cyrhaedda trên yng ngorsaf Llanbadarn Fawr]]
Yn ystod tymhorau'r gwanwyn, hydref a hâf, darperir gwasanaethau trênau gan [[Rheilffordd Dyffryn Rheidol|Reilffordd Dyffryn Rheidol]] i [[Gorsaf reilffordd Pontarfynach|Bontarfynach]], [[Gorsaf reilffordd Capel Bangor|Capel Bangor]] ac [[Gorsaf reilffordd Aberystwyth|Aberystwyth]]. Gellir gofyn i stopio'r tren yn y pentref, on nid yw hyn yn diwydd yn aml. Mae'r reilffordd hon yn gorwedd ger y reilffordd o Aberystwyth i [[Machynlleth|Fachynlleth]] a'r [[Yr Amwythig|Amwythig]].
Yn ystod tymhorau'r gwanwyn, hydref a hâf, darperir gwasanaethau trênau gan [[Rheilffordd Dyffryn Rheidol|Reilffordd Dyffryn Rheidol]] i [[Gorsaf reilffordd Pontarfynach|Bontarfynach]], [[Gorsaf reilffordd Capel Bangor|Capel Bangor]] ac [[Gorsaf reilffordd Aberystwyth|Aberystwyth]]. Gellir gofyn i stopio'r tren yn y pentref, on nid yw hyn yn diwydd yn aml. Mae'r reilffordd hon yn gorwedd ger y reilffordd o Aberystwyth i [[Machynlleth|Fachynlleth]] ac [[Amwythig]].


Mae llawer o wasanaethau bwsiau yn Llanbadarn Fawr gan gynnwys 501 o Aberystwyth i [[Parc y Llyn|Barc y Llyn]] sydd yn dod bob ugain munud.
Mae llawer o wasanaethau bwsiau yn Llanbadarn Fawr gan gynnwys 501 o Aberystwyth i [[Parc y Llyn|Barc y Llyn]] sydd yn dod bob ugain munud.

Fersiwn yn ôl 22:19, 21 Medi 2010

Am y gymuned ym Mhowys, gweler Llanbadarn Fawr, Powys.

Pentref ar gyrion tref Aberystwyth yw Llanbadarn Fawr.

Mae'r eglwys, sydd wedi ei chysegru i sant Padarn, yn un nodedig. Roedd y clas yma yn ystod y Canol Oesoedd cynnar yn enwog am ei ddysg dan Sulien (c. 1010 - 1091) a'i fab Rhygyfarch ap Sulien. Roedd y clas yn parhau mewn bodolaeth pan ymwelodd Gerallt Gymro a Llanbadarn ar ei daith trwy Gymru yn 1188, er ei fod yn dirywio erbyn hynny. Ail-adeiladwyd yr eglwys yn 1257 yn dilyn tân, ac mae cryn dipyn o ail-adeiladu wedi bod wedyn. Bu Dafydd ap Gwilym yn byw yn y pentref ac ma yna gerdd amdano'i hun yn eglwys Llanbadarn, yn canolbwyntio ar y merched yn y gynulleidfa yn hytrach na'r gwasanaeth. Gwelodd y pentref ddatblygu mawr yn ystod y 90au, gyda archfarchnad Safeway a siopau eraill yn cael ei hadeiladu ar dir fferm Parc yr Afon.

Mae gan Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth gampws yma, yn cynnwys yr adran gwyddor gwybodaeth (Coleg Llyfrgellwyr Cymru gynt) a'r Sefydliad Astudiaethau Gwledig (Coleg Amaethyddiaeth Cymru gynt). Mae dwy dafarn yn y pentref, y Llew Du a'r Gogerddan Arms. Yma hefyd y lleolir caeau chwaraeon Prifysgol Aberystwyth (Prifysgol Cymru, Aberystwyth tan 2007) ar gaeau Blaendolau.

Cludiant Cyhoeddus

Cyrhaedda trên yng ngorsaf Llanbadarn Fawr

Yn ystod tymhorau'r gwanwyn, hydref a hâf, darperir gwasanaethau trênau gan Reilffordd Dyffryn Rheidol i Bontarfynach, Capel Bangor ac Aberystwyth. Gellir gofyn i stopio'r tren yn y pentref, on nid yw hyn yn diwydd yn aml. Mae'r reilffordd hon yn gorwedd ger y reilffordd o Aberystwyth i Fachynlleth ac Amwythig.

Mae llawer o wasanaethau bwsiau yn Llanbadarn Fawr gan gynnwys 501 o Aberystwyth i Barc y Llyn sydd yn dod bob ugain munud.

Dolen allanol