Gwenwynwyn ab Owain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
delwedd |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Yn fuan daeth Gwenwynwyn i wrthdrawiad a [[Llywelyn Fawr]] oedd wedi dod yn dywysog [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]]. Bwriadodd Llywelyn ymosod ar Bowys Wenwynwyn yn [[1202]], ond gwnaed heddwch rhyngddynt gan yr eglwys. Ar y dechrau roedd y brenin [[John, brenin Lloegr|John o Loegr]] yn cefnogi Gwenwynwyn, ond yn ddiweddarach gwnaeth Llywelyn gytundeb a John a phriodi ei ferch [[Siwan]]. |

Yn [[1208]] aeth pethau'n ddrwg rhwng Gwenwynwyn a John pan ymosododd Gwenwynwyn ar diroedd un o arglwyddi'r [[Y Mers|Mers]]. Galwyd Gwenwynwyn i |
Yn [[1208]] aeth pethau'n ddrwg rhwng Gwenwynwyn a John pan ymosododd Gwenwynwyn ar diroedd un o arglwyddi'r [[Y Mers|Mers]]. Galwyd Gwenwynwyn i [[Amwythig]] i weld y brenin, a phan gyrhaeddodd yno cymerwyd ef yn garcharor. Achubodd Llywelyn y cyfle i feddiannu llawer o'i diroedd. |
||
Rhwng [[1212]] a 1216 oedd Gwenwynwyn mewn cynghrair a Llywelyn, ond y flwyddyn honno dychwelodd John rai o'i diroedd iddo a gwnaeth gynghrair a'r brenin yn erbyn Llywelyn. Ymateb Llywelyn oedd ymosod ar Bowys Wenwynwyn a gyrru Gwenwynwyn ar ffo. Symudodd ei lys o'r hen lys brenhinol ym [[Mathrafal]] i'r [[Trallwng]]. Yn ddiweddarach ffoes i [[Lloegr|Loegr]], lle bu farw tua'r flwyddyn 1216. |

Fersiwn yn ôl 22:11, 21 Medi 2010
Roedd Gwenwynwyn ab Owain Cyfeiliog (bu farw tua 1216) yn dywysgog Powys Wenwynwyn o 1195 ymlaen. Oddi wrtho ef y cymerodd y deyrnas hon, a grewyd pan rannwyd teyrnas Powys yn ddwy, ei henw.
Daeth Gwenwynwyn yn rheolwr Powys Wenwynwyn ar farwolaeth ei dad, Owain Cyfeiliog. Ym mlynyddoedd olaf y 12fed ganrif ceisiodd Gwenwynwyn ei sefydlu ei hun fel arweinydd y tywysogion Cymreig, a gosododd warchae ar Gastell Paun yn 1198, ond gorchfygwyd ef gan fyddin Normanaidd dan Geoffrey Fitz Peter.
Yn fuan daeth Gwenwynwyn i wrthdrawiad a Llywelyn Fawr oedd wedi dod yn dywysog Gwynedd. Bwriadodd Llywelyn ymosod ar Bowys Wenwynwyn yn 1202, ond gwnaed heddwch rhyngddynt gan yr eglwys. Ar y dechrau roedd y brenin John o Loegr yn cefnogi Gwenwynwyn, ond yn ddiweddarach gwnaeth Llywelyn gytundeb a John a phriodi ei ferch Siwan.
Yn 1208 aeth pethau'n ddrwg rhwng Gwenwynwyn a John pan ymosododd Gwenwynwyn ar diroedd un o arglwyddi'r Mers. Galwyd Gwenwynwyn i Amwythig i weld y brenin, a phan gyrhaeddodd yno cymerwyd ef yn garcharor. Achubodd Llywelyn y cyfle i feddiannu llawer o'i diroedd.
Rhwng 1212 a 1216 oedd Gwenwynwyn mewn cynghrair a Llywelyn, ond y flwyddyn honno dychwelodd John rai o'i diroedd iddo a gwnaeth gynghrair a'r brenin yn erbyn Llywelyn. Ymateb Llywelyn oedd ymosod ar Bowys Wenwynwyn a gyrru Gwenwynwyn ar ffo. Symudodd ei lys o'r hen lys brenhinol ym Mathrafal i'r Trallwng. Yn ddiweddarach ffoes i Loegr, lle bu farw tua'r flwyddyn 1216.
Dilynwyd Gwenwynwyn gan ei fab Gruffudd ap Gwenwynwyn, ond meddianwyd Powys Wenwynwyn gan Lywelyn.
Llyfryddiaeth
- J. E. Lloyd, A History of Wales (1911)
Rhagflaenydd: Owain Cyfeiliog |
Tywysog Powys Wenwynwyn 1195–1216 |
Olynydd: Llywelyn Fawr |