Llandrindod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: br:Llandrindod
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 17: Llinell 17:
Cynhelir [[marchnad]] yn y dref bob dydd Gwener gerllaw yr orsaf drên. Ar ddydd Iau cynhelir marchnad ffermwyr yn Stryd Middleton ble gwerthir cynnyrch lleol. Ceir hefyd nifer o [[siop]]au bach annibynnol a dau [[archfarchnad]] yn y dref.
Cynhelir [[marchnad]] yn y dref bob dydd Gwener gerllaw yr orsaf drên. Ar ddydd Iau cynhelir marchnad ffermwyr yn Stryd Middleton ble gwerthir cynnyrch lleol. Ceir hefyd nifer o [[siop]]au bach annibynnol a dau [[archfarchnad]] yn y dref.


Mae gorsaf drên Llandrindod yn arhosfa ar [[Llinell Calon Cymru|Linell Calon Cymru]], sy'n rhedeg o [[Abertawe]] i'r [[Amwythig]].
Mae gorsaf drên Llandrindod yn arhosfa ar [[Llinell Calon Cymru|Linell Calon Cymru]], sy'n rhedeg o [[Abertawe]] i [[Amwythig]].


{{Trefi Powys}}
{{Trefi Powys}}

Fersiwn yn ôl 22:11, 21 Medi 2010

Llandrindod
Powys
Llandrindod fel Nos

Mae Llandrindod yn dref yng nghanolbarth Powys.

Fe dyfodd y dref yn y 19eg ganrif pryd gyrhaeddodd y rheilffordd, gan ddod â llawer o ymwelwyr i brofi'r dyfroedd arbennig o'r ffynhonnau sydd yn y dref (dyma pryd cafwyd yr enw Saesneg Llandrindod Wells, er mwyn denu rhagor o ymwelwyr "ffasiynol").

Siop yn Llandrindod

Erbyn hyn mae Llandrindod yn gartref i Gyngor Sir Powys, sydd yn un o brif gyflogwyr y dref. Cynhelir nifer o gynadleddau yn y dref, gan bod cynifer o westau yn y dref ac hefyd Y Pafiliwn, adeilad mawr sy'n addas ar gyfer digwyddiadau eitha' mawr.

Mae Cwm Y Gof (Saesneg: Rock Park) yn barc pert rhwng y dref ac Afon Ieithon. Yn y parc mae man yn uchel uwchben yr afon o'r enw Llam Y Cariadau (Saesneg: Lovers' Leap). Yn ôl hen chwedl, oddi yno y neidiodd dau oedd yn gariadon cudd.

Mae gan Landrindod hefyd lyn adnabyddus gydag ynys bach yn ei ganol.

Cynhelir marchnad yn y dref bob dydd Gwener gerllaw yr orsaf drên. Ar ddydd Iau cynhelir marchnad ffermwyr yn Stryd Middleton ble gwerthir cynnyrch lleol. Ceir hefyd nifer o siopau bach annibynnol a dau archfarchnad yn y dref.

Mae gorsaf drên Llandrindod yn arhosfa ar Linell Calon Cymru, sy'n rhedeg o Abertawe i Amwythig.


Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.